Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Geraint Bebb ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1 ar yr agenda ar y sail ei fod yn adnabod y gwrthwynebwyr i’r cais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 449 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim wedi ei gynnal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliad safle yn ystod y cyfnod.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas a chais 12.4.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio pdf eicon PDF 621 KB

6.1 – FPL/2022/60 – Cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

FPL/2022/60

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at y cyfarfod diwethaf lle dywedwyd bod rhaid disgwyl am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd ynghylch diogelwch cerddwyr a gwybodaeth yn ymwneud â phriffyrdd. Bellach, mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno’r wybodaeth ofynnol, ac mae’n rhaid i’r Awdurdod Cynllunio gynnal ymgynghoriad statudol pellach ar ôl derbyn y wybodaeth hon. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fis Mawrth, ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd.

 

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Ffrddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – HHP/2022/313 - Ponc Rodyn, Llangristiolus

HHP/2022/313

 

12.2 – FPL/2022/173 - Lon Penmynydd, Llangefni

FPL/2022/173

 

12.3 – LBC/2022/34 - Amddiffyniad Pillbox, Bae Trearddur

LBC/2022/34

 

12.4 – FPL/2022/71 – Tre Angharad, Bodedern

FPL/2022/71

 

12.5 – FPL/2022/301 - Clwb Pêl-droed Holyhead Hotspur, Caergybi

FPL/2022/301

 

12.6 – 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

46C427L/COMP

 

12.7 – COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

COMP/2021/1

 

12.8 – S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

S106/2020/3

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  HHP/2022/313 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd a codi balconi yn Ponc Rodyn, Llangristiolus

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn y cais, bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb adael y cyfarfod ar unwaith ar ôl gwneud ei gyfraniad, cyn y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol, oherwydd pryderon yn ei gylch.

 

Bu i’r Rheolwr Rheoli Datblygu adrodd ar brif ystyriaethau’r cais, a dywedodd fod yr estyniad ochr arfaethedig yn ymestyn 2.2. medr tuag allan oddi wrth yr annedd bresennol. Mae’r estyniad yn mesur 6.7 medr o led er mwyn ehangu’r gegin/ystafell fyw. Bydd balconi’n cael ei godi uwchben yr estyniad llawr isaf fydd yn arwain allan o’r brif ystafell wely. Mae pellter o oddeutu 12m rhwng ochr yr eiddo cyfagos, Nyth Clyd. Bydd gan y balconi falwstrad aneglur 1.8m er mwyn atal unrhyw or-edrych. Mae’r cais o ansawdd arbennig, a bydd yn gwella’r annedd bresennol ac yn cyd-fynd â hi, ac ystyrir ei fod yn bodloni’r polisi cynllunio perthnasol, PCYFF 2, yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol, fod llythyr o wrthwynebiad i’r cais wedi’i dderbyn, a dywedodd fod perchennog yr eiddo cyfagos yn berthynas i’w fam yng nghyfraith. Aeth ymlaen i ddweud fod awdur y llythyr hefyd yn ffrindiau â’i wraig. Nododd fod y llythyr yn mynegi y bydd codi’r balconi arfaethedig yn cael effaith negyddol ar breswylwyr Nyth Clyd oherwydd gor-edrych i’r ardd. Gadawodd y Cynghorydd Bebb y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y pellteroedd gofynnol rhwng ffin yr eiddo cyfagos a’r balconi yn bodloni’r pellteroedd gofynnol o fewn polisïau cynllunio. Bydd balwstrad 1.8m gyda gwydr aneglur yn cael ei godi ar hyd ochr y balconi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cynnig i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.2  FPL/2022/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i leoli 32 caban gwyliau, gosod adeilad derbynfa, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffyrdd newydd ar y safle a mannau parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Lôn Penmynydd, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr aelodau lleol oherwydd pryderon lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol, pe ellid cynnal ymweliad safle corfforol ar y safle, gan fod gwrthwynebiadau lleol i’r cais, ac mae Cyngor Tref Llangefni hefyd yn gwrthwynebu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Ken Taylor y cynnig i gynnal ymweliad safle corfforol ar y safle.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle corfforol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3  LBC/2022/34 – Caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer newidiadau a gwaith atgyweirio yn Amddiffyniad Pillbox, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno, ynghyd â chais caniatâd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.