Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Panel Dethol - Dydd Llun, 27ain Tachwedd, 2017 3.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd Dr Haydn Edwards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Cofnodion:

Datganodd Dr Haydn Edwards a’r Cynghorydd R Meirion Jones ddiddordeb personol yn Eitem 5 ar y rhaglen.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am iddo gael ei nodi bod y Cynghorydd Gwilym O Jones wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 ar y rhaglen ac nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 17 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o Banel Dethol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2017 yn gywir.

4.

Cau allan y Wag a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 24 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 12 ar y sail y byddai’n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

5.

Cyfweld yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer rôl aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau

·      Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

 

·      Cyfweld yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer rôl aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses gyfweld ar gyfer ymgeiswyr oedd ar y rhestr fer i gael eu penodi i’r sedd wag ar y Pwyllgor Safonau.

 

Ystyriwyd yr ymgeiswyr yn erbyn y meini prawf a amlinellwyd yn yr adroddiad a chynhaliwyd cyfweliadau.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Dewis dim mwy nag un ymgeisydd i’w enwebu gan y Panel i’w benodi i’r Pwyllgor Safonau.

·           Bod Cadeirydd y Panel yn cytuno i gyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn ar 12 Rhagfyr, 2017 yn enwebu’r ymgeisydd llwyddiannus (yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol).

·           Bod Cadeirydd y Panel yn argymell i’r Cyngor y dylid penodi’r ail ymgeisydd sydd ar y rhestr fer yn awtomatig i unrhyw sedd wag achlysurol arall ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau pe bai sedd wag yn codi yn ystod y deuddeng mis nesaf (yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol a bod yr ymgeisydd yn cytuno).