Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rthithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 24ain Ionawr, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rthithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2022 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2022 yn cael eu cadarnhau fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 476 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Chwefror a Medi 2023 i'w gadarnhau a nodwyd y newidiadau canlynol:-

 

Eitemau newydd

 

·           Eitem 3 – Trefniadau Polisi Cynllunio Newydd – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror, 2023;

·           Eitem 7 – Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2022/2023 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023;

·           Eitem 21 – Strategaeth Gwella Canol Trefi Môn – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2023;

·           Eitem 22 – Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill 2023;

·           Eitem 23 – Cynllun Rheoli Cyrchfan – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2023;

·           Eitem 25 – Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Cymraeg 2022/2023 - Penderfyniad Dirprwyedig;

·           Eitem 32 – Cyfrifon Terfynol Drafft 2022/2023 a defnyddio Balansau a Chronfeydd Wrth Gefn – eitem newydd ar gyfer cyfarfod Gorffennaf, 2023;

 

Eitemau rheolaidd ar gyfer cyfarfod mis Medi, 2023

 

·           Eitem 34 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 1, 2023/2024;

·           Eitem 35 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw, Chwarter 1, 2023/2024;

·           Eitem 36 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 1, 2023/2024

·           Eitem 37 – Adroddiad Monitro’r Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 1, 2023/2024.

 

Ers cyhoeddi'r Rhaglen Waith ystyrir yr eitem ar Ffioedd Cartrefi Gofal Annibynnol y Sector 2023/2024 yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 14 Chwefror, 2023.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaraf y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi, 2023.

 

 

5.

Adroddiad Arolygiad Gwerthuso Perfformiad (AGP) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn pdf eicon PDF 1018 KB

Cyflwyno adroddad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Cyfarwyddwr Cymdeithasol sy'n darparu Arolygiad Gwerthuso Perfformiad (AGP) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid fod yr Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, sef Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac Oedolion yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar 10 – 14 Hydref, 2022, fel rhan o'u Harolygiad Gwerthuso Perfformiad (AGP) arferol.  Nododd fod yr adroddiad i'w groesawu gan fod AGC wedi nodi cryfderau, arferion da a datblygiadau ac nad oedd yn tynnu sylw at unrhyw feysydd o risg sylweddol na materion diogelu.  Mae AGC wedi nodi bod yr Awdurdod wedi dangos brwdfrydedd a pharodrwydd amlwg i weithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid a'r trydydd sector ynghyd â gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor.  Dywedodd ymhellach fod negeseuon cyson, cadarnhaol gan y gweithlu o ran ansawdd arweinyddiaeth a diwylliant ar draws gwasanaethau plant ac oedolion.   Dywedodd ymhellach ei fod yn falch bod AGC wedi cydnabod y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol y mae'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei chael.

 

Ailadroddodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion y sylwadau a wnaed gan Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid gan groesawu'r adroddiad cadarnhaol gan AGC ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd ymhellach y dylid sicrhau, yn

sgîl heriau ariannol, fod y gefnogaeth yn parhau er mwyn hybu’r

gwelliannau ymhellach ar draws gwasanaethau plant ac oedolion. Diolchodd i staff gwasanaethau Plant ac Oedolion am eu gwaith.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn gwerthfawrogi bod adroddiad AGC yn adroddiad cadarnhaol ar wasanaethau Plant ac Oedolion ac yn enwedig yn ystod y pwysau aruthrol ar y Sector Gofal, yr argyfwng costau byw a'r pwysau ar y gweithlu i fynd i'r afael â'r materion hyn.    Nododd fod yna rai meysydd wedi eu hamlygu o fewn yr adroddiad y mae angen mynd i'r afael â nhw, fodd bynnag, roedd y materion hyn yn cael eu hystyried o fewn y gwasanaeth ar hyn o bryd a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Pwyllgor Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ystyried maes o law. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod 19 Ionawr, 2023 y Pwyllgor lle trafodwyd Adroddiad Arolygiad Gwerthuso Perfformiad AGC, a chadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi cael adroddiad cadarnhaol ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Diolchodd yr aelodau i holl staff Gwasanaethau Cymdeithasol ac roeddent am gydnabod eu hymroddiad a'u gwaith da. Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, argymhellwyd nodi cynnwys adroddiad Arolygiad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru ac argymell y camau arfaethedig yn sgil yr arolygiad i'r Pwyllgor Gwaith eu mabwysiadu.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor hefyd am ddiolch i staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith.  Dywedodd ei bod yn falch bod yr adroddiad wedi cydnabod bod y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol y mae'r adran wedi ei chael wedi cyfrannu at y gwelliant o fewn y gwasanaeth ers 2016.  Dymunai ddiolch hefyd i'r adrannau Cyllid,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cyllideb Refeniw Drafft 2023/24 pdf eicon PDF 673 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi cyllideb refeniw dros dro'r Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2023/2024 i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod y gyllideb gychwynnol ar gyfer eleni wedi cynyddu i £172.438m ac mai'r prif ffactor yw chwyddiant fel y gellir ei ddangos yn Nhabl 2 o fewn yr adroddiad.  Dywedodd ymhellach fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal o ran y gyllideb refeniw a bod yr adborth wedi arwain at gyfuniad o gynnydd yn Nhreth y Cyngor, y defnydd o arian wrth gefn a chynyddu'r premiwm ar ail gartrefi.   Er bod y setliad dros dro i Lywodraeth Cymru yn uwch na'r hyn a ragwelwyd, mae gan yr awdurdod ddiffyg o £5.396m o hyd.  Er mwyn ariannu'r diffyg ariannol, byddai angen gosod cynnydd o 12% yn Nhreth y Cyngor.  Er mwyn lleihau'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, byddai angen defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor neu wneud arbedion o ran y gyllideb refeniw.  Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod isafswm o 5% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer y balansau cyffredinol.   Argymhellir cyfuniad o ddefnyddio £1.78m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol, cynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor (sy'n codi tâl Band D i £1,435.86) a chynyddu'r premiwm ar ail gartrefi o 50% i 75%. 

