Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. |
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2026. Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2026 yn gywir.
|
|
|
Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Nad yw’r Cyngor yn mabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr o ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith. · Bydd y Cyngor yn monitro, adolygu ac yn ystyried tystiolaeth effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ddewisodd mabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol. · Bydd y Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, yn ysgrifennu llythyr ar Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethau bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar. Dylid rhannu llythyr o’r fath at Lywodraeth Cymru gyda’r holl aelodau etholedig.
|
|
|
Casglu Gwastraff ac Ail-gylchu Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD :-
· Parhau i gasglu gwastraff gweddilliol unwaith pob 3 wythnos ond drwy gasglu biniau du 180 litr newydd, yn hytrach na’r biniau 240litr presennol, o 2029. · Creu mwy o ofod ar gyfer ailgylchu erbyn 2029 drwy:
· gasglu cardfwrdd a phapur gyda’u gilydd yn y bocs top y trolibocs. · gynnig opsiynau storio ychwanegol ar gyfer ailgylchu cardfwrdd ac/ neu plastig caled a chaniau ychwanegol.
· Cyflwyno ymgyrch codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio. · Cynnal ymchwil i ymestyn y deunydd sy’n cael ei gasglu i’w ailgylchu i gynnwys plastig meddal a deunyddiau eraill. · Symud ymlaen i ddatblygu a cyflwyno achos busnes amlinellol am gyllid i Llywodraeth Cymru.
|
|
|
Masnachfreinio Bysiau - Llwybrau Bysiau Arfaethedig Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Nodi bod Trafnidiaeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar rhwydwaith bysiau arfaethedig ar gyfer Ynys Môn fel rhan o’u gwaith paratoi ar gyfer masnachfreinio. · Bod y Cyngor yn ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau, sef 9 Hydref, 2026, drwy gefnogi’r rhwydwaith bysiau arfaethedig y mae Trafnidiaeth Cymru wedi ddatblygu ond bod ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i’r llwybrau bysus yn y dyfodol.
|