Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2022 yn gofnod cywir

3.

Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad (Gofal Cymdeithasol) pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddatblygu asesiad ar y cyd o ddigonolrwydd a chynaliadwyedd y Farchnad Gofal Cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn caniatáu i’r awdurdod ddeall y farchnad Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru gan olygu fod yr awdurdod yn gallu comisiynu a chefnogi darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn effeithiol. Serch hynny, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau fod yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad hefyd yn cynnwys asesiad o’r farchnad ar gyfer gofal a chymorth yn ardal pob awdurdod lleol yn ogystal ag yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei chyfanrwydd. Bydd yr adroddiad yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau rhanbarthol a lleol ynghylch comisiynu gofal a chymorth, gan fwydo i’r cynllun strategol ar gyfer ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a bydd yn helpu i lunio strategaethau comisiynu lleol a rhanbarthol. Nododd fod cysylltiad cryf rhwng yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad a’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth lle mae’r asesiad o anghenion y boblogaeth yn nodi’r angen a’r galw ar hyn o bryd am ofal a chymorth, a’r angen a’r galw a ragwelir, ynghyd ag ystod a lefel y gwasanaethau fydd eu hangen i ddiwallu’r galw hwnnw. Defnyddir yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad i gynllunio cynllun cyflawni lleol a rhanbarthol a datblygiadau yn y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd fod galw am y Gwasanaeth Gofal Cartref wedi codi 33% yn ystod y blynyddoedd diwethaf a rhagwelir y bydd y galw’n cynyddu. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y darparwyr sy’n darparu gwasanaeth Gofal Cartref ac mae’n bryder fod recriwtio yn gostwng yn y Sector Gofal, yn enwedig yn y ddarpariaeth Gofal Cartref, ac mae oedran cyfartalog Gofalwyr Cartref dros 50 oed. Cyfeiriodd at Ofal Preswyl a phryderon ynghylch twf yn y boblogaeth sy’n heneiddio sydd angen y gwasanaethau hyn ac unigolion sydd angen gofal arbenigol yn benodol; mae angen mwy o ddarpariaeth, yn arbennig Gwasanaethau Dementia.

 

Yn ogystal, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod galw am ofal arbenigol yn y Gwasanaethau Plant hefyd ac mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu’r Ddarpariaeth Cartrefi Clyd ar yr Ynys. Mae’r Gwasanaethau Maethu a Mabwysiadu wedi gweld cynnydd mewn Gofalwyr Maeth ac mae 80% o blant mewn gofal yn cael eu lleoli ar yr Ynys ac mae hyn yn cymharu’n ffafriol ag ardaloedd eraill.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd sut mae’r awdurdod wedi denu Gofalwyr Maeth ac a ydynt yn cael eu cyflenwi gan gwmnïau preifat. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y pecyn a gynigir i Ofalwyr Maeth wedi gwella a bod yr awdurdod wedi llwyddo i ddenu 6 gofalwr maeth newydd bob blwyddyn yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Ychwanegodd fod darpar Ofalwyr Maeth wedi dangos diddordeb wrth ymweld â stondin Cyngor Môn yn Sioe Môn yn ddiweddar. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Addysg pdf eicon PDF 615 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd G O Jones, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, drosolwg o waith y 3 phanel sgriwtini a sefydlwyd. O ran cyd-destun lleol, nododd fod aelodaeth y Pwyllgor Sgriwtini Addysg yn cynnwys Aelodau newydd a gafodd eu hethol ym mis Mai. Felly, bydd angen i’r Cyngor greu’r amodau i bob Aelod gyfranogi’n llawn yng ngwaith craffu’r Panel e.e. sgiliau ar gyfer craffu effeithiol, cwestiynu effeithiol, dealltwriaeth o’r system Addysg, codi ymwybyddiaeth am ffrydiau gwaith cenedlaethol ym maes addysg ac ati. Felly, y bwriad yw gwneud defnydd llawn o’r flaen raglen waith i sicrhau mewnbwn priodol ac amserol er mwyn cynorthwyo aelodau’r Panel Sgriwtini Addysg. Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg mai’r bwriad yw y bydd y Panel Sgriwtini Addysg yn cyfarfod yn fisol ac yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio bob chwarter. Bydd cyfarfod nesaf y Panel yn canolbwyntio ar adroddiad Arolygiad Estyn ar yr Awdurdod Addysg a dderbyniwyd ym mis Mehefin 2022, yn ogystal â’r cynllun gweithredu ôl-arolwg. Nododd fod yr adroddiad Arolygiad Estyn a dderbyniwyd gan yr Awdurdod yn ganmoladwy iawn o’r Gwasanaeth Addysg ar Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd cychwynnol hyd yma mewn perthynas â gwaith y Panel Sgriwtini Addysg.

