Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad gan Ymgeisydd i Gefnogi eu Henwebiad i fod yn Arweinydd y Cyngor PDF 55 KB Yn unol â Pharagraff 2.7.3.2 y Cyfansoddiad, ar ôl cyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) i’r Prif Weithredwr eisoes, 5 diwrnod gwaith cyn y Cyngor llawn (a gefnogwyd yn ysgrifenedig gan ddau Gynghorydd arall at y Prif Weithredwr), bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr canlynol yn rhoi cyflwyniad llafar ar eu gweledigaeth a'u gwerthoedd.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Penodi Arweinydd y Cyngor Ethol Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn unol ag Erthygl 7, ac yn benodol y rheolau gweithdrefn sydd wedi eu cynnwys dan Baragraffau 2.7.3 o Gyfansoddiad y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Gary Pritchard yn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn unol ag Erthygl 7 ac yn benodol y rheolau gweithdrefn ym Mharagraff 2.7.3 o Gyfansoddiad y Cyngor. |
|
Dirprwy Arweinydd / Arweinyddion y Cyngor Yr Arweinydd i hysbysu’r Cyngor o enw’r Dirprwy Arweinydd / Arweinyddion (bydd y Dirprwy Arweinydd / Arweinyddion yn Aelod / Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi penodi’r Cynghorydd Robin Williams i wasanaethu fel Dirprwy Arweinydd.
|
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yr Arweinydd i hysbysu’r Cyngor o enwau’r Cynghorwyr y mae wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhaodd yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio:-
Cynghorydd Gary Pritchard (Arweinydd) â chyfrifoldeb dros y portffolio Datblygu Economaidd;
Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) â chyfrifoldeb dros y portffolio Cyllid a Thai ;
Cynghorydd Neville Evans â chyfrifoldeb dros y portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;
Cynghorydd Carwyn Jones â chyfrifoldeb dros y portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;
Cynghorydd Dyfed Wyn Jones â chyfrifoldeb dros y portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Pobl Ifanc a Theuluoedd;
Cynghorydd Alun Roberts â chyfrifoldeb dros y portffolio Gwasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;
Cynghorydd Dafydd Roberts â chyfrifoldeb dros y portffolio Addysg a’r Gymraeg;
Cynghorydd Nicola Roberts â chyfrifoldeb dros y portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;
Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas â chyfrifoldeb dros y portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o gyfarfodydd canlynol y Cyngor Sir:-
• 21 Mai 2024 (Cyfarfod Cyffredinol) (10:30am) • 21 May 2024 (Cyfarfod Blynyddol) (2:00pm)
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o Gyngor Sir Ynys Môn yn gywir:-
· 21 Mai, 2024 (Cyfarfod Cyffredinol) a.m. · 21 Mai, 2024 (Cyfarfod Blynyddol) p.m.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.
|
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 PDF 525 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i fabwysiadu’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/2024.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 PDF 9 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i DDERBYN Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithlonrwydd y Gwasanaethau Chymdeithasol 2023/2024.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023/24 - Adroddiad y Cadeirydd PDF 412 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Mehefin 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2023/24.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2023/24 PDF 4 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau; · Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2024/25, gan dderbyn y gallai materion ychwanegol gael eu cynnwys, yn unol âr galw.
|
|
Newid y Cyfansoddiad - Cynllun Dirprwyo i Swyddogion PDF 179 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Gorffennaf 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu Aelod Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; · Caniatáu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad. · Rhoi caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei anfon at yr Arolygaeth Cynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad yma’n angenrheidiol gan nad yw amserlen yr archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).
|
|
Newid y Cyfansoddiad – Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau PDF 136 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Dynnu’r canlynol o’r Cyfansoddiad:
· Polisi Pryderon a Chwynion · Rheolau Gweithdrefn Contractau a · Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn.
· Bod y Polisi Pryderon a Chwynion, a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau (ynghyd â’r holl ddogfennau ategol perthnasol) ar gael yn rhwydd ar wefan y Cyngor.
· Ni fydd y Cyngor llawn bellach yn gyfrifol am gymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau, a byddant yn cael eu cymeradwyo gan:
· y Pwyllgor Gwaith; neu · y Swyddog Monitro*, o dan bwerau dirprwyedig, os nad yw’r newidiadau’n darparu dewis lleol, neu’n fân newidiadau.
*Bydd unrhyw newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contractau bob amser yn cael eu trafod â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
|
|
Cytundeb Cyflawni Drafft - Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar 18 Gorffennaf 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd, yn ogystal ag ymateb yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’r sylwadau hynny (Atodiad A); · Cymeradwyo’r drafft terfynol o’r Cytundeb Cyflawni (Atodiad B) a chefnogi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.
|