Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke 2514
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 212 KB Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Panel Dethol a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2019 fel rhai cywir.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 270 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf, ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd.” |
|
Tynnu rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer rôl Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, a phenderfynu ar y broses gyfweld Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y broses ddethol statudol ar gyfer penodi pedwar Aelod Annibynnol newydd i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau.
Trafododd y Panel y ceisiadau a dderbyniwyd yn unol â’r broses tynnu rhestr fer ac yn erbyn y meini prawf penodol a amlinellwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:-
• Rhoes y Panel Dethol sylw i bob cais a llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer eu cyfweld. • Trafododd y Panel y cwestiynau y byddant yn eu gofyn yn y cyfweliad a’u cadarnhau a derbyn hefyd y matrics sgorio a gyflwynwyd. • Cytunodd y Panel wahodd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer am gyfweliad ar ddyddiad ac amser i’w gadarnhau. |