Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw fater i’w darfod. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cais am aelodaeth ar y Pwyllgor Safonau PDF 3 MB Ystyried cais am Aelodaeth ar y Pwyllgor Safonau. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.
Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y broses ddethol statudol ar gyfer penodi i’r sedd wag ar y Pwyllgor Safonau. Roedd drafft o hysbyseb ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1 ac roedd pecyn yn cynnwys gwybodaeth am y Côd Ymddygiad, Rhestr Lwfansau a’r ffurflen gais ar gael yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Gwnaed y newidiadau isod i eiriad yr hysbyseb gan y Panel :-
· y bydd Aelod Annibynnol yn cael ei benodi am gyfnod a fydd o leiaf 4 blynedd a hyd at 8 mlynedd; · bod cyfeiriad e-bost ac enw cyswllt yn cael eu cynnwys yn y pecyn dogfennau; · bod enw’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cael ei gynnwys yn y fersiwn Saesneg ar dudalen 6 y dogfennau.
Rhoes y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fanylion ynghylch costau hysbysebu’r swydd wag yn y papurau newydd lleol. Penderfynodd y Panel, er mwyn osgoi costau ychwanegol, i roi hysbyseb fer am y swydd wag yn y papurau newydd lleol gyda dolen i wefan y Cyngor am y fersiwn lawn.
PENDERFYNWYD :-
· Cymeradwyo’r hysbyseb ar gyfer swydd wag Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, yn amodol ar y newidiadau a nodir uchod; · Rhoi’r hysbyseb ar wefan y Cyngor, y dudalen Facebook a Twitter, ynghyd ag hysbyseb fer yn unig (yn y lle cyntaf) yn y ddau bapur newydd lleol; · Cymeradwyo’r cais a’r cyngor yn Atodiad 2; · Cynnal y cyfarfod nesaf i dynnu rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer eu cyfweld ar 17 Tachwedd, 2017 am 1.00 p.m., yn Ystafell Bwyllgor 1.
|