Mae cyfarfodydd y Cyngor bellach yn cael eu ffrydio’n fyw ar ein sianel YouTube.
Gallwch hefyd weld rhestr o’r cyfarfodydd a fydd yn cael eu cynnal cyn hir.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac yn dilyn hynny cyflwynodd pawb eu hunain.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2021. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar nodi fod Nia Hardaker, Swyddog Adolygu Annibynnol, yn bresennol yn y cyfarfod. Materion yn codi o’r cofnodion – Amlygodd y Cadeirydd y materion gweithredu y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod ar 8 Mehefin 2021, ac roedd rhai ohonynt yn gofyn am gyflwyno gwybodaeth ategol i gyfarfod y Panel ym mis Rhagfyr 2021 mewn perthynas â gweithgareddau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a lleoliadau all-sirol. Cyfeiriodd yn benodol at gamau arfaethedig yn ymwneud ag adolygu ffurflen a chynnwys y Cynllun Llwybr Ymadawyr Gofal yn unol ag argymhellion y Swyddogion Adolygu Annibynnol a gofynnodd am gadarnhad y byddai’r adolygiad wedi’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2021. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro (Diogelu) bod y Gwasanaeth yn gweithio yn unol â’r amserlen hon.
|
|
Voices from Care Cymru Bydd Sioned Warren, Voices from Care Cymru yn rhoi diweddariad i’r Panel. Cofnodion: Rhoddodd Sioned Warren, Swyddog Llesiant Voices From Care Cymru, ddiweddariad i’r Panel ar brosiect cyfranogi VfC gyda Chyngor Sir Ynys Môn a oedd yn golygu sefydlu grŵp cyfranogi misol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, er mwyn cynorthwyo i gyd-gynhyrchu Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ymadawyr Gofal Ynys Môn.
Dywedodd Ms Warren wrth y Panel fod llawer o waith wedi cael ei wneud i geisio annog plant a phobl ifanc yng ngofal yr Awdurdod i ymuno â’r grŵp cyfranogi er mwyn rhoi mwy o gyfle iddynt fynegi eu barn am y cynlluniau a’r polisïau sy’n cael effaith uniongyrchol arnynt. Er bod y gwaith yn heriol, yn enwedig gyda dyfodiad y pandemig Coronafeirws, trefnodd Voices from Care Cymru ddigwyddiad rhithwir i ysgogi diddordeb ac yn dilyn hynny mae cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal yn rheolaidd erbyn hyn. Ar hyn o bryd, canolbwyntir ar gynyddu niferoedd y grŵp cyfranogi, ac i’r perwyl hwnnw mae aelodau’r grŵp wedi cael y syniad o gynnal cystadleuaeth dylunio poster a fyddai’n hyrwyddo’r grŵp ac yn darparu gwybodaeth am ei nodau ac amcanion. Er bod y briff ar gyfer y dasg hon wedi’i gwblhau, y cam nesaf yw cytuno ar fecanwaith ar gyfer cyfleu’r neges i bobl ifanc ac ennyn eu diddordeb mewn ymuno â’r grŵp. Daeth i’r amlwg hefyd y byddai’r grŵp yn hoffi dysgu mwy am y Panel Rhiant Corfforaethol ac efallai cynnal digwyddiad a fyddai’n dod â’r grŵp a’r Panel ynghyd mewn ffordd anffurfiol. Mae Voices from Care Cymru hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o gynnal diwrnodau o hwyl i berswadio plant a phobl ifanc mewn gofal i ymuno â’r grŵp, a thrwy hynny ymwneud â’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt, ac mae’r sefydliad yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn. Er bod y cyfarfodydd misol yn cael eu cynnal yn rhithwir ar hyn o bryd, y nod yw cynnal y cyfarfodydd wyneb yn wyneb pan fydd hynny’n bosib ond gan ddarparu cyfleuster i alluogi’r rhai hynny sy’n ei chael yn anodd teithio i gyfranogi o bell.
