Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol ar gyfer eitem 4 – Diogelu Corfforaethol – Adroddiad Blynyddol (Tachwedd) 2021/2022 ac eitem 6 – Adroddiad Cynnydd Chwarter 2 – 2022/2023 : Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 416 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gafwyd ar 23 Tachwedd, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd 23 Tachwedd, 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Mȏn

 

Roedd yr Is-gadeirydd eisiau canfod a oedd unrhyw ddiweddariad ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer camerâu CCTV symudol mewn cymunedau gwledig. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y mater wedi’i godi o fewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn a dywedodd nad oedd cyllid ar gael ar hyn o bryd i ddarparu camerâu CCTV symudol. Fodd bynnag, mae Diogelwch Cymunedol wedi’i flaenoriaethu yng Nghronfa Ffyniant Gyffredin y llywodraeth, a chynhelir trafodaethau o fewn Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru Mwy Diogel yn fuan.

4.

Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol - Tachwedd 2021/2022 pdf eicon PDF 690 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol – Tachwedd 2021/2022.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Adroddiad Blynyddol hwn yn adroddiad ar ddiogelu trefniadau corfforaethol sy’n disgrifio’r cynnydd a wnaed ac i ba raddau mae diogelu wedi’i ymgorffori ym mhob agwedd ar wasanaethau, swyddogaethau a dyletswyddau’r cyngor. Dywedodd fod yr Awdurdod wedi sefydlu Byrddau Diogelu Corfforaethol Gweithredol a Strategol sydd ag agenda cadarn ar waith sy’n cynnwys data pwysig a rennir gyda’r Byrddau. Dywedodd fod gan bob gwasanaeth Hyrwyddwr Diogelu sy’n cynnig cyngor ar bob mater diogelu ar gyfer staff eraill o fewn ei wasanaeth, a sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Diogelu) fod y strwythurau llywodraethu ar waith i sicrhau bod yr holl ddyletswyddau cyfreithiol yn cael eu cyflawni, a bod agwedd yr Awdurdod tuag at ddiogelu yn foddhaol. Mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol sicrhau bod yr holl weithwyr a gwirfoddolwyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran diogelu, ac yn ymwybodol fod hyn yn cynnwys adroddiad ar bryderon yn ymwneud â’r plant ac oedolion maen nhw’n dod ar eu traws. Aeth ymlaen i ddweud fod y Panel Prevent a Channel wedi’i gynnwys o fewn Cyfansoddiad y Cyngor. Roedd rhestr o Swyddogion Statudol a Phriodol a oedd yn dangos pwy sy’n arwain Prevent a Channel hefyd wedi’i chynnwys o fewn yr adroddiad. Dywedodd fod Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol Cymru wedi’u cynnwys yn strwythur y grwpiau, gan ddiffinio dyletswyddau sy’n gysylltiedig â rolau gweithwyr, rheolwyr neu arweinwyr gwahanol. Mae cam allweddol wedi’i adlewyrchu yn y cynllun gweithredu, sef i fapio’r gweithlu gyda’r grwpiau gwahanol a llunio cynllun er mwyn darparu hyfforddiant. Dyma gyfle i fapio gofynion hyfforddi’r gweithlu o ran Atal a Chaethwasiaeth Fodern ar yr un pryd. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at y cymorth a’r ymyriadau effeithiol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar gyfer ymateb i bryderon diogelu mewn perthynas â’r rheiny sy’n gweithio, un ai am dâl neu’n wirfoddol, sy’n golygu eu bod mewn cysylltiad â phlant neu oedolion sydd mewn risg. Roedd rhestr o honiadau a wnaed yn erbyn gweithwyr/gwirfoddolwyr y cyngor, sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion gydag anghenion gofal a chymorth, wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at yr ymarfer effeithiol o fewn Cynghorau mewn perthynas â darpariaeth caffael wrth gomisiynu gwasanaethau. Mae’r Awdurdod wedi cyhoeddi Hysbysiad Cyngor ar Ddiogelu, Caffael a Rheoli Contract sy’n helpu gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan bartneriaid yn ddiogel ac yn hyrwyddo diogelu. Mae pob gwasanaeth yn gyfrifol am ei drefniadau Caffael a Rheoli Contract ei hun, yn ogystal â phenderfyniad ynghylch sut i ddefnyddio’r Hysbysiad Cyngor.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, a chodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Cyngor yn sicrhau bod ymarfer diogel ar waith wrth gomisiynu gwasanaethau, a bod yr holl ddarparwyr sy’n gweithredu ar ran y Cyngor yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu’n effeithiol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y trefniadau gofynnol yn cael eu rhoi ar waith o ran sicrhau bod yr holl ddarparwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Lleisiant Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn : 2023/2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Cynllun Llesiant Drafft – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer 2023/2028.

