Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Medi, 2024 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 385 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 148 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Awst 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 15 Awst 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar eu diwygio i nodi ymddiheuriad y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl

FPL/2024/64

 

7.2 FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.

FPL/2024/40

 

7.3 FPL/2023/15 – Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd

FPL/2023/15

 

7.4 FPL/2024/66 - Bryncelli Ddu, Llanddaniel

FPL/2024/66

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1 FPL/2024/64 – FPL/2024/64 - Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw'r fynedfa, lôn a llefydd parcio newydd i gerbydau yn Nhyddyn Dylifws, Tyn y Gongl

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

7.2 FPL/2024/40 - Cais llawn i ddefnyddio’r iard bresennol i leoli cynwysyddion storio yng Nghlwb Golff Ynys Môn, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd ac i awdurdodi’r Swyddogion i osod amodau cynllunio priodol ynghlwm â’r caniatâd yn cynnwys gwaith tirweddu i liniaru unrhyw effaith weledol.

 

7.3 FPL/2023/15 – Cais llawn i godi 15 annedd fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr a chreu ffordd fewnol, ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Haulfryn, Scotland Terrace, Bodffordd

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn uno ag argymhelliad y swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ac ar lofnodi cytundeb Adran 106 i sicrhau bod darpariaeth tai fforddiadwy ynghyd â chyfraniad ariannol i’r ysgol ac ar gyfer mannau agored. Awdurdodi’r Swyddogion i addasu a/neu ychwanegu at yr amodau fel bo’n briodol.

 

7.4 FPL/2024/66 – Cais llawn i godi sied amaethyddol ym Mryncelli Ddu, Llanddaniel

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 FPL/2023/173 – Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy

FPL/2023/173

 

12.2 VAR/2024/40 – Peboc, Llangefni

VAR/2024/40

 

12.3 FPL/2022/289 - Ynys Y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy

FPL/2022/289

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 FPL/2023/173 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd â'i addasu a’i ehangu yn Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 CAR/2024/40 - Cais o dan Adran 73 er mwyn newid amodau (01) (manylion materion a gadwyd yn ôl), (02) (caniatâd materion a gadwyd yn ôl), (05) (rhaglen lliniaru archeolegol), (06) (cynllun draenio), (07) (cynllun halogi), (08) (cynllun monitro a chynnal a chadw), (11) (cynllun tirlunio), a (17) (manylion materion a gadwyd yn ôl) o ganiatâd cynllunio VAR/2022/36 (codi 7 uned fusnes) er mwyn diwygio geiriad yr amodau, â chyflwyno strategaeth newydd yn raddol yn hen safle Peboc, Llangefni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog  yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ac i dderbyn gwybodaeth ecolegol yn unol â sylwadau’r swyddog ecolegol. Dirprwyo’r awdurdod i Swyddogion i ddod i benderfyniad ar y cais unwaith y bydd yr wybodaeth ecolegol wedi dod i law ac i ddefnyddio pwerau dirprwyedig  i osod unrhyw amodau cyn dechrau datblygu’r safle.

 

12.3 FPL/2022/289- Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd a garej newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Ynys y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol.

 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 772 KB

13.1 D56/2024/2 – Queens Park Court, Queens Park, Caergybi

D56/2024/2

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1  D56/2024/2 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer gosod 3 polyn tripod hunangynhaliol yn cefnogi erial yr un, 2 ddysgl trosglwyddo, hambwrdd cebl lliw, cabinet mesurydd trydan a datblygiad ategol yn Queens Park Court, Queens Park, Caergybi

 

Nodwyd yr wybodaeth.