Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â cheisiadau 6.1 a 12.1 ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y ceisiadau hyn.
Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Taylor ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â cheisiadau 12.2 a 12.3 ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y ceisiadau hyn. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyhaliwyd ar 4 Medi, 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Medi 2024 yn gywir. |
|
Cyflwyno, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024 yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Roedd siaradwyr cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 7.1 a 7.2. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 676 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 6.1 FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
7.1 – FPL/2023/173 – Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
7.2 – FPL/2022/289 - Ynys Y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 7.1 FPL/2023/173 – Cais llawn gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
7.2 FPL/2022/289 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd presennol ynghyd â chodi annedd a garej newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Ynys y Big, Ffordd Biwmares, Glyngarth, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gyghorwyr neu Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
12.1 – FPL/2024/105 - Tir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwel y Llan, Llandegfan
12.2 – FPL/2024/7 - 107-113, 116-122, 133-152 Stad Tan y Bryn, Y Fali
12.3 – FPL/2024/78 - Fflatiau Bron Heulog, Y Fali
12.4 – FPL/2024/29 – Tir yn Porth Amlwch
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 FPL/2024/105 – Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 FPL/2024/7 – Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â tirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn 107-113, 116-122, 133-152 Ystâd Tan y Bryn, Y Fali
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2024/78 – Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â tirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Bron Heulog, Y Fali
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2024/29 – Cais llawn ar gyfer creu parc cyhoeddus yn cynnwys gwaith tirlunio caled a meddal, lle chwarae, codi strwythurau, rheoleiddio llwybrau troed presennol, creu llwybrau troed newydd a llwybrau pren ynghyd ag adeiladu lle parcio anabl ar dir ym Mhorth Amlwch
PENDERFYNWYD dirprwyo pwerau i’r Swyddogion i’w galluogi i ddelio ag unrhyw geisiadau i ryddhau amodau cyn dechrau ac yn amodol ar dderbyn ac ystyried yr Arolwg Ymlusgiaid sy’n weddill cyn belled nad yw’n peri’r angen am ddiwygiadau sylweddol neu faterol i’r cais. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |