Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Mercher, 11eg Chwefror, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Committee Room, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, 2026.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2026 yn gywir.

 

4.

Papur Ymgynghori Gweledigaeth, Amcanion ac Opsiynau pdf eicon PDF 572 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr adroddiad y amlinellu ail gam y broses i baratoi proses Ymgynghori’r Cynllun Datblygu Lleol - Datblygu Gweledigaeth, Amcanion ac Opsiynau.  Nid yw ymgynghori ar y cynllun yn ofyniad strategol, ond mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid yn cael cyfle i roi barn ar ddatblygu’r ynys yn y dyfodol.  Mae’r cam hwn yn cynrychioli’r ymgynghoriad sylweddol cyntaf wrth baratoi y Cynllun Datblygu Lleol newydd, a’r bwriad yw adnabod y prif faterion cynllunio, heriau a chyfleoedd sy’n wynebu’r Ynys; sefydlu Gweledigaeth ac Amcanion Strategol drafft; cyflwyno opsiynau ar gyfer twf a dyrannu datblygiadau’n ofodol; ymgysylltu’n gynnar er mwyn llunio’r cam nesaf, y Strategaeth a Ffafrir.  Nododd fod y prif faterion, heriau a chyfleoedd sy’n wynebu Ynys Môn wedi eu hadnabod wrth ystyried deddfwriaeth gynllunio, polisi a chanllawiau cenedlaethol, adolygu blaenoriaethau strategol y Cyngor a chwblhau gweithgarwch ymgysylltu dechreuol gyda rhanddeiliaid.  Cynaliadwyedd tai cymdeithasol, darparu seilwaith ar gyfer twf uchelgeisiol, ymateb i newid hinsawdd, hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant, gwarchod yr amgylchedd hanesyddol naturiol a rheoli adnoddau a hyrwyddo’r llunio lle a llesiant. 

 

Mae Pennod 5 yr adroddiad yn amlygu’r Weledigaeth er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn canolbwyntio ar yr holl bolisïau er mwyn gallu ei ddarparu, a bydd gweledigaeth glir a chryf ar gyfer y dyfodol wrth wraidd y ddogfen gyfan.  Dylai’r Weledigaeth ddarparu safbwynt gofodol sy’n sicrhau bod y Cynllun yn unigryw i Ynys Môn, a dylai fod yn ddisgrifiad uchelgeisiol o’r math o le fydd yr Ynys ar ddiwedd oes y Cynllun. 

 

Mae Pennod 6 yr adroddiad yn amlinellu amcanion drafft y Cyngor.  Bydd yr amcanion drafft yn sicrhau bod y weledigaeth ddrafft, fel y nodir ym Mhennod 5, yn cael ei darparu a bydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. 

 

Mae Pennod 7 yr adroddiad yn cyfeirio at y trywydd polisi arfaethedig, gan roi trosolwg o’r meysydd gwahanol o fewn trywydd y polisi.  Darperir thema a chrynodeb o faes pwnc, ynghyd a throsolwg o’r cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol hollbwysig; newidiadau arfaethedig o bolisi/dull y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol a’r dystiolaeth ofynnol i gefnogi trywydd y polisi arfaethedig. 

 

Mae Pennod 8 yr adroddid yn edrych at sefyllfaoedd i ddatblygu tai a chyflogaeth.  Mae’n ystyried y wybodaeth gyd-destunol a ddarperir ym Mhennod 3 a 4, ac mae’n ystyried faint o gartrefi a swyddi ychwanegol fydd yn ofynnol, o bosibl, er mwyn cynllunio rhwng 2024 a 2039. 

 

Mae Pennod 9 yr adroddiad yn cyfeirio at Opsiynau Gofodol sy’n canolbwyntio at y prif setliadau, gan gydnabod Caergybi, Llangefni, Amlwch a Phorthaethwy fydd yn gweld posibiliadau twf newydd, ac i safleoedd maint bychan a chanolig yn mwyafrif y Canolfannau Gwasanaeth Lleol a Phentrefi yn ardal y Cynllun Datblygu Lleol.  Canolbwyntir ar safleoedd tir llwyd ac adfywio canolfannau trefol.  Ystyrir Datblygiad Gwasgaredig ar draws yr holl aneddiadau ar lefel sy'n gymesur â maint pob anheddiad yn seiliedig ar y boblogaeth o fewn pob anheddiad.  Bydd y Coridor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) pdf eicon PDF 804 KB

Cyflwyno adroddiad Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (ACI).

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr LUC fod yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ASA) yn ddogfen sy'n ymgorffori datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol ac yn cynnwys nifer o asesiadau a gweithdrefnau rheoleiddio ochr yn ochr ag asesiadau iechyd a chydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg, asesiad amgylcheddol strategol a chynaliadwyedd  Cyfeiriodd at y ffaith bod Adroddiad Cwmpasu wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor yn flaenorol a oedd yn nodi fframwaith o amcanion.  Mae datblygu set o amcanion Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn ffordd gydnabyddedig o gael effeithiau cynaliadwyedd tebygol ar Gynllun.  Datblygwyd fframwaith yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn yn ystod y cyfnod Cwmpasu fel y nodir ym Mhennod 2 o'r adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones fod map Ynys Môn yn yr adroddiad yn gamarweiniol gan fod Ynys Gybi yn ynys fawr a bod angen cydnabod y sianel rhwng yr ynysoedd.   Dywedodd y Cadeirydd y byddai gwelliannau i'r map yn cael eu gwneud cyn y broses ymgynghori.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.