Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2021/159 Stad Maes Derwydd, Llangefni

Cofnodion:

Amlinellodd Arweinydd y Tîm Cynllunio’r cynnig a dangosodd fideo o’r mynediad i mewn ac allan o safle’r cais i’r briffordd, gan gynnwys y llain welededd. Yna, dangoswyd yr olygfa o ganol safle’r cais i’r aelodau a thynnwyd sylw at stadau Tŷ Hen a Maes Derwydd ynghyd ag Ysgol Gyfun Llangefni. Cyflwynwyd fideo byr hefyd yn dangos y nant sy’n rhedeg o gefn yr ysgol ar hyd ochr safle’r cais.

 

Tynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts, fel Aelod Lleol, sylw at broblemau tagfeydd traffig ar y ffordd yn arwain at y safle, yn enwedig pan fydd plant yn cael eu danfon a’u casglu o’r ysgol ac mae’n golygu ei bod yn culhau i fod yn ffordd un lôn i bob pwrpas ar yr adegau hynny. Cyfeiriodd at bryderon lleol ynglŷn â’r cynnig, yn enwedig mewn perthynas â pharcio a phroblemau traffig, mynediad, yr effaith ar ecoleg a cholli llecynnau gwyrdd.

 

2.

FPL/2022/14 Green Bank, Amlwch

Cofnodion:

Amlinellodd Arweinydd y Tîm Cynllunio’r cynnig a chyflwynwyd fideo yn dangos safle’r cais a’r annedd presennol o fewn ei osodiad wrth edrych arno o ffordd yr A5025. Dangoswyd ail fideo yn dangos yr olygfa o gefn yr eiddo tuag at y blaen, yn cynnwys triniaethau terfynau’r safle. Eglurodd y swyddog fod gwydr aneglur ar ffenestr a drws ar dalcen yr annedd presennol. Roedd trydydd fideo yn darparu golygfeydd o gefn safle’r cais tuag at yr A5025.

 

Wrth ymateb i’r Cynghorydd Lleol, y Cynghorydd Aled M. Jones, a esboniodd fod cais wedi’i gyflwyno am ymweliad safle oherwydd pryderon am ddyluniad a graddfa’r cynnig, a’i fod o’r farn nad oedd yn gydnaws â’r hyn sydd o’i amgylch, dangosydd y Swyddog gynlluniau’r safle i Aelodau a oedd yn dangos maint yr annedd newydd o gymharu â’r annedd presennol ar y safle, gan gynnwys drychiadau blaen a drychiadau stryd arfaethedig yr annedd newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y Swyddog fod y cynnig ar gyfer tŷ marchnad agored.

 

3.

FPL/2022/66 Porth Wen, Llanbadrig

Cofnodion:

Dangosodd yr Uwch Swyddog Cynllunio olygfa o’r awyr o safle’r cais a oedd yn gosod y safle yn ei gyd-destun daearyddol. Cyflwynwyd fideo yn dangos y lôn a’r fynedfa i’r safle trwy giât amaethyddol. Dangoswyd y cae lle bwriedir lleoli’r maes parcio arfaethedig, a hynny o lecyn uchel ac o leoliad a oedd yn dangos y safle cyfan, gan gynnwys y terfynau. Cyflwynodd y Swyddog ffotograffau hefyd a oedd yn dangos y gilfan a’r ffordd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled M. Jones, Aelod Lleol, at broblemau traffig a pharcio yn ystod misoedd yr haf oherwydd bod ymwelwyr â’r ardal yn parcio ceir yn y gilfan ac ar y lôn ger safle’r cais gan olygu ei bod yn anodd i gerbydau’r gwasanaethau brys a cherbydau preswylwyr lleol basio heibio. Roedd yn credu y byddai’r cynnig yn lliniaru’r problemau hyn yn ogystal â darparu mynediad i Lwybr yr Arfordir a safleoedd eraill o ddiddordeb lleol. Cyflwynwyd sylwadau i’r un perwyl gan aelod lleol arall hefyd, y Cynghorydd Derek Owen.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y Swyddog fod dau lwybr cyhoeddus y naill ochr a’r llall i’r safle, ond nid ydynt yn croesi’r safle. Dangoswyd cynlluniau’r safle a oedd yn amlygu’r brif ardal barcio a fyddai’n cael ei gorchuddio â rhwyll amddiffyn glaswellt, gyda’r gweddill wedi’i fwriadu ar gyfer parcio mewn tywydd sych.