Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 6 Rhagfyr 2022 • 26 Ionawr 2022( Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel cofnod cywir:
· 6 Rhagfyr, 2022 · 26 Ionawr, 2023 (Cyfarfod Arbennig)
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu’r Prif Swyddogion ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 13 – Datganiad Polisi Tâl 2023 ac fe wnaethant adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyiwyd unrhyw ddeisebau. |
|
Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y CynghoryddLlinos Medi:-
“Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys i wytnwch cysylltiad Ynys Môn a’r tir mawr. Mae sefyllfa Ynys Môn yn unigryw i unrhyw ardal arall yng Nghymru oherwydd dim ond dau gysylltiad yn unig sydd, nid yn unig er mwyn cyrraedd ail borthladd prysuraf y Deyrnas Unedig ond hefyd i drigolion yr ynys byw eu bywydau dydd i ddydd. Mae angen sicrhau bo trigolion yr ynys yn gallu cael mynediad i waith, addysg a gwasanaethau brys. Hefyd, mae angen sicrhau cysylltiad economaidd i’r ynys o’r sector twristiaeth i’r cais Porthladd rhydd. Mae dyfodol economaidd a llesiant trigolion yr ynys yn ddibynnol ar y cysylltiad.” Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cafodd y Cynnig ei basio.
|
|
Rhyddhau Balansau'r Cyngor i Gyllido Costau Cyflog Ychwanegol mewn Ysgolion Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD rhyddhau £1.073,635 o’r balansau cyffredinol er mwyn ariannu’r costau ychwanegol a wynebir gan ysgolion.
|
|
Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2022/23 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· derbyn yr Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2022/23. · cymeradwyo’r newid yn y terfyn gwrthbarti i awdurdodau lleol eraill yn unol ag adran 5.3 |
|
Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn y Strategaeth Gyfalaf. |
|
(a) Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023.
(b) Cyllideb Cyfalaf 2023/24
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023.
(c) Penderfyniad Drafft ar osod y Dreth Gyngor 2023/24
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/2024. · Derbyn y Datrysiad ar y Dreth Gyngor drafft fel y nodwyd yn (C) ar yr agenda. |
|
Rhannu Swyddi ar y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cytuno i’r newidiadau Cyfansoddiadol er mwyn:-
· Caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith; · Caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a
· Nodi’r trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd;
(a) yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad,
(b) unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.
Os bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau rhannu swydd a / neu nifer yr unigolion sy’n derbyn cyflog uwch o ganlyniad i’r trefniadau rhannu swydd, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i hynny ar unwaith.
|
|
Cynllun y Cyngor 2023-2028 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028.
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2023 Cyflwyno adroddad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cadarnhau Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2023.
|
|
Trefniadau Polisi Cynllunio Newydd Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. · I ddiwygio’r Cyfansoddiad er mwyn diddymu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y · Cyd a sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ac i ddirprwyo i’r Swyddog Monitro yr hawl i weithredu’r newidiadau yna. |