Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 21ain Hydref, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar aadeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -

 

  23 Medi 2025

  2 Hydref 2025 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod yn gywir -

 

·     Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi, 2025;

·     Cofnodion y cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2025.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 226 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2025 i Fehefin 2026.

6.

Cwynion a Chwythu'r Chwiban - 04/2024 - 03/2025 pdf eicon PDF 942 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD :-

 

·     Gweithredu’r isod, cyn gynted â phosib: -

 

·     cyflwyno dashfwrdd Power BI ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr, mewn perthynas â chwynion am eu gwasanaeth;

·     darparu hyfforddiant ar gyfer swyddogion cwynion, a’u dirprwyon, ar ofal cwsmer a chydraddoldeb / amrywiaeth;

·   diweddaru’r nodyn canllaw ar drin cwynion yn effeithiol.

·     Ar ôl ystyried y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ar gyfer 2024/2025, gofyniad bod data perfformiad presennol ar gwynion am wasanaethau yn dod yn eitem sefydlog yn y cyfarfodydd rheolaidd rhwng Penaethiaid Gwasanaeth / Cyfarwyddwyr a’u harweinwyr Pwyllgor Gwaith (Aelodau Portffolio).

·     Cyfarwyddo’r Swyddog Monitro i atgoffa gwasanaethau o’r angen

i: -

·       weithredu unrhyw argymhellion gan OGCC ac adrodd i OGCC eu bod wedi eu cwblhau o fewn yr amserlen a osodwyd;  

·       cofnodi’n rheolaidd unrhyw wersi a ddysgwyd o ganlyniad i gwynion, adnabod unrhyw batrymau a gweithredu mesurau lliniaru addas.

·         Cyfarwyddo’r Swyddog Monitro i ymateb i Lythyr Blynyddol OGCC 2024/25 yn ôl yr angen ym mharagraff olaf ond un y Llythyr o dan sylw.

7.

Canlyniadau'r ymgynghoriad ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed pdf eicon PDF 484 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD :-

 

·     Cymeradwyo'r cynnig (yn dilyn yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar y cynnig) i “Adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11–18 oed”.

·     Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol mewn perthynas â'r cynnig.

8.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 184 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

9.

Achos Amlinellol Strategol – Adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol uwchradd newydd ar gyfer dysgwyr 11–18 oed

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD:-

 

·         cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol ar gyfer yr adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi;

·         cymeradwyo cyflwyno’r Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru erbyn 8 Ionawr 2026 ar gyfer cyfarfod o’r Grwp Craffu ar Achosion Busnes a fydd yn cyfarfod bythefnos yn ddiweddarach;

·         cymeradwyo clustnodi derbyniadau cyfalaf yn dilyn gwerthu safle presennol Ysgol Uwchradd Caergybi i ad-dalu rhan o fuddsoddiad y Cyngor tuag at adeiladu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi;

·         dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog A151 a Chyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio’r Achos Amlinellol Strategol os oes angen - oni bai bod y newidiadau’n achosi newidiadau sylweddol (o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd bartïon).