Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke 2514
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Margaret M Roberts ei hethol yn Gadeirydd ar gyfer cyfnod y broses apwyntiadau. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Recriwtio pedwar Aelod Annibynnol newydd i'r Pwyllgor Safonau PDF 425 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro sy’n gofyn i’r Panel benderfynu ar y meini prawf dewisol wrth recriwtio. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod angen i’r Panel Dethol gytuno ar y meini prawf recriwtio a’r pecyn cais ar gyfer ymgeiswyr.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y bydd y panel yn sgorio’r ceisiadau ac yn llunio’r cwestiynau cyfweliad yn erbyn y meini prawf gosod. Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer wedyn yn cael eu gwahodd am gyfweliad gan y Panel.
Trafododd y Panel y gofynion statudol ar gyfer y rôl ynghyd â’r meini prawf dewis lleol posibl. Rhannwyd copïau o’r disgrifiad swydd presennol â’r Panel er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD fod y Panel Dethol yn cytuno weithredu’r gofynion statudol yn unigfel eu meini prawf. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar yr hysbyseb papur newydd drafft a’r Ffurflen Gais arfaethedig ar gyfer y broses recriwtio. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar yr uchod.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod angen statudol i swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol gael eu hysbysebu mewn dau bapur newydd lleol. Gall y Panel Dethol benderfynu ar unrhyw hysbysebu ychwanegol hefyd.
Trafododd y Panel yr opsiynau sydd ar gael o ran hysbysebu swyddi gwag a’r costau cysylltiedig a chytunwyd y dylid rhoi hysbyseb mewn dau bapur lleol am gyfnod o wythnos gyda dolen i’r ffurflen gais a’r papurau cefndir ac y dylid hysbysebu ar dudalennau Facebook a Twitter y Cyngor.
O ran y ffurflen gais a'r dogfennau cefnogi, roedd y Panel yn ystyried fod y cynnwys yn rhy feichus ac y dylid tynnu rhai rhannau allan.
PENDERFYNWYD:-
• Cymeradwyo’r ddogfennaeth ddrafft yn Atodiad 1, i gynnwys dim ond y gofynion statudol • Awdurdodi’r Swyddog Monitro i hysbysebu’r swyddi gwag ar gyfer pedwar aelod annibynnol i’r Pwyllgor Safonai mewn dau bapur newydd lleol, am gyfnod o wythnos, yn dilyn gwyliau Pasg yr ysgolion ac i hysbysebu ar dudalennau Facebook a Twitter y Cyngor. • Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dynnu Atodiad B a C o Ran 3 y pecyn cais drafft. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 266 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf, ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.” |
|
Cwestiynau posibl ar gyfer cyfweliadau'r Aelodau Annibynnol i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro sy’n gofyn i’r Panel ystyried cwestiynnau cyfweld addas. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn gofyn i’r Panel Dethol ystyried a chytuno ar gwestiynau cyfweliad addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi eu rhoi ar y rhestr fer, o’r meini prawf a fabwysiadwyd.
Rhannwyd rhestr o gwestiynau cyfweliad posibl ar gyfer ystyriaeth y Panel. Byddai ymatebion y Pwyllgor yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y Panel Dethol.
PENDERFYNWYD:-
• Ystyried y cwestiynau cyfweliad drafft ar gyfer ymgeiswyr a gyflwynwyd ac i gynnwys unrhyw ychwanegiadau/newidiadau gan y Panel er mwyn gallu penderfynu ar y cwestiynau cyfweliad terfynol ac i adrodd yn ôl ar hynny yng nghyfarfod nesaf y Panel Dethol. • Y Swyddog Monitro i drefnu dyddiad cau ar gyfer yr hysbyseb papur newydd ddiwedd Mai, a threfnu cyfarfod o’r Panel Dethol ar gyfer mis Mehefin er mwyn gallu llunio rhestr fer. • Y Swyddog Monitro i anfon yr holl waith papur perthnasol at aelodau’r Panel Dethol cyn y cyfarfod; ar ffurf copi caled ar gyfer y rhai sydd angen. |