 

Tynnwyd sylw gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y ffaith mai dyma'r refeniw drafft cychwynnol ar gyfer 2023/2024 ac y bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023  ac wedi hynny i'r Cyngor llawn ar 9 Mawrth, 2023.  Nododd y bydd mân addasiadau i'r gyllideb gyda'r prif welliant i ardoll yr Awdurdod Tân ac Achub sydd wedi gostwng o 13.4% i 9.9%.  Mae partneriaid allanol eraill y mae'r Cyngor yn ei ariannu a bydd y rheini’n dod i benderfyniad ar eu cyllideb maes o law. Tynnodd sylw at lefel y risg sy'n ymwneud â'r gyllideb, yn arbennig p’un ai a ddarparwyd yn ddigonol ar gyfer codiadau cyflog, chwyddiant ynni a'r galw cynyddol am wasanaethau. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod y Pwyllgor ar 19 Ionawr, 2023 lle derbyniwyd adroddiadau'r Rheolwr Sgriwtini a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 gan y Pwyllgor. Roedd aelodau'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio hefyd yn bresennol.  Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod a rhoi sylw i adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

Dymunai'r Pwyllgor Gwaith dynnu sylw at y gwaith a wnaed i osod y gyllideb refeniw ddrafft a'r balans sydd ei angen er mwyn i’r gyllideb fodloni’r galw am wasanaethau’r Awdurdod yn 2023/2024 a hefyd i ddiogelu pobl fregus yn y gymdeithas y bydd angen y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor arnynt. 

PENDERFYNWYD:-

·           Cymeradwyo’r gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2023/24 o £172.438m;

·        Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig o 5% yn Nhreth y Cyngor, a fydd yn golygu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Ymgysylltu ac Ymgynghori: Cynllun y Cyngor Drafft (2023-2028) pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar Gynllun Drafft y Cyngor 2023 – 2028 i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.

 

Cyflwynodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn benllanw ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori gyda staff, trigolion, partneriaid a rhanddeiliaid. Mae’r ymarfer ar y gweill ers dechrau blwyddyn galendr 2022 pan gynhaliodd y Cyngor ei ymarfer ymgysylltu cychwynnol.  Bu'r Cyngor yn ymgynghori ar ei flaenoriaethau strategol am gyfnod o 8 wythnos.  Mae’r blaenoriaethau strategol hyn wedi’u cynnwys yn Atodiad A o'r adroddiad.  Cafwyd dros 2,500 o ymatebion ar bob math o weithgaredd yn ystod y flwyddyn.  Mae’r Adroddiad Ymgysylltu ac Ymgynghori sy'n amlinellu'r canfyddiadau wedi’i gynnwys yn Atodiad B o'r adroddiad.   Dywedodd fod 8 o bob 10 o'r ymatebwr yn cytuno â blaenoriaethau strategol y Cyngor.

 

Yn ôl y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad mae'n ofyniad statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 a Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod awdurdodau lleol yn hyrwyddo cyfraniad trigolion o fewn yr ymarfer ymgynghori.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod 19 Ionawr, 2023 y Pwyllgor lle derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid gan y Pwyllgor. Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod penderfynwyd  argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

Penderfynwyd:-

·      Bod y broses ymgysylltu ac ymgynghori wedi'i chynnal mor gynhwysfawr â phosibl yn ystod 2022;

·      Bod Swyddogion mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Gwaith, yn datblygu ymhellach Gynllun drafft y Cyngor yn dilyn y broses ymgynghori yn barod i’w fabwysiadu yn ystod Gwanwyn 2023.

8.

