Pori cyfarfodydd

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio

Mae'r dudalen hon yn rhestri'r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio

 

Rhaglen Waith Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio




2.6 Erthygl 6 – Sgriwtineiddio Penderfyniadau

 

2.6.1 Cyfansoddiad

 

Y nifer ar bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg a elwir yn Bwyllgor Sgriwtini fydd y nifer honno a nodir isod yn 2.6.2.1.  Penodir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini gan y Pwyllgor hwnnw, a byddant yn cael eu penodi yng nghyfarfod cyntaf pob Pwyllgor ym mhob blwyddyn ddinesig ac, yn amodol ar yr isod, bydd y penodiad hwnnw neu unrhyw benodiad pellach yn parhau am weddill y flwyddyn ddinesig honno. Wrth ddyrannu Cadeiriau Pwyllgorau Sgriwtini, rhaid dilyn y tabl ‘Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini’ isod.  Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn aelod o’r wrthblaid fwyaf. Bydd enwebiadau i unrhyw swydd ac i bob swydd a ddelir gan y gwrthbleidiau’n cael eu gwneud gan y grwpiau unigol hynny a byddant yn cael eu cydnabod gan yr holl aelodau ac ni fyddant yn cael eu dylanwadu gan grwpiau eraill neu aelodau eraill. 

 

Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini:

 

2.6.1.1 yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor (neu’n aelod cyfetholedig efallai) am unrhyw reswm neu’n cael ei atal/hatal rhag bod yn aelod, neu

 

2.6.1.2 yn aelod o grŵp gwleidyddol penodol pan gaiff ei benodi yn Gadeirydd neu’n Is-Gadeirydd a bod y person hwnnw wedyn yn peidio â bod yn aelod o’r grŵp gwleidyddol hwnnw, am unrhyw reswm, yna daw swydd y person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith,

bydd dyraniad y Cadeiriau Sgriwtini yn cael ei ail-glandro yn unol â’r gofynion statudol a’r tabl sydd isod a bydd pob Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn ei gyfarfod nesaf yn penodi Cadeirydd neu Is-Gadeirydd newydd.

 

Bydd y rheolau mewn perthynas â chydbwysedd gwleidyddol yn parhau i fod yn berthnasol ond ni fydd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn gymwys i fod yn aelodau o Bwyllgor Sgriwtini.

 

Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini

 

D.S.

 

(1)  Mae’r tablau yn dangos cyfanswm nifer y cadeiriau gan yr holl grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith, a holl grwpiau’r gwrthbleidiau.  Nid yw’n dangos nifer y cadeiriau sydd gan bob grŵp unigol - oni bai nad oedd ond un grŵp yn y naill gategori.  Rhaid dyrannu cadeiriau rhwng y grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith a rhwng grwpiau’r gwrthbleidiau yn gymesur â’u cryfder.

(2)  Mae hwn yn cynnwys y mwyafrif o’r amgylchiadau y gellir eu rhagweld.  Byddai rheolau dyrannu gwahanol yn berthnasol :

-  pe na bai grwpiau gwleidyddol o fewn y Cyngor, neu dim ond un

-  pe bai dim ond dau grŵp, ac ond un pwyllgor; neu

-  pe bai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu rheolau eraill na fyddent yn llai ffafriol i grwpiau’r gwrthbleidiau.

(2)  Y fformiwla a ddefnyddir ar gyfer grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith yw :

Nifer y Aelodau  mewn grwp(iau) yn y Pwyllgor Gwaith ÷ (cyfanswm nifer y Aelodau ÷ nifer y pwyllgorau), gan rowndio’r canlyniad i lawr.

Ar gyfer grwpiau’r gwrthbleidiau, y fformiwla wedyn yn syml fydd :

Nifer y pwyllgorau – nifer y cadeiriau gan grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith.

 

2.6.2 Ansicrwydd Dyletswyddau

 

Pan fo unrhyw fater yn syrthio y tu mewn i gylch gorchwyl rhagor nag un Pwyllgor Sgriwtini yna bydd y Prif Weithredwr, neu Swyddog a benodir i weithredu ar ei ran / rhan, yn penderfynu pa Bwyllgor fydd yn delio gyda’r mater(ion) a bydd yn cynnwys pŵer y ddau Bwyllgor Sgriwtini i alw penderfyniadau i mewn.

 

2.6.2.1  Enwau, Maint a Chylch Gorchwyl y Pwyllgorau Sgriwtini

 

Bydd dau Bwyllgor Sgriwtini

 

• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

Penodir 10 Aelod o’r Cyngor Sir ar bob Pwyllgor Sgriwtini.

