Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYS a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2024.
Materion sy’n codi o’r cofnodion: -
• Cynnwys Crynodeb y Cadeirydd yn Adran 1.1. o Adroddiad Blynyddol CYS. • Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn diweddaru’r templed hunan-werthuso a gyflwynwyd yn yr adroddiad, a • chyflwyno addasiadau i’r templed yng nghyfarfod nesaf y CYS. • Bod fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Môn ar gyfer 2023/24 yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru er gwybodaeth. • Yr Uwch Reolwr Cynradd i drefnu ymweliad ag ysgol uwchradd ar Ynys Môn yn fuan. • Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn cysylltu â Jenny Downs o’r Eglwys yng Nghymru i geisio cymeradwyaeth i’r CYS gynnwys adroddiadau Adran 50 yr Eglwys fel rhan o werthusiadau’r CYS mewn archwiliadau ysgolion. • Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn gwahodd y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb, Casineb a Throsedd i fynychu cyfarfod nesaf y CYS ym mis Chwefror i gyflwyno trosolwg ar waith yr Heddlu. |
|
a) Ffilm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg b) Prosiect Llais Yr Athro: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru –
I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS, Mr Phil Lord. |
|
Eitemau Cenedlaethol ar Grefydd Gwerthoedd a Moeseg - Beth sy'n newydd i restr chwarae Llywodraethwyr? I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS. |
|
CGM Gorfodol - Cyflwyniad i Athrawon Uwchradd I dderbyn cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS. |
|
CGM a'r Cwricwlwm i Gymru - Cyflwyniad i Athrawon Cynradd I dderbyn cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS. |
|
Cyflwyniad gan Heddlu Gogledd Cymru I dderbyn cyflwyniad gan Einir Williams, y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb, Heddlu Gogledd Cymru. |
|
Unrhyw faterion penodol i'r CYS Materion i gyfarfod nesaf y CYS art 10 Gorffennaf 2025 am 2:00 o’r gloch y prynhawn.
|