Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

1. VAR/2021/27 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gydag adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Christ Church, Rhosybol, Amlwch

Cofnodion:

Dangoswyd 3 fideos i Aelodau o safle’r cais – roedd y cyntaf yn dangos y ffordd gyhoeddus i safle’r cais, y fynedfa a’r ardal barcio arfaethedig o flaen yr adeilad. Hefyd wedi’i ddangos yn y fideo oedd y beddi agosaf i’r ardal barcio a’r addasiadau a wnaed i’r wal gan gynnwys ardal a oedd wedi’i chlirio. Roedd yr ail fideo yn dangos car yn cael ei symud o fewn yr ardal barcio er mwyn cael allan o’r safle. Roedd y trydydd fideo yn dangos yr ardal uniongyrchol o amgylch yr Eglwys yn cynnwys agosrwydd y beddau i adeilad yr Eglwys o bob ochr.

 

Dangosodd y Swyddog Achosion Cynllunio hefyd gynllun mynediad yn dangos sut y byddai cerbyd yn symud i mewn ac allan o safle’r cais mewn perthynas â’r wal derfyn berthnasol. Hefyd wedi’i ddangos oedd y cynllun mynediad o dan y caniatâd cynllunio gwreiddiol yn cynnwys bwrdd troi i gerbydau a fyddai wedi golygu tynnu rhan o’r wal. Gofynnwyd cwestiwn am ofynion parcio.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol pan ddaw’r cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y tro nesaf  i’r Pwyllgor gael gweld fideo a wnaed yn ystod yr ymweliad safle blaenorol pan oedd y wal yn dal i sefyll ynghyd â’r fideo gyntaf a ddangoswyd yn yr ymweliad safle heddiw er mwyn dangos y fynedfa, mynediad a’r addasiadau i’r wal. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i’r cais.

2.

2. FPL/2021/71 - Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau a'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

Cofnodion:

Dangoswyd fideo i’r Aelodau a oedd yn dangos safle’r cais mewn cyd-destun ehangach a oedd yn cynnwys eiddo Bryn Gollen newydd a’r ddau adeilad allanol a oedd wedi eu trosi yn unedau gwyliau fel rhan o ganiatâd cynllunio blaenorol. Dangoswyd yr olygfa i gefn safle’r cais ynghyd â chae cyfagos a oedd ar lefel uwch i safle’r cais. Cafodd y strwythur sydd wedi’i adeiladu’n rhannol a’r gwaith cerrig ar yr uned wyliau arfaethedig eu gweld a thynnwyd sylw at leoliad y strwythur yng nghefn gwlad agored.  

3.

3. HHP/2020/253 - Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau yn Plot H, Lleiniog, Penmon

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i Aelodau am natur yr addasiadau a’r estyniadau a dangoswyd fideo a oedd yn dangos safle’r cais yn ei gyd-destun ger yr adeiladau allanol eraill a oedd eisoes wedi eu trosi i fod yn unedau gwyliau ac annedd preswyl fel rhan o ganiatadau cynllunio blaenorol. 

4.

4. FPL/2020/165 - Cais llawn ar gyfer trosi'r adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Outbuilding 1, Lleiniog, Penmon

Cofnodion:

Fel gyda chais 3 uchod,  dangoswyd fideo a oedd yn dangos safle’r cais yn ei gyd-destun ger yr adeiladau allanol eraill a oedd eisoes wedi eu trosi i fod yn unedau gwyliau ac annedd preswyl fel rhan o ganiatadau cynllunio blaenorol. 

5.

5. HHP/2021/35 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 54 Pennant, Llangefni

Cofnodion:

Hysbyswyd Aelodau fod y cais wedi ei dynnu’n ôl.