 

Gwahoddir Rhiant Lywodraethwyr a chynrychiolwyr yr Eglwys a benodwyd yn unol â Pharagraff 8 - 11 Atodlen 1 Deddf Llywodraeth Leol 2000 i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Sgriwtini lle bydd swyddogaethau addysg yr Awdurdod yn cael trafod a bydd ganddynt hawl i siarad a phleidleisio ar y materion hynny’n unig.

 

Yn ychwanegol, fe all y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio  gyfethol unrhyw berson ac eithrio Aelod o’r Pwyllgor Gwaith, yng nghyswllt ei swyddogaethau trosedd ac anhrefn, yn amodol ar ddarpariaethau’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a Sgriwtini) 2009 a’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a Sgriwtini) (Diwygiad) 2010.

 

Gall y ddau Bwyllgor Sgriwtini argymell bod y Cyngor yn penodi aelodau cyfetholedig ychwanegol heb hawliau pleidleisio i bob Pwyllgor Sgriwtini.

2.6.2.2  Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

 

• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar roi sicrwydd ynglŷn â pherfformiad /  darpariad yr holl wasanaethau,  sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei amcanion corfforaethol a’i amcanion gwasanaeth (fel yr amlinellwyd yn ei Gynllun Busnes Corfforaethol , Cyllideb Flynyddol, Fframwaith Cyllideb a Pholisi, Fframwaith Rheoli Perfformiad, Polisïau Corfforaethol  neu gynlluniau a pholisïau sy’n eu holynu) ac i gefnogi a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaol.

 

• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith i  ailystyried y penderfyniadau hynny.

 

• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer hwn yn ymestyn i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.

 

• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.

 

2.6.2.3  Cylch Gorchwyl Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio

 

• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar sicrhau bod buddiannau dinasyddion Ynys Môn yn cael eu hyrwyddo a bod blaenoriaethau ac adnoddau’r Cyngor yn cael eu hadlewyrchu yn llesol yn y partneriaethau, y cydweithio, y gweithio ar y cyd â threfniadau asiantaeth allanol, fel fydd yn bodoli o bryd i’w gilydd.  Bydd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn ymestyn i drefniadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a bydd yn cynnwys (ond heb fod wedi ei gyfyngu i) y meysydd lle mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol mewn materion trosedd ac anhrefn.

 

• Materion yn ymwneud ag adfywio a’r cysyniad “Ynys Fenter” (neu gynlluniau a pholisïau fydd yn eu holynu).

 

• Derbyn gwybodaeth a chyflwyniadau gan asiantau sector cyhoeddus allanol (e.e. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Iechyd Cymuned Leol Betsi Cadwaladr) a sgriwtineiddio eu gwaith ar yr Ynys.

 

• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid ailystyried y penderfyniadau hynny.

 

• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer hwn yn ymestyn i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.

 

• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.

 

• Cyflawni swyddogaeth y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn yn unol ag Adran 19 (1) Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 a Rheoliadau Llywodraeth Cymru.  Bydd Cylch Gorchwyl penodol lle bo’r Pwyllgor hwn yn ystyried ymarfer pwerau yng nghyswllt trosedd ac anhrefn yn cynnwys :

 

- adolygu a / neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.

 

- gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor ac /neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.

 

-  ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor unrhyw fater trosedd ac anhrefn lleol a gyfeiriwyd i’r Pwyllgor gan aelod o’r Cyngor.

 

-  penderfynu a ddylid gwneud adroddiad neu argymhelliad i’r Cyngor ac / neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol, gan roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan yr aelod hwnnw ynglŷn â phaham y dylai’r Pwyllgor wneud hynny.

 

-  hysbysu’r aelod penodol o’i benderfyniad a’r rhesymau am ei benderfyniad mewn unrhyw achos lle bo’r Pwyllgor yn penderfynu peidio â gwneud adroddiad neu argymhellion yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol.

 

-  darparu copi o unrhyw adroddiad neu argymhellion Pwyllgor i’r aelod penodol (yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol) ac i unrhyw bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol, fel y bo’n credu sy’n briodol.

 

-  adolygu ymatebion i adroddiadau ac argymhellion Pwyllgor a monitro’r camau a gymerwyd gan bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau trosedd ac anhrefn yr awdurdodau cyfrifol.