Diolchodd y Panel i Ms Warren am y diweddariad a oedd yn cael ei werthfawrogi. Codwyd y pwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –
· Yr heriau ynghlwm â chael plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal i gyfranogi ac a ydynt yn gyffredin. Cyfeiriwyd at ddigwyddiad a gynhaliwyd cyn y pandemig, yn ystod haf 2019, lle’r oedd gofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc yng ngofal yr Awdurdod yn bresennol. Roedd Voices from Care Cymru wedi dod i gysylltiad uniongyrchol â’r plant a’r bobl ifanc y mae’r sefydliad yn dymuno ymgysylltu â nhw trwy’r digwyddiad hwn. Ar ôl cael profiad o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir, gofynnodd y Panel a yw’r heriau a wynebir yn awr yn ganlyniad i’r amgylchiadau a grëwyd gan y pandemig, neu a ydynt yn arwydd o ddiffyg diddordeb, neu ddiddordeb mewn gweithgareddau eraill, ymysg y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adroddiad y Swyddogion Adolygu Annibynnol Cyflwyno adroddiad y Swyddogion Adolygu Annibynnol. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Panel ei ystyried, adroddiad y Swyddogion Adolygu Annibynnol, fel rhan o’u dyletswydd i fonitro gweithgarwch yr awdurdod lleol wrth weithredu fel rhiant corfforaethol da o dan Rhan 6 Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn cofnodi cynnydd yn erbyn yr argymhellion a wnaed gan y Swyddogion Adolygu Annibynnol i’r Panel Rhiant Corfforaethol ym mis Mawrth 2018. Cyflwynodd Mr Huw Owen, Swyddog Adolygu Annibynnol, yr adroddiad a thynnodd sylw at y pwyntiau a ganlyn – · Ansawdd asesiadau plant sy’n derbyn gofal – dangosodd y sampl o 20 o achosion y bu i’r Swyddogion Adolygu Annibynnol edrych arnynt nad oedd gan 11 o blant asesiad cyfredol (h.y. a gynhaliwyd yn 2020 neu 2021). Nid oedd rhai o’r asesiadau’n gyfredol o ran adlewyrchu’r newidiadau sylweddol yr oedd rhai o’r plant wedi’u profi ers cwblhau eu hasesiad. Er bod y Swyddogion Adolygu Annibynnol yn croesawu ymrwymiad polisi’r Gwasanaeth i ddarparu asesiad cyfredol ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal, mae angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn yn llawn. · Cynlluniau Gofal a Chymorth sydd ar waith – Mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol yn nodi bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn y maes hwn o gymharu ag adroddiadau blaenorol a gyflwynwyd i’r Panel. Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2020 a 23 Gorffennaf 2021, derbyniwyd adroddiadau cryno mewn 47 o Adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal (91%). Y ganran gyfatebol yn adroddiad blaenorol y Swyddogion Adolygu Annibynnol oedd 91% a 97% am y ddau gyfnod gwahanol y casglwyd data yn ei gylch. Mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol o’r farn y bu cymorth gan Swyddog Cymorth Busnes dynodedig yn amhrisiadwy o ran cyflawni’r gwelliant hwn. · Adolygu a monitro trylwyr o’r gweithgareddau a’r gwahaniaeth a wnaed - mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol yn croesawu ymrwymiad y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i adolygu templed y Cynllun Gofal a Chymorth Rhan 6 yn y gobaith y bydd yn arwain at ffurflen lai ailadroddus sy’n canolbwyntio mwy ar y plentyn. Mae’r nifer uchel o adroddiadau cryno a gyflwynwyd cyn cynnal adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal yn cynorthwyo Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Adolygu Annibynnol, fel ei gilydd, gyda’r gwaith paratoi. · Ansawdd a chysondeb cadw cofnodion – Mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol yn parhau o’r farn bod cadw cofnodion achos wedi bod yn gyson dda ers peth amser. · Ffocws penodol ar Gynllunio Sefydlogrwydd ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal – Mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol yn croesawu ymrwymiad y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i adolygu ei bolisi ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig ac maent o’r farn bod y gwasanaeth wedi bod yn rhagweithiol ym mhob achos perthnasol lle gellid ystyried Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol yn parhau i fynychu cyfarfodydd Cynllunio Gofal Sefydlog a theimlir bod hynny’n arwain at rannu gwybodaeth mewn modd amserol a sicrhau nad yw achosion yn llithro. · Mae’r broses Adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal wedi parhau i ddefnyddio cyfryngau rhithwir amrywiol ac er bod hyn wedi golygu bod cyswllt gyda phlant ac oedolion allweddol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CSYM: Gwasanaeth Maethu - Datganiad o Ddiben Y Rheolwr Gwasanaeth (Ymyrraeth Ddwys) i adrodd. