Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith Arbennig, Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Iau, 2ail Hydref, 2025 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad.

 

 

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

4.

Ymateb i'r Hysbysiad Gwella Rheolaeth Adeiladu pdf eicon PDF 433 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, oedd yn amlinellu’r ymatebion i’r hysbysiad gwella rheolaeth adeiladu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Gweinidogion Cymru wedi hysbysu'r Cyngor, fis Ebrill 2025, fod ymchwiliad wedi’i ei ddechrau wedi iddynt dderbyn honiad fod Tîm Rheoli Adeiladu’r Cyngor yn torri Rheolau Gweithredu Safonol (Cymru) 2024.  Cynhaliwyd ymchwiliad mewnol brys i bennu a oedd yr honiad yn wir a chymerodd y Cyngor gamau brys a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ei bod yn bwysig fod gan y Cyngor wybodaeth am y gwendidau sydd wedi digwydd, a bod yr argymhellion yn yr adroddiad eisoes wedi derbyn sylw cyn derbyn cyngor gan yr Arolygiaeth, a bod gwelliannau wedi’u gwneud i wella’r gwasanaeth.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod ymateb cynhwysfawr wedi’i ddarparu ar gyfer yr hysbysiad gwella rheolaeth adeiladu.  Gofynnodd a oedd y gwaith sy’n cael ei gwblhau gan y Tîm Rheoli Adeiladu yn cydymffurfio â safonau perthnasol y blynyddoedd blaenorol, a pha sicrwydd ellir ei gynnig na fydd materion eraill yn codi yn y dyfodol mewn perthynas â diogelwch adeiladau.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r newidiadau i’r Rheolau Safonau Gweithredu o fewn yr amserlen.  Mae staff y Tîm Rheoli Adeiladu yn brofiadol ac yn meddu ar y wybodaeth ofynnol o ran deddfwriaeth rheoli adeiladu, ac mae hyfforddiant bellach yn cael ei gynnig i sicrhau cydymffurfiaeth lawn gyda’r safonau newydd.  

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod capasiti’r Tîm Rheoli Adeiladu wedi’i gryfhau dros dro i sicrhau bod gan y tîm y sgiliau a’r gallu priodol.  Mae Swyddog profiadol wedi cynnal adolygiad ar geisiadau rheoli adeiladu hanesyddol rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, ac nid oes unrhyw faterion wedi’u codi mewn perthynas â’r penderfyniadau a wnaed gyda’r ceisiadau rheoli adeiladu.  Dywedodd ei fod yn hyderus fod y penderfyniadau cywir wedi’u gwneud a bod y Tîm yn gweithio’n effeithiol ac yn cydymffurfio gyda cydymffurfiaeth statudol.  

 

Gofynnodd Arweinydd y Cyngor a oes cynllun hyfforddi a gweithlu ar waith mewn perthynas â’r gwasanaeth hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod hyfforddeion a’r Swyddog Cymorth Technegol yn y gwasanaeth wedi dechrau rhaglen hyfforddiant i gael y sgiliau a’r cymwysterau gofynnol i gwblhau gwaith yn unol â deddfwriaeth newydd. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y cydnabyddir, ar lefel genedlaethol, fod diffyg arbenigedd a sgiliau yn y maes rheoli adeiladu. Oherwydd newidiadau mewn deddfwriaeth, bydd rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi ymhellach er mwyn creu gweithlu proffesiynol.  Mae Awdurdodau Lleol yn darparu hyfforddiant i hyfforddeion, ond weithiau bydd y staff hyn yn gadael yr awdurdod ac mae’n broses gyson o orfod hyfforddi staff newydd. Dywedodd fod cadw staff yn bwysig er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         I gymeradwyo ymateb y Cyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r Hysbysiad Gwella Rheoli Adeiladu.

·         gyda chymeradwyaeth blaenorol Cadeirydd y Cyngor, i atal hawl y Pwyllgor Sgriwtini i alw’r penderfyniad hwn i mewn.  Byddai gohirio’r penderfyniad i ganiatáu cyfnod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna paragraff 16 o Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni. Yn benodol, gwybodaeth mewn perthynas â hawliad ar gyfer braint proffesiynol cyfreithiol y gellir ei gynnal mewn achosion cyfreithiol.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym mharagraff Atodlen 12A y Ddeddf honno.  Sef gwybodaeth y gellid cynnal hawliad i fraint broffesiynol gyfreithiol mewn perthynas â hi mewn achos cyfreithiol.”

 

 

6.

Her Gyfreithiol Posibl i'r Penderfyniad i Roi Caniatâd Cynllunio i Fferm Solar Alaw Môn (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol)

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ynghylch yr her gyfreithiol bosibl i'r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i Fferm Solar Alaw Môn.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cyfarfod llawn Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 25 Medi 2025 wedi dod i’r casgliad y dylid ymgymryd â Her Gyfreithiol i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo'r caniatâd cynllunio i Fferm Solar Alaw Môn.  Nododd fod y Cyngor wedi herio’r penderfyniad i ganiatáu’r cais gan fod y Cyngor wedi mynegi pryderon drwy gydol y broses gynllunio. 

 

Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod gwaith sylweddol wedi'i wneud ynghylch a oes posibilrwydd i herio'r penderfyniad.  Mae’r Cyngor wedi adolygu Barn Bargyfreithiwr Arbenigol ynglŷn â’r sail ar gyfer cyflwyno her gyfreithiol i’r Uchel Lys.  Mae’r Cwnsler o’r farn bod siawns gref iawn o herio’r caniatâd a roddwyd yn llwyddiannus. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         cyfarwyddo Swyddogion i herio’r caniatâd a roddwyd i’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cyf. DNS-3274702) gan Weinidogion Cymru dan adran 288 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (adran 288(4) ac adran 284(3)(aa) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990);  

·         rhoi awdurdod i ryddhau arian er mwyn cyflwyno’r her hon yn unol â’r awdurdod a roddwyd iddynt yng Nghyllideb y Cyngor 2025/2026 ac yn amodol ar fonitro parhaus a chefnogaeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151;

·         gyda chymeradwyaeth blaenorol Cadeirydd y Cyngor, i atal hawl y Pwyllgor Sgriwtini i alw’r penderfyniad hwn i mewn.  Byddai oedi’r penderfyniad er mwyn i’r Pwyllgor Sgriwtini ei alw i mewn yn cael effaith negyddol am fod rhaid cyflwyno’r her gyfreithiol i’r Uchel Lys erbyn 7 Hydref, 2025 fan bellaf.