 

2.6.3 Swyddogaeth gyffredinol

 

O fewn eu cylch gorchwyl, bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn:

 

2.6.3.1 adolygu a/neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw rai o swyddogaethau’r Cyngor;

 

2.6.3.2 cyflwyno adroddiadau a/neu argymhellion i’r Cyngor llawn a / neu y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgor ar y Cyd neu Bwyllgor Ardal mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaethau;

 

2.6.3.3 ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar yr ardal neu ei thrigolion;

 

2.6.3.4 ymarfer yr hawl i alw i mewn, ar gyfer ailystyried penderfyniadau a wnaed (o fewn ei gylch gorchwyl) ond nad ydynt eto wedi eu gweithredu gan y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgorau Ardal; a

2.6.3.5 cynnal arolygon dan Gynllun Cymru ar gyfer Gwella ar y swyddogaethau sydd y tu mewn i’w faes priodol a chyflwyno adroddiadau ar y materion trwy’r Pwyllgor Gwaith i’r Cyngor.

 

2.6.4 Swyddogaethau penodol

 

2.6.4.1 Datblygu ac Adolygu Polisi.

 

Gall Pwyllgorau Sgriwtini wneud y canlynol:

 

2.6.4.1.1 cynorthwyo’r Cyngor a’r Pwyllgor Gwaith i ddatblygu ei gyllideb a’i fframwaith polisi drwy ddadansoddiad manwl o faterion polisi;

 

2.6.4.1.2 gwneud ymchwil, ymgynghori â’r gymuned ac ymgynghori arall i ddadansoddi materion polisi a dewisiadau posibl;

 

2.6.4.1.3 ystyried a gweithredu mecanweithiau i annog a gwella cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o ddatblygu dewisiadau polisi;

 

2.6.4.1.4 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu barn ar faterion ac argymhellion sy’n effeithio ar yr ardal; a

 

2.6.4.1.5 cysylltu â chyrff allanol eraill sy’n gweithredu yn yr ardal, boed y rhai hynny yn rhai cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, i hyrwyddo lles y bobl leol drwy weithio ar y cyd.

 

2.6.4.2 Sgriwtini

 

Gall Pwyllgorau Sgriwtini:

 

2.6.4.2.1 adolygu a sgriwtineiddio ar y penderfyniadau a pherfformiad y Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a Swyddogion y Cyngor mewn perthynas â phenderfyniadau unigol a thros gyfnod o amser;

 

2.6.4.2.2 adolygu sgriwtineiddio perfformiad y Cyngor mewn perthynas â’i amcanion polisi, targedau perfformiad a/neu feysydd gwasanaeth arbennig;

 

2.6.4.2.3 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu penderfyniadau a’u perfformiad, p’run ai yn gyffredinol o’i gymharu â chynlluniau gwasanaeth a thargedau dros gyfnod o amser, neu mewn perthynas â phenderfyniadau, cynlluniau neu brosiectau neilltuol;

 

2.6.4.2.4 gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgor priodol a/neu’r Cyngor yn deillio o ganlyniadau’r broses sgriwtini;

 

2.6.4.2.5 adolygu sgriwtineiddio perfformiad cyrff cyhoeddus eraill yn yr ardal a gwahodd adroddiadau oddi wrthynt drwy ofyn iddynt annerch y Pwyllgor Sgriwtini a phobl leol i sôn am eu gweithgareddau a’u perfformiad; a

 

2.6.4.2.6 holi a chasglu tystiolaeth oddi wrth unrhyw berson arall (gyda’i ganiatâd).

 

2.6.4.3 Cyllid

 

Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol am y cyllid a glustnodwyd iddynt.

 

2.6.4.4 Adroddiad Blynyddol

 

Rhaid i Bwyllgorau Sgriwtini adrodd yn flynyddol i’r Cyngor llawn ynglŷn â sut y maent yn gweithio a gwneud argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith y dyfodol a newid dulliau o weithio os yw hynny’n briodol.

 

2.6.4.5 Swyddogion

 

Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol am raglen waith y Swyddogion a gyflogir i gynnal eu gwaith.

 

2.6.5 Trafodion Pwyllgorau Sgriwtini

 

Bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn cynnal eu trafodion yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini a nodir yn Rhan 4.5 y Cyfansoddiad hwn.

 

2.6.6 Cyswllt rhwng Pwyllgorau Sgriwtini

 

Gall Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini gyfarfod gyda’i gilydd fel Grŵp Llywio cyn amled ag y bo’n briodol gyda golwg ar gydlynu rhaglenni gwaith a dulliau gweithio er mwyn osgoi neu ostwng unrhyw ddyblygu neu orgyffwrdd yn eu gwaith.

 

2.6.7 Panelau

 

Gall y Pwyllgor Sgriwtini sefydlu Panelau o’i Aelodau â diddordeb neu â sgiliau arbenigol mewn meysydd penodol er mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor i gyflawni ei waith.