Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 18fed Hydref, 2022 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddoreb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 310 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 26 Medi, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2022 yn gywir.

 

4.

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg sydd yn ymateb i’r argymhellion o’r arolwg Estyn. pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Iaith Gymraeg fod Awdurdod Addysg Ynys Môn wedi cael ei arolygu gan Estyn ym mis Mehefin eleni a chyhoeddwyd yr adroddiad ar 22 Gorffennaf 2022. Roedd yr arolygiad yn edrych ar ddeilliannau, dysgu ac addysgu, arweinyddiaeth a rheolaeth ac roedd yn nodi llwyddiannau ac unrhyw feysydd i’w gwella. Dywedodd fod yr adroddiad yn un cadarnhaol iawn ac roedd yn nodi fod ansawdd gadarn ac effeithiolrwydd arweinwyr y Gwasanaeth Dysgu yn yr Awdurdod yn cyfrannu’n effeithiol tuag at sicrhau gwasanaethau addysg o ansawdd uchel. Nodwyd fod ethos a meddylfryd ‘Tîm Môn’ wedi cael ei ddatblygu lle mae cydweithrediad a chyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, ei feithrin a’i ddefnyddio er budd plant a phobl ifanc yr ynys. Nodwyd dau faes o arfer dda ac mae’r Gwasanaeth Dysgu’n paratoi astudiaethau achos ar y gwaith cydlynus hwn, ynghyd â dau faes sydd angen eu gwella fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod adroddiad Estyn ar Wasanaeth Dysgu’r Awdurdod Lleol yn adroddiad cadarnhaol iawn. Roedd yr adroddiad yn nodi fod ansawdd gadarn ac effeithiolrwydd y Gwasanaeth Dysgu wedi cyfrannu at wasanaethau addysg o ansawdd uchel ar yr ynys. Mae’r tîm wedi gosod disgwyliadau uchel, wedi arwain timau’n effeithiol ac wedi cyd-weithio’n dda i yrru blaenoriaethau strategol. Mae’r Tîm, gan gynnwys aelodau etholedig, yn barod i wneud penderfyniadau anodd ac amserol trwy newid a mireinio cynlluniau a blaenoriaethau yn unol â’r amgylchiadau. Nododd fod cyfeiriadau mynych yn yr adroddiad at weithio’n effeithiol ac at weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill yn yr Awdurdod a gydag ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y cyfeiriad at lesiant yn yr adroddiad, a’r cyfeiriad penodol at gefnogi a hyrwyddo llesiant y dysgwyr a’r gweithlu, yn enwedig yn ystod y pandemig, a bod yr ethos o weithio mewn modd ataliol yn greiddiol i waith yr Awdurdod.

 

Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones, fod y Panel Sgriwtini Addysg a gynhaliwyd ar 22 Medi 2022 wedi derbyn cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Arolygiad Estyn o’r Awdurdod Addysg ynghyd â’r Cynllun Gweithredu drafft. Yn y cyfarfod, tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sylw at brif negeseuon ac argymhellion yr adroddiad. Ychwanegodd fod y Panel wedi nodi fod dau argymhelliad yn yr adroddiad yn cyfeirio at feysydd sydd angen eu gwella: Cryfhau prosesau ar gyfer arfarnu effaith gwaith y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu a chryfhau trefniadau sgriwtini ffurfiol. Bydd y Panel Sgriwtini yn hunanarfarnu ei gyfraniad i’r broses sgriwtini er mwyn darparu tystiolaeth o’r gwerth a ychwanegir i’r gyfundrefn addysg fel rhan o’r rhaglen waith; rhagwelir y bydd hyn yn cael ei drafod ym mis Chwefror 2023. Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod y Panel yn croesawu Adroddiad Arolygiad Estyn ac y bydd yn monitro’r cyflawniadau yn erbyn y Cynllun Gweithredu Drafft.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol gan Estyn a chodwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Arfor pdf eicon PDF 869 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth drosolwg o Raglen Arfor 1, sef cyllid refeniw gwerth £2m a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019/20 a 2020/21 i Gynghorau Sir Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Ar Ynys Môn, defnyddiwyd cyllid refeniw Arfor gwerth £468k ar gyfer Grantiau Busnes, Grantiau Iaith mewn Busnes, Llwyddo’n Lleol 2050 ac i ariannu llyfryn i hyrwyddo’r Gymraeg a llyfryn penodol ar gyfer busnesau, ynghyd â hyrwyddo a chreu adran newydd y Gymraeg ar wefan y Cyngor. Derbyniodd Ynys Môn swm ychwanegol o £160k gan Lywodraeth Cymru ddiwedd 2020/21 er mwyn darparu nifer o grantiau cyfalaf ARFOR. Roedd y rhaglen ehangach yn cael ei harwain gan Gyngor Gwynedd ond roedd elfennau o’r gwaith ar Ynys Môn yn cael eu gweinyddu gan Fenter Môn. Roedd manylion y prosiectau a dderbyniodd gyllid wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y cynnig ar gyfer Rhaglen ARFOR 2 sydd wedi cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn; bydd cyllid ychwanegol o £11m yn cael ei ddarparu i gyflawni ail gam Rhaglen ARFOR hyd at fis Mawrth 2025. Ym mis Ebrill 2022, cyflwynodd Bwrdd ARFOR (Arweinwyr y pedwar sir) ‘gynnig amlinellol’ ar gyfer ail gam y rhaglen i Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi rhesymeg, pwrpas, amcan strategol ac egwyddorion ar gyfer ARFOR 2. Mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, mae swyddogion y pedair sir wedi datblygu cynigion ar gyfer troi’r amcanion strategol yn brosiectau y gellir eu cyflawni. Amlygwyd prif elfennau arfaethedig ARFOR 2 yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod cyfanswm o 75 grant wedi’u dyfarnu i gefnogi 42 o fusnesau a oedd yn bodoli’n barod, 18 busnes newydd, 60 o swyddi newydd, 108 o swyddi a oedd yn bodoli’n barod a 36 o gynhyrchion neu wasanaethau newydd, ynghyd â £750k o fuddsoddiad preifat. Amharodd y pandemig ar gyfnod gweithredu’r rhaglen ond, serch hynny, roedd arfarniad y rhaglen yn nodi ei bod wedi gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi nifer o fusnesau a swyddi newydd a sefydlu trefniadau cydweithio defnyddiol rhwng y pedair sir. Ychwanegodd fod y rhaglen ARFOR wedi rhoi cyfle i fusnesau elwa ar yr arian grant. Bydd cam nesaf y rhaglen ARFOR yn rhoi cyfle i fusnesau elwa ar y cyllid sydd ar gael.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·           Cyfeiriwyd at adroddiadau a dderbyniwyd dros nifer o flynyddoedd fod pobl ifanc yn gadael yr ynys i chwilio am waith. Gofynnwyd a yw arian grant ARFOR wedi denu pobl ifanc yn ôl i’r ynys i weithio. Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod y model ‘Llwyddo’n Lleol’ sy’n rhan o’r rhaglen ARFOR yn cael ei gydnabod fel enghraifft dda o ran denu pobl ifanc yn ôl i’r ynys. Dywedodd y Prif Weithredwr na chasglwyd gwybodaeth yn ystod y rhaglen ARFOR 1 ac y gallai’r Pwyllgor Sgriwtini wneud cais i’r data hwn gael ei gasglu fel rhan o’r model monitro y bydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor ddyletswyddau mewn perthynas â chynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Rheoliadau (Parodrwydd a Gwybodaeth Gyhoeddus) Argyfyngau Ymbelydrol 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Mae’r Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio gydag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru trwy’r Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru, a Chyngor Sir y Fflint yw’r awdurdod lletyol ar gyfer y gwasanaeth. O fewn y Cyngor, mae cyfrifoldebau am gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt yn cael eu rhannu ymysg y gwasanaethau ac mae cynrychiolwyr gwasanaeth dynodedig yn cael eu nodi o fewn strwythur y Tîm Rheoli Ymateb i Argyfwng. Amlygodd y Prif Weithredwr rôl Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru sy’n cael ei nodi yn yr adroddiad. Nododd y bydd angen adolygu’r gwersi a ddysgwyd yn dilyn y pandemig ynghyd â’r angen i adolygu cynlluniau parhad busnes yr Awdurdod er mwyn sicrhau y gall y Cyngor ymateb yn effeithlon i unrhyw argyfwng.

 

Cyfeiriodd Mr Jon Zalot o Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru at brif weithgareddau’r Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng ar Ynys Môn, fel y nodir hwy yn yr adroddiad. Yn benodol, nododd fod cynllun pwrpasol wedi’i lunio ym mis Mawrth, mewn cydweithrediad â’r gwasanaethau argyfwng, mewn ymateb i amheuon y byddai nifer fawr o ffoaduriaid yn dod i’r wlad o Iwerddon oherwydd y rhyfel yn Wcráin. Trefnwyd i ddefnyddio Canolfan Hamdden Caergybi er mwyn sicrhau fod llety addas ar gael pe byddai nifer fawr o bobl yn cyrraedd yn y porthladd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-

 

·           Cyfeiriwyd at y pwysau cynyddol ar adnoddau llywodraeth leol a chefnogi partneriaethau rhanbarthol. Gofynnwyd a fydd ariannu partneriaethau rhanbarthol a gwasanaethau argyfwng yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau’r Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd cefnogi partneriaethau rhanbarthol yn cael ei ystyried oherwydd problemau o ran adnoddau mewn llywodraeth leol ac i sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth i’r Awdurdod. Nododd fod cydweithio rhanbarthol gyda’r Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn gryf gan na fyddai cynnal chwe thîm unigol ym mhob awdurdod lleol yn gynaliadwy.

·           Gofynnwyd a fyddai’r Awdurdod yn cael unrhyw fudd ychwanegol o gael ei Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng ei hun oherwydd y Porthladd yng Nghaergybi, y ddwy bont a Gorsaf Bŵer Wylfa. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gweithio ar lefel ranbarthol ym maes Cynllunio at Argyfwng yn cynnig manteision enfawr. Dywedodd fod cael arbenigedd staff mewn un Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng rhanbarthol yn ychwanegu gwerth i’r chwe awdurdod lleol. Mae lefel cyfraniad pob awdurdod lleol tuag at y gwasanaeth yn cael ei fesur gan lefel y boblogaeth ac mae’r Cyngor hwn yn derbyn yr un cymorth a chapasiti gan y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol â’r pum awdurdod lleol arall.

·           Gofynnwyd cwestiynau am rôl y Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol mewn perthynas â llifogydd a damweiniau difrifol. Dywedodd y Prif Weithredwr mai staff yr awdurdod lleol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 850 KB

Cyflwyno y Blaen Raglen Waith.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaen Raglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2022/23.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cytuno ar fersiwn gyfredol y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23.

·      Nodi cynnydd hyd yma wrth gyflawni’r Flaen Raglen Waith.