Cofnodion

Cyfarfod Rhithiol, Ymweliadau Safle - Dydd Mercher, 19eg Hydref, 2022 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Proposed venue: Virtual Meeting

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

HHP/2022/26 - Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu a chodi estyniadau yn Tan yr Allt Bach, Llanddona

Cofnodion:

Fe wnaeth y Swyddog Cynllunio amlinellu’r cynnig a dangos fideos o’r safle.  Edrychodd yr Aelodau ar gynlluniau o’r annedd presennol ynghyd â’r addasiadau ac estyniadau arfaethedig.  Dangoswyd fideo o’r ffordd fynediad sy’n mynd heibio’r safle yn ogystal.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr Carwyn Jones ac Alun Roberts at y ffordd gul sy’n mynd heibio’r safle i lawr i’r traeth.  Cyfeiriwyd at leoliad yr annedd o fewn y AHNE a’r cynnig i ymestyn yr eiddo.

 

2.

HHP/2022/171 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn ynghyd â chodi balconïau Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre

Cofnodion:

Fe wnaeth y Swyddog Cynllunio amlinellu’r cynnig a dangos fideos o’r safle. Nododd bod y cynnig ar gyfer ymestyn yr eiddo o fod yn  eiddo 3 ystafell wely i fod yn eiddo 5 ystafell wely.  Edrychodd yr Aelodau ar gynlluniau o’r annedd presennol ynghyd â’r addasiadau ac estyniadau arfaethedig. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorydd Margaret M Roberts ac Ieuan Williams at y gallu i letya ychwaneg o gerbydau ar y safle oherwydd y ffordd ystâd gul.