Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024 yn gywir. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 208 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Medi 2024 i Fawrth 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Hunan Asesiad Corfforaethol 2023/24 PDF 684 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu dogfen Hunan-asesiad Corfforaethol 2023/24 fel fersiwn terfynol yn dilyn ystyriaeth a sylwadau ar ei gynnwys gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024. |
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw, Alldro 2023/24 PDF 387 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a osodwyd yn Atodiad A a B yn yr adroddiad mewn perthynas ag alldro ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2023/24. · Nodi’r crynodeb ar gyfer cyllidebau wrth gefn 2023/24, fel y nodwyd yn Atodiad C. · Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH, D a DD. · Nodi bod balans o £15.694m yn cael ei amcangyfrif ar gyfer balansau cyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2024.
|
|
Alldro Cyfalaf 2023/24 PDF 459 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2023/24 fydd yn destun Archwiliad. · Cymeradwyo dwyn ymlaen £15.499m i 2024/25 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2024/25 (Atodiad A – paragraff 4.3). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 yw £59.337m. |
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai, Alldro 2023/24 PDF 236 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a osodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24. |
|
Cyfrifon Terfynol Drafft 2023/24 a defnydd o Gronfeydd with Gefn a Balansau PDF 361 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon Drafft llawn ar gyfer 2023/24 ar y ddolen a ganlyn:- Datganiad-or-cyfrifon-Drafft-2023-2024.pdf (llyw.cymru) · Nodi sefyllfa balansau cyffredinol y Cyngor, sef £15.604m. · Nodi balans y Cronfeydd wrth gefn clustnodedig, sef £16.778m, a chymeradwyo creu £1.553m o gronfeydd wrth gefn newydd clustnodedig. · Cymeradwyo, yn ffurfiol, trosglwyddo £2.002m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig yn ôl i Falansau Cyffredinol y Cyngor. · Nodi balans cronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £5.577m. · Nodi balans cronfa’r CRT, sef £8.189m.
|
|
Newid i'r Cyfansoddiad: Cynllun Dirprwyo i Swyddogion PDF 177 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cefnogi’r canlynol -
· I ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu pa bynnag wedi ei ddirprwyo i Ddeilydd Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol. · Y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad. · Caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei hanfon at yr Arolygaeth Gynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad ei angen oherwydd nad yw amserlen archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).
|
|
Cyflwr economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a’r achos dros fuddsoddi a chymorth PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Nodi Adroddiad Effaith Economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a chynnwys yr adroddiad fel ei fod yn gwbl ymwybodol o’r sefyllfa bresennol, y tueddiadau, y cyfleoedd a’r heriau. · Cefnogi’r Arweinydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg i godi ymwybyddiaeth o’r materion, heriau a chyfleoedd. · Cefnogi gweithgareddau parhaus y Cyngor i nodi a sicrhau cyllid allanol i hwyluso gweithgareddau adfywio yn y dyfodol. · Sicrhau bod Swyddogion ac Aelodau Etholedig yn defnyddio’r data sydd yn yr Adroddiad Effaith i wneud penderfyniadau gwybodus fel Cyngor llawn i gyflawni Cynllun y Cyngor (2023-2028).
|