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Panel ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Ymyrraeth Ddwys yn ymgorffori Datganiad o Ddiben Gwasanaeth Maethu Ynys Môn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Ymyrraeth Ddwys bod y Datganiad o Ddiben, yn unol â gofynion Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018, yn darparu gwybodaeth am Wasanaeth Maethu Cyngor Sir Ynys Môn mewn perthynas â strwythur rheoli a staffio’r Gwasanaeth; ystod anghenion y plant y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer, a sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu i ddiwallu anghenion plant a’u cynorthwyo i gyflawni eu canlyniadau personol. Bydd y Datganiad o Ddiben ar gael i Weinidogion Cymru, Arolygaeth Gofal Cymru, gofalwyr maeth cymeradwy a darpar ofalwyr maeth, unrhyw blentyn a leolir gan y gwasanaeth maethu, rheini'r plant hynny, personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol ac unrhyw berson arall ar gais. Yn ogystal â’r Datganiad o Ddiben, mae ystod o ddogfennau penodol a gweithdrefnol sy’n cefnogi’r nodau, amcanion, egwyddorion gwasanaeth a’r safonau a nodir ar gyfer y Gwasanaeth Maethu. Bydd y Datganiad o Ddiben yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol, neu’n gynharach os bydd unrhyw newidiadau yn y gwasanaethau a ddarperir. Wrth ystyried y Datganiad o Ddiben, gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan y Panel – · A yw’r amryfal ddeddfwriaeth a pholisïau allweddol sy’n llywodraethu gwaith y Gwasanaeth Maethu yn hwyluso neu’n amharu ar y gwaith o ddarparu’r gwasanaeth ac oes angen eu symleiddio.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Ymyrraeth Ddwys bod y darnau allweddol o ddeddfwriaeth a pholisïau gyda’i gilydd yn cyfrannu at y safonau a’r disgwyliadau ar awdurdodau lleol fel asiantaethau Maethu. Mae maethu’n gyfrifoldeb statudol ac mae’n gyfrifoldeb pwysig i awdurdodau lleol ei gyflawni o ran sicrhau’r gofal gorau posib i blant y mae’n gofalu amdanynt ac i sicrhau hefyd fod y bobl gywir yn cael eu dewis i ddarparu gofal a ran yr Awdurdod. Mae’r Gwasanaeth wedi datblygu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a phenodwyd dau weithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymorth yn ystod yr haf, a bydd y gweithiwr cymorth yn darparu cymorth i ofalwyr maeth sy’n ffrindiau neu deulu.
· A yw’r Datganiad o Ddiben yn ymgorffori yn ddigonol nodau ac amcanion y Gwasanaethau Maethu a sut mae’n bwriadu eu cyflawni.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Ymyrraeth Ddwys fod Cyngor Sir Ynys Môn yn awdurdod arweiniol o ran y ddarpariaeth ar gyfer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod, ac yn benodol o ran y pecyn buddion unigryw a ddatblygwyd ar gyfer gofalwyr maeth ym mis Ebrill 2019 i gydnabod eu rôl heriol. Mae’r pecyn wedi bod yn fodel enghreifftiol ar gyfer awdurdodau eraill ac mae nifer ohonynt wedi cyflwyno buddiannau tebyg erbyn hyn. Nid dogfen sefydlog yw’r Datganiad o Ddiben a bydd yn esblygu wrth i ffurfiau newydd o ddarpariaeth, cefnogaeth a chyfleoedd gael eu datblygu ar gyfer gofalwyr maeth. Mae’r Datganiad a gyflwynwyd yn bodloni gofynion rheoleiddiol ac mae’n darparu man cychwyn ar gyfer y sgwrs honno. Mae risg y byddai pwrpas y Datganiad, sef darparu disgrifiad clir o’r gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill, yn mynd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cylch Gorchwyl y Panel Rhiantu Corfforaethol Y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro (Diogelu) i adrodd. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro – Diogelu adroddiad yn ymgorffori cylch gorchwyl arfaethedig y Panel Rhiant Corfforaethol a gofynnodd am farn y Panel ynghylch a oedd o’r farn bod y papur yn adlewyrchu ystod cyfrifoldebau’r Panel yn ddigonol. Wrth ystyried y cylch gorchwyl, awgrymodd y Panel y newidiadau a ganlyn – · Yn y datganiad agoriadol o dan 'Pwrpas y Panel Rhiant Corfforaethol', yn hytrach nag amlygu’r gofynion cyfreithiol, cyfeirio at nod y Cyngor fel y mae’n cael ei ddiffinio yn ei Gynllun Corfforaethol 2017-22, sef creu’r amodau i unigolion ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir. · Ychwanegu at rôl yr Aelodau Lleol o dan bwynt 7 i adlewyrchu ysbryd yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhiant corfforaethol e.e. deisyfu’r gorau i blant a phobl ifanc y mae’r Awdurdod yn gofalu amdanynt, iddynt fod yn iach ac i wneud yn dda yn yr ysgol ac iddynt fod yn ddiogel ac yn hapus. · Cynnwys cynrychiolydd Voices from Care Cymru ymysg aelodau’r Panel fel cyswllt rhwng y Panel a phlant sy’n derbyn gofal. · Manylu ar gyfrifoldebau Aelodau Etholedig, Aelodau Portffolio a Sgriwtini a rôl y Pencampwr Plant sy’n Derbyn Gofal o dan Aelodaeth y Panel. · Cyfeirio at y Cyfarwyddwr Addysg fel y Cyfarwyddwr Dysgu, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Gwasanaeth Addysg fel y Gwasanaeth Dysgu. · Cyfeirio at gynrychiolydd yr Awdurdod Iechyd fel cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd Lleol. · Ymysg cyfrifoldebau’r Panel, cynnwys llunio newyddlen ddwywaith y flwyddyn ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal sy’n cynnwys materion o ddiddordeb o gyfarfodydd y panel.
