Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2022/51 - Cais llawn ar gyfer codi llety ategol 6 llofft ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ym Mhlas Rhianfa, Glyngarth, Porthaethwy

Cofnodion:

Amlinellodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y cais a’i leoliad ar safle’r hen gyrtiau tennis nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio o fewn gerddi Gwesty Plas Rhianfa. Dangoswyd cynlluniau a lluniau i Aelodau er mwyn rhoi syniad iddynt o ddyluniad yr estyniad arfaethedig. Dangoswyd fideos i Aelodau hefyd a oedd yn dynodi’r ddwy fynedfa i’r Gwesty ynghyd â safle’r cais o fewn ei gyd-destun ar dir y Gwesty ac mewn perthynas â’r gerddi a’r prif adeilad rhestredig. 

Cadarnhawyd fod y cais wedi’i ddiwygio a’i fod bellach ar raddfa lai o’i gymharu â’r cynnig gwreiddiol am adeilad ategol deulawr 8 ystafell wely i fod yn adeilad un llawr ar gyfer 6 ystafell wely ategol.

Amlygoddd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, faterion yn ymwneud â pharcio yn enwedig parcio ar y stryd ar ffordd yr A545 Biwmares gan gynnwys i ddanfon nwyddau; y posibilrwydd ar gyfer mwy o lygredd golau ar lannau’r Fenai o fewn AHNE a phryderon mewn perthynas â chadwraeth coed.

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y ddarpariaeth parcio yn ddigonol ac yn unol â safonau parcio.

Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio rai pwyntiau a godwyd mewn perthynas â ffenestri’r adeilad a materion edrych drosodd.

Nododd y Pwyllgor y byddai’d ddefnyddiol petai ystadegau damweiniau traffig y ffordd ar gyfer ffordd Biwmares ar gael iddo.