Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Mercher, 12fed Gorffennaf, 2023 12.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd John I Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

 

2.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Ieuan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad.

 

4.

Diweddariad ar sefyllfa Tim Polisi Cynllunio newydd a pharatoi Cynllun Datblygu Lleol newydd pdf eicon PDF 407 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y Cynllun Datblygu Lleol yn flaenoriaeth newydd ar gyfer y swyddogaeth Gynllunio a’r Cyngor. Bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio’n chwarae rôl allweddol yn natblygiad y cynllun, a bydd ei gyfraniad yn hollbwysig o ran y broses o greu’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd y byddai Cylch Gorchwyl manwl ar gyfer y Pwyllgor yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai rôl y Pwyllgor yw darparu arweinyddiaeth ar faterion megis cyflwyno dogfennau drafft i’w hystyried, datblygu Canllawiau Cynllunio Atodol, adroddiadau monitro blynyddol a dogfennau eraill sy’n ymwneud â pharatoi’r Cynllun Datblygu Lleol; ynghyd â sylwadau gan y cyhoedd a rhanddeiliaid.

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi Cynllunio, yn dilyn diddymu’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd pan ddaeth y cytundeb cydweithio i ben ym mis Mawrth 2023, fod Cyngor Sir Ynys Môn bellach yn gyfrifol am baratoi ei Gynllun Datblygu Lleol ei hun unwaith eto. Er hysbysebu sawl swydd ddwywaith ar gyfer y Tîm Polisi newydd, mae’r broses hyd yma wedi bod yn aflwyddiannus. Roedd trosglwyddo un swyddog i’r Tîm drwy drosglwyddiad TUPE yn fanteisiol i’r Tîm, ac fe gychwynnodd yn y swydd ar 1 Ebrill 2023. Wedi hynny penodwyd Rheolwr Uned ar secondiad am gyfnod o 12 mis. Isod, fe weler y staff sydd eu hangen ar y Tîm:-

 

· Rheolwr Polisi Cynllunio (Gradd 9)

· Uwch Swyddog Polisi Cynllunio (Gradd 7)

· 2x Swyddog Polisi Cynllunio (Gradd 6)

    · Swyddog Polisi Cynorthwyol (Gradd 4)

 

Yn dilyn hynny nodwyd bod angen Cydlynydd Her Tai Lleol.

 

Oherwydd y diffyg staffio, bydd proses recriwtio cydunol arall yn cael ei rhoi ar waith gan y Gwasanaeth i geisio denu unigolion profiadol at y swyddi hyn. Bwriedir hysbysebu’r swyddi’n ehangach mewn cylchgronau proffesiynol, trwy hysbysebion uniongyrchol mewn prifysgolion penodol a gwneud mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n hanfodol bod gennym Dîm addas a medrus er mwyn sicrhau bod camau amrywiol y gwaith o baratoi’r cynllun yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlenni cytunedig a bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n foddhaol. Mae’r Gwasanaeth yn ymgymryd â phroses gaffael i geisio dod o hyd i gwmni ymgynghorol profiadol a all ddarparu cymorth proffesiynol i’r Swyddogaeth Cynllunio o dan gytundeb Fframwaith. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi cyfrifoldebau cynllunio statudol y Cyngor.

 

Aeth y Rheolwr Polisi Cynllunio ymlaen i ddweud fod paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys cyrraedd sawl carreg filltir benodol fydd yn cael eu cynnwys mewn Cytundeb Cyflawni, a rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ar y cytundeb hwnnw. Wedi iddo gael ei gytuno, rhaid glynu’n gaeth wrth y rhaglen ar gyfer cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol a bydd rhaid i unrhyw wyriadau gael eu cytuno gan Lywodraeth Cymru. Darparwyd amserlen ddangosol yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Robert Ll Jones beth oedd y rhesymau dros ddod â’r trefniadau gweithio ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ben. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio gan fod y penderfyniad hwn eisoes  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.