 

Dywedodd arweinydd y Cyngor mai dyma’r ail Gynllun Llesiant ar y Cyd, a bod y broses ymgynghori statudol wedi dechrau ar ddechrau’r flwyddyn tan 6 Mawrth, 2023. Yn dilyn hyn, bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyn creu Cynllun Llesiant terfynol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyhoeddi Cynllun Llesiant sy’n amlinellu sut mae’n bwriadu gwella llesiant trigolion yr ardal. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i wneud cyfraniad ystyrlon i’r tirlun partneriaeth heb ddyblygu gwaith partneriaethau eraill, ac felly mae’r Cynllun Llesiant ddrafft yn ceisio pennu a oes gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rôl o ran arwain neu ddarparu’r blaenoriaethau llesiant. Dywedodd fod y Ddeddf yn tynnu sylw at saith targed llesiant cenedlaethol a phum ffordd o weithio er mwyn rhoi pwrpas cyffredinol i gyrff cyhoeddus. Wrth weithio mewn partneriaeth, mae’n bwysig cyflawni’r targedau hyn a gwneud gwahaniaeth i lesiant trigolion Gwynedd ac Ynys Môn.

 

 

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn fod y Pwyllgor Sgriwtini hwn a’r Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yng Nghyngor Gwynedd yn ymgynghorai statudol ar gyfer y Cynllun Llesiant Drafft. Dywedodd mai’r cam cyntaf o ran creu Cynllun Llesiant oedd gwneud asesiad ar lesiant a gwneud ymchwil er mwyn deall a dysgu mwy am yr ardaloedd hynny. Bydd y cyfnod ymgynghori tri mis statudol yn dod i ben 6 Mawrth, ac mae’r Bwrdd yn ceisio ymestyn yr ystod o ymgynghorai ar gyfer y Cynllun Drafft, gan wahodd cynrychiolwyr o chweched dosbarth Ysgolion Uwchradd Gwynedd ac Ynys Môn, a myfyrwyr o Goleg Menai i herio nodau ac amcanion y Bwrdd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, a chodwyd y pwyntiau pwysig canlynol:-

 

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch ym mha ffordd y gallai cymunedau helpu i ddarparu blaenoriaethau’r cynllun a’u datblygu ymhellach yn y dyfodol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y cymunedau lleol wedi bod ynghlwm drwy Medrwn Môn, sydd â chynrychiolydd ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae cymunedau lleol wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori ac mae Medrwn Môn hefyd wedi bod yn rhan o’r sesiynau hynny o fewn y cymunedau. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a ymgynghorwyd â Chynghorau Tref a Chymunedol mewn perthynas â’r Cynllun Llesiant. Ymatebodd Rheolwr y Rhaglen gan ddweud fod cynrychiolwyr o’r Bwrdd wedi cymryd rhan mewn Fforymau Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned yng Ngwynedd ac ar Ynys Môn, ac maent hefyd wedi cael eu gwahodd i gyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned;