 

GWEITHRED : Dim                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                  

 

5.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2021/22 pdf eicon PDF 360 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy ac mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i osod a chyhoeddi amcanion llesiant a chymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny. Roedd y Ddeddf hefyd yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyda chynrychiolaeth o gyrff cyhoeddus allweddol. Bob pum mlynedd mae’n rhaid i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd a’i ddefnyddio fel sylfaen i’r Cynllun Llesiant ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Nododd fod gweithio mewn partneriaeth wedi canolbwyntio ar chwe maes yn ystod cyfnod Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer 2017-2022 h.y. Yr iaith Gymraeg, Tai i bobl leol, Effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau, Effaith newid hinsawdd ar lesiant cymunedau, Iechyd a gofal oedolion a Lles a chyflawniad plant a phobl ifanc. Dywedodd y Prif Weithredwr y cydnabyddir bod angen fframwaith i amlygu’r ffaith fod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a gwaith partneriaeth yn ychwanegu gwerth yn y prif feysydd y mae’r bartneriaeth wedi canolbwyntio arnynt yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

 

Cyflwynodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Pwyllgorau Sgriwtini awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn yn craffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chyflwynir adroddiad ddwywaith y flwyddyn. Nododd fod gweithdai wedi’u cynnal, gyda chymorth Cyd-gynhyrchu Cymru, er mwyn caniatáu i aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried a yw blaenoriaethau presennol yn parhau i fod yn berthnasol ac adolygu rôl a phwrpas y Bwrdd yn y dyfodol. Mae aelodau’r Bwrdd yn awyddus i wneud cyfraniad ystyrlon i’r dirwedd partneriaethau heb ddyblygu gwaith partneriaethau eraill, felly bydd y Cynllun Llesiant nesaf yn nodi’n glir ai rôl arweiniol neu rôl gyflawni sydd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â’r blaenoriaethau Llesiant. Bwriedir cyhoeddi’r Cynllun Llesiant terfynol ynghyd ag amcanion manwl ym mis Mai 2023.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·           Nodwyd fod y Pwyllgor wedi cael ei hysbysu yn y gorffennol nad yw sefydliadau partner yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn rheolaidd. Gofynnwyd a yw presenoldeb wedi gwella yng nghyfarfodydd y Bwrdd yn ddiweddar. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod rhaid i rai cynrychiolwyr statudol fynychu cyfarfodydd y Bwrdd a’r bwriad yw ailymweld ag aelodaeth y Bwrdd i weld a ellir gwahodd cynrychiolwyr o sefydliadau eraill i fynychu. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ac Arweinydd Cyngor Gwynedd yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a bod presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd wedi gwella ers symud i gyfarfodydd rhithwir.

·           Nodwyd nad yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno dyblygu’r gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau eraill. Codwyd cwestiynau am y sefydliadau niferus eraill sy’n bodoli ac sy’n cyhoeddi cynlluniau datblygu strategol a gofynnwyd a fydd y cynlluniau datblygu strategol a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2022/23.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Cytuno ar fersiwn gyfredol y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23.

·           Nodi cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Flaen Raglen Waith.