Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Safonau - Panel Dethol - Dydd Mawrth, 6ed Mehefin, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Dylan Rees ei ethol yn Gadeirydd hyd ddiwedd y broses benodi.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. 

 

3.

Penodi Aelod Annibynnol Newydd i'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 359 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro sy’n gofyn i’r Panel benderfynu ar y meini prawf dewisol wrth recriwtio.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr uchod.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod swydd wag ar y Pwyllgor Safonau, a bod angen rhoi proses benodi ar waith i benodi aelod newydd i’r Pwyllgor. 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod rhaid i’r Panel Dethol benderfynu ar y meini prawf ar gyfer y fanyleb person fel rhan o’r broses ymgeisio. Dywedodd mai’r meini prawf deddfwriaethol (Atodiad 1) yw’r gofyniad isaf a bod rhaid i unrhyw ymgeisydd fodloni’r rhain er mwyn cael eu hystyried, er y gellid hefyd gweithredu gofynion ychwanegol fel meini prawf dewis lleol (mae enghreifftiau o feini prawf dewis lleol wedi eu cynnwys yn Atodiad 2). 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y bydd y Panel yn sgorio’r ceisiadau ac yn meddwl am gwestiynau cyfweliad, yn erbyn y meini prawf. Yna bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad gyda’r Panel.

 

Bu i’r Panel drafod yr opsiynau a oedd ar gael a chytunwyd i weithredu’r meini prawf deddfwriaethol yn unig ar gyfer y rôl (fel y manylir yn Atodiad 1 yn yr adroddiad).

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Panel Dethol yn mabwysiadu’r gofynion statudol fel meini prawf ar gyfer y broses ddethol.

4.

Cymeradwyo'r hysbyseb a'r gwaith papur ar gyfer recriwtio Aelod Annibynnol Newydd i'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr hysbyseb papur newydd drafft a’r Ffurflen Gais arfaethedig ar gyfer y broses recriwtio.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr uchod.

 

Nodwyd ei bod yn ofyniad cyfreithiol bod yr hysbyseb ar gyfer recriwtio unrhyw aelod annibynnol i’r Pwyllgor Safonau yn ymddangos mewn o leiaf dau bapur newydd lleol. Cyfeiriwyd at y penodiadau blaenorol yn 2017 a 2019 a nodwyd bod y swyddi gwag wedi cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor, Twitter, Facebook ac yn y North Wales Chronicle a’r Bangor & Anglesey Mail bryd hynny.

 

Rhoddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) grynodeb o’r prif benawdau yn yr adroddiad a’r atodiadau a rhoddodd drosolwg o’r wybodaeth gefndirol i ymgeiswyr (sydd ar gael yn Atodiad 2.1) a’r ffurflen (sydd ar gael yn Atodiad 2.4).  Bu i’r Panel drafod yr opsiynau a oedd ar gael mewn perthynas â hysbysebu’r swydd a’r gost o wneud hynny. Cytunodd y Panel i hysbysebu’r swydd mewn dau bapur newydd lleol, a darparu dolen i’r ffurflen gais a phapurau cefndirol, yn ogystal â hyrwyddo’r swydd ar wefan a thudalennau Facebook a Twitter y Cyngor.

           

PENDERFYNWYD:- 

 

  Cymeradwyo’r dogfennau drafft yn Atodiad 1, a chynnwys y gofynion statudol yn unig.

  Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) /  Swyddog Monitro i ddiwygio’r gwaith papur i adlewyrchu unrhyw benderfyniad mewn perthynas ag Eitem 3 ar yr agenda hwn.

  Hysbysebu’r swydd wag ar gyfer aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau mewn dau bapur newydd, a hefyd ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 282 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod: -

                                                  

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y

posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn

Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”  

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei ddatgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

6.

Cwestiynau Posib ar gyfer Cyfweliadau Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro sy’n gofyn i’r Panel ystyried cwestiynnau cyfweliad addas.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn i’r Panel ystyried a chytuno ar gwestiynau cyfweliad addas o’r meini prawf a fabwysiadwyd, ar gyfer yr ymgeiswyr a fydd yn cyrraedd y rhestr fer.

 

Roedd rhestr o gwestiynau cyfweliad posib ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y bydd y Panel yn cael cyfle i ddiwygio’r cwestiynau cyfweliad yng nghyfarfod nesaf y Panel Dethol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Ystyried y cwestiynau cyfweliad drafft a gyflwynwyd ar gyfer yr ymgeiswyr, yng nghyfarfod nesaf y Panel Dethol.

  Rhoi caniatâd i’r Panel ychwanegu at / ddiwygio’r cwestiynau cyfweliad terfynol yng nghyfarfod nesaf y Panel.

  Y bydd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn trefnu dyddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Panel i ystyried y ceisiadau a dderbynnir a llunio rhestr fer.