Rhaglen a chofnodion drafft

Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Safonau - Panel Dethol - Dydd Mawrth, 21ain Hydref, 2025 3.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.  

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ar  23 Medi 2025.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Panel Dethol a gynhaliwyd ar 23 Medi 2025 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir. 

3.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 119 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod: -

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei datgelu fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Penodi Aelod Annibynnol i sedd wag ar y Pwyllgor Safonau

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/ Swyddog Monitro i’r Panel Dethol er mwyn ystyried y trefniadau i benodi Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, yn dilyn cyfarfod y Panel Dethol ar 23 Medi 2025, bod y swydd wag ar gyfer Aelod Annibynnol wedi ei hysbysebu ar wefan y Cyngor, Twitter a Facebook, Bangor and Anglesey Mail a’r Daily Post, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5:00 pm  ar 10 Hydref 2025.

 

Ystyriodd y Panel y ceisiadau a gafwyd yn erbyn y meini prawf gosod a gytunwyd ymlaen llaw ac a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer cael eu cyfweld.  

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Panel Dethol wedi ystyried pob cais (Atodiad 1 o’r adroddiad) ac

   wedi llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer eu cyfweld.

  Bod y Panel Dethol yn cytuno ar bob elfen o’r broses gyfweld fel â ganlyn:-

 

    Y cwestiynau i’w gofyn;

    Y matrics sgorio fel y nodir yn Atodiad 4 o’r adroddiad;

    Sut y bydd y matrics sgorio yn gweithio;

    Bod yr ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am

      gyfweliad ar ddyddiad ac amser i’w gadarnhau.

    Gofyn am dystlythyrau cyn y cyfweliad gan bob ymgeisydd a roddir ar y

      rhestr fer (gyda chaniatâd pob ymgeisydd sydd ar y rhestr

      fer).