Costau Byw - Cynllun Dewisol (Cam 2) pdf eicon PDF 602 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y Cynllun Dewisol Costau Byw - Cam 2 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan ddweud fod y prif gynllun costau byw yn golygu bod tua 23,000 o aelwydydd wedi derbyn grant o £150 o fewn y Bandiau Treth Cyngor A i D.  Rhoddodd Cam 1 y Cynllun Dewisol gymorth ychwanegol i grwpiau bregus eraill nad oeddent yn gymwys i gael cymorth o dan y prif gynllun.  Mae angen defnyddio'r cyllid o fewn Cam 2 y cynllun erbyn 31 Mawrth, 2023 a phenderfynwyd rhoi cyllid i drigolion Ynys Môn â chyflyrau iechyd a thrigolion sy'n defnyddio olew gwresogi domestig i wresogi eu cartrefi gan nad ydynt wedi derbyn cymorth yn ystod y cynllun dewisol costau byw. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y

Y Cynllun Dewisol wedi bod yn fodd i ddosbarthu’r arian i grwpiau y mae'r Cyngor yn ystyried bod angen cymorth arnynt.  Dywedodd os oes unrhyw berson o'r farn eu bod yn gymwys ar gyfer cyllid o'r fath dylid cysylltu â Chanolfan J E O'Toole yng Nghaergybi neu'r CAB. 

Penderfynwyd:-

 

·           Ehangu’r cyllid y cytunwyd yn flaenorol arno o dan gam 1 i ddarparu cymorth gyda chostau tai ar gyfer pobl sydd yn symud o lety dros dro drwy ddarparu grantiau i aelwydydd gydag anghenion tai (prynu a gosod lloriau a charpedi, costau dodrefnu, bwyd a dyledion rhent) lle nad ydynt yn deilwng am gymorth o dan y cynllun Taliad Dewisol at Gostau Tai – gweler paragraff 2.3.4.

·           Cymeradwyo’r prosiectau cam 2 ychwanegol a nodir yn Atodiad 1, paragraff 4.

·           Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaeth Tai Cymunedol i ddod o hyd i bartner / sefydliad(au) lleol addas a all barhau i ddarparu’r cymorth gyda chostau byw drwy’r cynlluniau a sefydlwyd gan y Cyngor tu hwnt i 31 Mawrth 2023, ac awdurdodi’r cam o drosglwyddo unrhyw arian sydd dros ben i’r sefydliad a nodir, os na ddefnyddir y cyllid i gyd erbyn diwedd Mawrth, 2023.

 

9.

Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Bioamrywiaeth pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn am sêl bendith y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â’r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Bioamrywiaeth i’w ystyried.

 

Cyflwynodd Aelod Portffolio Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Newid Hinsawdd yr adroddiad gan ddweud mai pwrpas yr adroddiad yw datgan beth mae'r Awdurdod wedi'i wneud i gydymffurfio â dyletswydd Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2022.  Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i lunio Cynllun Bioamrywiaeth ar eu nodau a'u hamcanion bob tair blynedd.  Dywedodd fod yna brosiectau arloesol yn cael eu cynnal ar yr Ynys.  Mae Cynllun Bioamrywiaeth wedi’i gynnal ar hen safle tirlenwi Clegir Mawr, Gwalchmai a chynllun plannu coed yn safle tirlenwi Penhesgyn.

 

Dywedodd Rheolwr Cynllunio a’r Amgylchedd Adeiledig a Naturiol, fod gwaith sylweddol wedi ei wneud ar safleoedd Penhesgyn a Chlegir Mawr a oedd yn cynnwys plannu 24,000 o goed gyda'r bwriad o wella amodau i fioamrywiaeth ffynnu o fewn y safleoedd hyn.  Dywedodd nad oedd rhai camau a osodwyd yng Nghynllun Bioamrywiaeth y Cyngor wedi eu bodloni, ond mae'r adroddiad yn cynnig argymhellion ynghylch sut y dylid cyflawni'r rhain.  Mae angen cynnwys Astudiaeth Achos ychwanegol yn ymwneud â'r gwaith ym Mhenhesgyn, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, o fewn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r argymhellion ynddo.

10.

Trefniadau Llywodraethiant - Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn am sêl bendith y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â darparu Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i'w ystyried.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth fod disgwyl i lywodraeth leol, wrth ddatblygu'r rhaglen, ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys y trydydd sector a’r gymuned fusnes a rhoi cyfleoedd i sefydliadau sicrhau adnoddau o'r rhaglen i gyflawni yn erbyn ei blaenoriaethau.  Dywedodd ymhellach y bydd Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol ar gyfer y rhaglen.  Cyfeiriodd hefyd at raglen Ffyniant Bro yng Nghaergybi a'r gwaith a wnaed gan yr Awdurdod ynghyd â sefydliadau sy’n bartneriaid yng Nghaergybi. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod Llywodraeth y DU bellach wedi lansio'r Gronfa Ffyniant Bro fel rhaglen a fydd yn cael ei hariannu’n

ddomestig, i ddisodli’r cyllid strwythurol blaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd..  Dywedodd ymhellach fod yr arian o'r Gronfa yn £16m gyda £3m o'r gronfa honno tuag at raglen Lluosi. 

 

PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i'r Arweinydd mewn ymgynghoriad â Deiliaid Portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr a Chyllid, ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Gwaith, a allai fod yn ofynnol mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar Ynys Môn (ar gyfer cyfnod y cyllid).