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a chredir y bydd yr amcanion a blaenoriaethau llesiant sydd wedi cael eu nodi er mwyn cyflawni targedau yn gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd y ddwy sir. Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eisiau dyblygu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan sefydliadau eraill. Dywedodd ei bod yn bwysig fod cymunedau lleol yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud o ran cyflawni amcanion y Bwrdd Gwasanaethau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Cynnydd Ch 2 - 2022/2023 : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Adrodd Cynnydd Chwarter 2 - 2023/2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Adroddiad Cynnydd ar gyfer Chwarter 2 yn cael ei gyflwyno er gwybodaeth, ac mae’n darparu trosolwg o gynnydd prosiectau a’r Rhaglen Bargen Twf. Mae adroddiad Chwarter 2 yn dangos y prosiectau sy’n adrodd yn erbyn y proffil darparu portffolio diwygiedig a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais ym mis Medi 2022. Mae tri phrosiect yn adrodd fel Coch yn yr adroddiad un ai oherwydd risg o gwmpas y prosiect, neu oediadau sylweddol yn amserlen y prosiect:-

 

·      Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel (Prifysgol Bangor) – prosiect dan adolygiad oherwydd cais i newid rhagamcaniadau cyfalaf a refeniw. Mae’r Swyddog Rheoli Portffolio yn gweithio gyda noddwr y prosiect i edrych ar opsiynau er mwyn cyflymu darpariaeth.

·      Hwb Economi Wledig Glynllifon – angen sicrhau caniatâd cynllunio a bwlch ariannu posibl oherwydd costau adeiladu cyfalaf cynyddol;

·      Fferm Sero Net Llysfasi – prosiect bellach wedi cael ei ohirio, mae cyllid ar gael i’w adleoli a bydd y broses ar gyfer mynegi diddordeb ar gyfer prosiectau newydd yn cael ei pharatoi.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod rhai o’r Bargeinion Twf wedi cael eu gohirio oherwydd gwaith cynllunio manwl sydd ar waith yn ogystal â fforddiadwyedd oherwydd sefyllfa’r economi.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, a chodwyd y pwyntiau pwysig canlynol:-

 

·      Gofynnwyd ai’r cynnydd mewn costau sy’n golygu na fydd y Bargeinion Twf a restrwyd yn mynd y neu blaen. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Achos Busnes pob prosiect yn faith a chymhleth, ac mae perygl na fyddai’r prosiectau wedi bod yn gyraeddadwy. Dywedodd fod sefyllfa’r economi wedi newid dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae nifer o ranbarthau wedi cyflwyno cais i’r Llywodraeth daro ail olwg ar y Bargenion Twf gan fod rhai prosiectau’n wynebu heriau ariannol. Cyfeiriodd at brosiect Morlais, sydd wedi cael ei adolygu o ran gwneud y defnydd gorau o gyllid Ewropeaidd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cynnydd mewn chwyddiant wedi bod yn ffactor i brosiectau a hynny o ran cynyddu costau;

·      Cyfeiriwyd at brosiect Egnïo Trawsfynydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gofynnwyd a fydd y prosiect hwn yn rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr fod prosiect Trawsfynydd yn rhan o’r Fargen Twf ac mae cyllid cyfalaf wedi’i gynnwys a’i neilltuo ar gyfer y prosiect. Fodd bynnag, mae’r cyllid tuag at brosiect Trawsfynydd wedi’i neilltuo ar gyfer adeg yn y dyfodol, ond mae’r datblygwr yn barod i ddatblygu’r safle nawr;

·      Gwnaed sylwadau ynghylch y gofynion ar gyfer cyflwyno’r Adroddiadau Cynnydd i’r Pwyllgor Sgriwtini ar sail chwarterol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod Trefniadau Llywodraethu’n gofyn i gyflwyno Adroddiadau Chwarterol ar gyfer sgriwtini, ac i newid y gofyniad hwn, byddai angen trafodaeth ranbarthol gyda Llywodraeth y DU a Chymru. Dywedodd y Prif Weithredwr bod angen sicrwydd gan y ddwy lywodraeth bod proses sgriwtini ar waith i herio’r Fargen Twf, yn enwedig oherwydd trefniadau llywodraethu newydd y Cyngor Cyfiawnder Sifil.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 2 – 2022/2023;

·      Fod y broses ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn cyflwyno Blaen Rhaglen Waith fynegol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2022/23, i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cytuno ar fersiwn gyfredol y Blaen Rhaglen Waith ar gyfer 2022/23.

·      Nodi’r cynnydd hyd yn hyn o ran gweithredu’r Blaen Rhaglen Waith.