Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2023 yn gywir. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim wedi’u derbyn. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: None received. |
|
Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Llinos Medi:-
“Rydym fel Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr URDD i Ynys Môn yn 2026 mewn egwyddor . Mae’r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau ieuenctid drwy Ewrop a does unman gwell na Môn er mwyn llwyfannu digwyddiad Cymreig i bobl ifanc Cymru.”
Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas: -
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru I ail ymweld ar y penderfyniad i ddod a chymorth cyllid BES3 I ben 24/07/23 i fysus Cyhoeddus. Mae’r cyllid yn hanfodol bwysig i ddiogelu gwasanaethau bysiau ar yr ynys.”
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: · Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Llinos Medi:-
‘“Rydym ni fel Cyngor Sir Ynys Môn yn dymuno, mewn egwyddor, gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Ynys Môn yn 2026. Yr Eisteddfod yw un o brif ddigwyddiadau ieuenctid Ewrop ac nid oes unman gwell nag Ynys Môn i lwyfannu digwyddiad Cymraeg ar gyfer pobl ifanc Cymru.”
PENDERFYNWYD derbyn y Cynnig yn unfrydol.
· Cyflwynwyd – y cynnig canlynol gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas:-
‘Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad i ddod â chymorth ariannol BES3 ar gyfer bysiau cyhoeddus i ben ar 24/07/23. Mae’r arian hwn yn hanfodol bwysig i ddiogelu gwasanaethau bws ar yr Ynys.”
PENDERFYNWYD derbyn y Cynnig yn unfrydol. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim wedi’u derbyn.
|
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2022/23 Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o'r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Amherthnasol. Dim penderfyniad ei angen. |
|
Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2023-28 Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn a nodi chynnwys yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor.
|
|
Hunan Asesiad Corfforaethol 2023 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r ddogfen fel ‘drafft gweithredol’ a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ystyried ei chynnwys ymhellach yn ei gyfarfod ar 29 Mehefin, 2023. |