Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 8fed Ionawr, 2025 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Neville Evans, Robin Williams a Liz Wood.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 161 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 FPL/2024/230 – Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

 

FPL/2024/230

 

7.2 FPL/2024/65 – Bryn Cwr, Gwalchmai

 

FPL/2024/65

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

FPL/2024/230 –Cais llawn ar gyfer newid defnydd llawr gwaelod presennol yr annedd i fod yn rhan o’r siop bresennol (Defnydd A1) ym Mona House, Ffordd Caergybi, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol a oedd yn poeni y byddai’r cynnig yn dwysau’r problemau parcio a thraffig yn yr ardal leol. Yn ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2024, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a chynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Rhagfyr 2024.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud ag ymestyn y cyfleuster manwerthu presennol i’r annedd breswyl drws nesaf a chreu fflat un ystafell wely uwch ben a darparu grisiau yn y cefn er mwyn cael mynediad i’r fflat. Bydd y cynllun yn cynyddu maint yr uned bresennol yn unig a ni fydd unrhyw unedau newydd yn cael eu creu. O’r herwydd mae’r cynllun yn dderbyniol o ran egwyddor a bydd rhaid ei ystyried yn erbyn ystyriaethau perthnasol eraill. Mae’r prif bryderon yn ymwneud â’r briffordd a dyma pam bod y cais wedi cael ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol. Gan fod y cais yn bwriadu cynyddu arwynebedd llawr y siop 37m2 mae safonau parcio’r Awdurdod Priffyrdd yn nodi bod rhaid darparu 3 lle parcio.  Fel rhan o’r cynllun bydd 3 lle parcio’n cael ei greu yng nghefn y safle a bydd y fynedfa bresennol oddi ar yr A5 yn cael ei defnyddio. Mae’r 3 lle parcio ychwanegol ynghyd â’r fynedfa, sy’n darparu llain welededd ddigonol o 2.4m x 45m, yn dderbyniol ym marn yr Awdurdod Priffyrdd. Mae pryderon yr Aelod Lleol yn ymwneud â phroblemau traffig a pharcio yn y lleoliad hwn, fodd bynnag nid oes dyletswydd ar y broses cynllunio i ddatrys problemau parcio sy’n bodloni eisoes. O ran y cais dan sylw, mae’r holl ofynion parcio wedi cael eu bodloni ac felly nid oes sail dros ei wrthod am y rheswm hwn.  Fe wnaeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio amlygu na fydd cynyddu maint y siop o reidrwydd yn cynyddu’r defnydd na’n dwysau’r problemau traffig. Mae’r siop yn ased cymunedol a bydd y 3 lle parcio ychwanegol yn helpu i wella’r sefyllfa parcio ar y cyfan. Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais yn uniongyrchol ac nid yw’r adran wedi derbyn unrhyw lythyrau ganddo. Felly, mae’r Swyddog yn argymell cymeradwyo’r cais.

 

Darllenodd y Cadeirydd sylwadau a oedd wedi’u hafon ato ef a’r Rheolwr Datblygu Cynllunio yn gysylltiedig â chais y Cynghorydd Neville Evans, sy’n aelod o’r Pwyllgor ac Aelod Lleol, a oedd methu â bod yn bresennol. Roedd y sylwadau’n cyfeirio at lythyr yr oedd wedi’i dderbyn gan y Cyngor Cymuned ynglŷn â’r problemau parcio, yn benodol y risg o ddamwain pe byddai cerbyd yn bacio’n ôl i’r ffordd o’r lle parcio bach ar gyfer 3 cerbyd a welwyd ar yr ymweliad safle. Cadarnhaodd y Cynghorydd Evans nad oedd ganddo ef na’r Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i’r siop ond ei fod yn dymuno nodi a chofnodi’r sefyllfa annioddefol yn ardal Gwalchmai oherwydd y problemau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 359 KB

12.1 FPL/2024/209 - Canolfan Rheoli Gwastraff y Cartref Penhesgyn, Penmynydd.

 

FPL/2024/209

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 FPL/2024/209 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw’r gwaith adfer ar Afon Braint ac Afon Eryr Uchaf ar dir ger Canolfan Rheoli Gwastraff y Cartref, Penhesgyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer cadw gwaith adfer ar Afon Braint fydd yn arwain at drefniadau hydrolegol mwy naturiol ac amrywiol er mwyn gwella cynefin ar gyfer rhywogaethau dyfrol a gwella trefniadau rheoli llifogydd ac ansawdd dŵr. Prif amcanion y cynllun yw gwella gallu’r afon i ymdopi â dŵr llifogydd a gwella ei gwerth ecolegol. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at brif waith peirianyddol y cynllun a beth y mae’r gwaith yn ei olygu fel sydd wedi’i ddisgrifio yn adroddiad y Swyddog. Cadarnhaodd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol a oedd yn dderbyniol a bod Swyddog Ecolegol y Cyngor wedi asesu’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd sy’n cefnogi’r cais a’i fod yn fodlon â’r cynnig. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.