Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cofnodion: Etholwyd Dr Haydn Edwards yn Gadeirydd y cyfarfod hwn yn unig. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion: Roedd y Cynghorydd G O Jones wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Fe ddatganodd Dr H Edwards hefyd ddiddordeb personol yn Eitem 5. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 22 KB Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2017. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 24 KB Ystyried mabwysiadu’r isod :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y posibilrwydd y gallai gwybodaeth eithriedig gael ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Tynnu rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer rôl Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau a phenderfynu ar y broses Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r broses ddethol statudol ar gyer penodi i’r sedd wag ar y Pwyllgor Safonau.
Trafododd y Panel y ceisiadau a dderbyniwyd yn fanwl a hynny’n unol â’r broses ar gyfer tynnu rhestr fer a’r meini prawf a oedd wedi ei hamlinellu yn yr adroddiad i’r Panel.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeiswyr a roddwyd ar y rhestr fer yn cale eu cyfweld ar 27 Tachwedd, 2017 am 3.00 p.m. |