Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu), Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mawrth, 19eg Hydref, 2021 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 276 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2021 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd angen cynnal Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fis nesaf er mwyn trafod ymateb y Cyngor i adroddiad drafft y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRP) cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar 26 Tachwedd 2021.

3.

Adolygiad o Etholaethau Seneddol pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi dechrau ar ei adolygiad 2023 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru, yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986. Mae cynigion cychwynnol wedi eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori, gyda dyddiad cau o 3 Tachwedd wedi ei nodi ar gyfer derbyn sylwadau. 

 

          Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y cynigion yn argymell lleihau nifer yr etholaethau o 40 i 32 yng Nghymru. Nid yw Etholaeth Ynys Môn yn destun unrhyw newidiadau ac nid yw’n cael ei argymell fod unrhyw newid enw chwaith.

         

          Nodwyd y gwnaethpwyd achos i ddiogelu Etholaeth Ynys Môn yn 2017, fel rhan o’r adolygiad diwethaf.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y cynigion yn argymell lleihau nifer yr etholaethau o 40 i 32 yng Nghymru. Codwyd pryderon am yr effaith y byddai’r gostyngiad hwn yn ei gael ar Gymru a llais democrataidd.

 

          PENDERFYNWYD croesawu’r cynigion ar gyfer Etholaeth Seneddol Ynys Môn, fel y nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, ac argymell hynny i’r Cyngor Sir.