Cytunwyd –
· Cymeradwyo cylch gorchwyl y Panel yn amodol ar ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd. · Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro – Diogelu gylchredeg y cylch gorchwyl diwygiedig i’w gymeradwyo’n derfynol.
|
|
Cyfarfod Nesaf Nodi bod cyfarfod nesaf y Panel Rhiantu Corfforaethol wedi’i drefnu am 10:00 y bore, dydd Mawrth, 14 Rhagfyr, 2021. Cofnodion: Nodwyd y trefniadau i gynnal cyfarfod nesaf y Panel am 10:00am, dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021.
|
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol - “O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Atodlen 12A o’r Ddeddf honno.”
Cofnodion: Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Atodlen 12A o’r Ddeddf honno.
|
|
Cyflawniadau Addysgol Plant a Phobl Ifanc mae'r Awdurdod yn Gofalu Amdanynt Yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad Ysgolion i adrodd ar lafar. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Llesiant adroddiad llafar ar gyflawniadau addysgol plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod yng Nghyfnod Allweddol 4, a dywedodd wrth y Panel y byddai gwybodaeth fwy cynhwysfawr yn cael ei ddarparu i’r Panel yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr ar ôl i’r Cynlluniau Addysg Personol gael eu diweddaru. Amlygwyd y pwyntiau a ganlyn - · O’r cohort o 10, roedd 60% yn llwyddiannus yn yr arholiadau yr oeddent wedi’u sefyll; roedd 80% yn mynd ymlaen i addysg bellach a/neu brentisiaethau tra nad oedd 20% wedi sefyll unrhyw arholiadau nac wedi gallu nodi lleoliad ôl-16. · Bod rhai o’r cohort wedi perfformio’n arbennig o dda yn eu harholiadau TGAU. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Llesiant ychydig o wybodaeth gefndirol am leoliad pob plentyn, eu hamgylchiadau personol a’u llesiant meddyliol gan eu bod yn ffactorau sy’n dylanwadu ar pa mor dda y maent yn cyflawni. Cadarnhaodd nad oedd dau unigolyn wedi llwyddo i ymgysylltu ag addysg mewn modd ystyrlon nac gyda’r Tîm Ymyrraeth chwaith. Nododd y Panel y wybodaeth a gofynnodd a oedd y plant / pobl ifanc wedi perfformio’n unol â’r disgwyliadau; gofynnodd y Panel hefyd am wybodaeth am ddeilliannau CA2, CA3 ac ôl-16. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Llesiant fod y plant/pobl ifanc y cyfeiriwyd atynt wedi perfformio’n unol â’u targedau ac er bod blaenoriaethau eraill yn eu bywydau, mae’r Awdurdod yn fodlon â’r canlyniadau’n gyffredinol. Er bod nifer o bobl yn rhan o’r tîm cymorth sy’n ceisio gwneud y gorau ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hyn a’u cynorthwyo i gyflawni’r canlyniadau gorau posib, mae dau achos lle nad yw’r unigolion wedi gwneud cystal er gwaetha’r ymyrraeth a roddwyd, ac nid ydynt wedi nodi ffordd ymlaen. Mewn perthynas â thystiolaethu perfformiad yn erbyn targedau, mae’r Cynllun Datblygu Personol yn gallu cynhyrchu data i’r perwyl hwn. Dywedodd y Panel y dylai’r Awdurdod longyfarch y plant a’r bobl ifanc hynny sydd wedi llwyddo yn ffurfiol drwy anfon cerdyn neu lythyr atynt. Cadarnhaodd y Swyddog Cyswllt Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal bod cerdyn yn dymuno’n dda iddynt wedi’i lofnodi ganddi hi a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu hanfon at blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ym mlynyddoedd 6 ac 11 ar ôl cyhoeddi canlyniadau arholiad. Cytunwyd – · Nodi’r wybodaeth. · Bod y Panel yn derbyn adroddiad canlyniadau addysgol mwy manwl yn ystod ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021, yn cynnwys cyflawniadau CA2, CA3 ac ôl-16 ynghyd â dadansoddiad o berfformiad yn erbyn targedau.
|