Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Penderfyniad: Bu i’r Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol ar gyfer eitem 6 – Adroddiad Cynnydd Chwarter 3 : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gafwyd ar 7 Chwefror, 2023. Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2023 yn gywir. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb: 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro. Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb : 2021/2022. |
|
Rhaglen Cronfa Ffyniant Bro Ynys Môn Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r cynnydd o ran datblygu cais i’r Gronfa Ffyniant Bro; · Cydnabod rôl y Cyngor wrth ddatblygu a chyflwyno’r cais; · Cefnogi gweithredu’r Gronfa Ffyniant Bro (yn unol â’r dyddiadau cau, allbynnau cytunedig ayb.) |
|
Adroddiad Cynnydd Ch3: 2022/23 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi’r cynydd a waned yn ystod Chwarter 3 : 2022/2023. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar fersiwn gyfredol y Blaen Rhaglen Waith ar gyfer 2022/2023; · Nodi’r cynnydd hyd yn hyn o ran gweithredu’r Blaen Rhaglen Waith. |