Rhaglen a chofnodion

Ymweliadau Safle - Dydd Mercher, 30ain Tachwedd, 2022 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

HHP/2022/46 - Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Tan yr Allt Bach, Llanddona

Cofnodion:

Mynychodd Aelodau’r Pwyllgor yr ymweliad safle ar draeth Llanddona er mwyn gallu gweld y cais o gyfeiriad y traeth. Cafodd safle’r cais ei archwilio a dangoswyd y cynlluniau safle arfaethedig i’r Aelodau a chawsant weld yr annedd presennol. Mynegwyd pryderon am y strwythur gwydr cysylltiol rhwng yr annedd presennol ac estyniad newydd arfaethedig i’r ochr a’r potensial ar gyfer creu dau annedd preswyl. Eglurodd y Swyddogion y cais ac fe gadarnhawyd nad yw’r estyniad i’r ochr o’r eiddo presennol yn cynnwys unrhyw ystafelloedd gwely.  Cadarnhawyd hefyd y byddai’r cynnig yn golygu newid yr annedd presennol o dŷ 3 ystafell wely i dŷ 5 ystafell wely.