Eitem Rhaglen

Medrwn Môn

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol gan Brif Swyddog, Medrwn Môn.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Sian Purcell, Prif Swyddog Medrwn Môn i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol gan Brif Swyddog Medrwn Môn.

 

Adroddodd Prif Swyddog Medrwn Môn mai nod Medrwn Môn yw hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli, mudiadau gwirfoddol a chymunedol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn a blaenllaw i ddatblygu potensial yr ynys. Mae Medrwn Môn yn gwmni elusennol cofrestredig gydag aelodaeth o blith mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol. Mae’n rhan o rwydwaith o Gynghorau Gwirfoddol Sirol sy’n weithredol ledled Cymru. Daw’r cyllid tuag at eu gwaith craidd o Lywodraeth Cymru drwy’r WCVA. Nododd ymhellach bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan fwyfwy pwysig a dynamig yn eu cymunedau ac mae Medrwn Môn yn hyrwyddo, cefnogi a datblygu pob math o wirfoddoli, gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddol ar lefel leol, gan gydnabod bod eu cyfraniad unigryw yn rhoi manteision i'r rhai sy'n defnyddio / derbyn y gwasanaeth, cymunedau lleol a'r gwirfoddolwyr hwy eu hunain.

 

Nododd mai dyma’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 ac y cyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18 yn yr hydref ac y byddai’n fodlon mynychu’r Pwyllgor hwn bob blwyddyn er mwyn adrodd ar eu gwaith yn y cymunedau lleol. Cyfeiriodd at y ffaith bod Medrwn Môn yn rhedeg rhaglen Lleisiau Lleol sy'n cael ei hariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. Yn ogystal mae Lleisiau Lleol yn sicrhau ffyrdd effeithiol i alluogi unigolion a chymunedau i leisio barn a sicrhau fod eu llais yn cael ei glywed yn ystod cyfnodau cynllunio a dylunio gwasanaethau cyhoeddus, gan ofalu bod darparwyr gwasanaeth yn cael clywed beth yn union y mae ar y gymuned ei angen. Mae’r model 'Adeiladu Cymunedau' wedi'i fabwysiadu i hwyluso'r broses, drwy ddefnyddio'r dulliau ymgynghori gwahanol i greu darlun o holl asedau'r gymuned sy'n amrywio o wasanaethau lleol; adeiladau a llecynnau gwyrdd; pobl, gwybodaeth a sgiliau; i rwydweithiau lleol a gweithgareddau cymunedol.

 

Cyfeiriodd Prif Swyddog Medrwn Môn at Gynghrair Seiriol a dderbyniodd £10,000 o gyllid datganoledig gan Gyngor Sir Ynys Môn fel prosiect peilot a, gyda chyngor a chefnogaeth Medrwn Môn, fe rannwyd y cyllid rhwng 3 Cyngor Cymuned ar y sail eu bod yn ymgysylltu gyda'u cymunedau ar sut bydd yr arian yn cael ei wario. Nododd y datganolwyd cyllid o'r Gronfa Gofal Canolraddol i Medrwn Môn allu ymgysylltu gyda thrigolion yn Llanfairpwll yn ystod proses o nodi’r angen am Hyb Gymunedol yn yr ardal. Wrth ddefnyddio model 'Adeiladu Cymunedau' a ddatblygwyd drwy ein prosiect Lleisiau Lleol, fe wnaeth Medrwn Môn gynnal nifer o sesiynau mapio yn yr ardal yn ogystal â digwyddiadau agored a sesiynau grwp ffocws. Roedd y dystiolaeth yn dangos mai'r Neuadd Goffa yn Llanfairpwll fyddai'r lleoliad gorau ac mae prosiect Lleisiau Lleol wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor Cymuned a thrigolion eraill i nodi sut y gall y cyllid cyfalaf gael ei wario. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ar ddechrau'r Haf ac mae'r gweithgareddau a adnabuwyd yn ystod y broses ymgynghori yn awr ar gael drwy Hyb Cymunedol Llanfairpwll, ar ei newydd wedd, ers i'r Hyb gael ei lansio yn Nhachwedd 2016.

Mae Bryngwran a Llanfaelog yn 2 hyb ychwanegol sy’n derbyn cymorth Medrwn Môn erbyn hyn. Mae'r ddau hyb yma wedi gweithio gyda Lleisiau Lleol i greu ffordd o ddal gwybodaeth am asedau lleol a hefyd gwybodaeth am yr hyn yr oedd pobl leol yn teimlo yr oeddynt eu hangen yn yr hybiau. Nododd fod 7 hyb mewn cymunedau lleol ar yr ynys bellach wedi eu sefydlu ac yn derbyn cefnogaeth gan Medrwn Môn.

 

Cyfeiriodd ymhellach at y cynllun Linc Cymunedol Môn sy’n gweithredu fel Un Pwynt Mynediad ar gyfer pobl Ynys Môn i gael gwybodaeth am fudiadau trydydd sector. Mae Linc Cymunedol yn derbyn cyswllt uniongyrchol gan unigolion, ond hefyd yn derbyn cyfeiriadau gan y Cyngor Sir a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Dywedodd y bydd cynllun ‘Presgribsiynu Cymdeithasol’ yn cael ei sefydlu eleni gyda Medrwn Môn yn gallu derbyn atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu i amrywiaeth o wasanaethau lleol a ddarperir gan sefydliadau sector cymunedol. Mae’r cynllun hwn er mwyn cefnogi unigolion i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain. Bydd y cyllid ar gyfer y cynllun yn dod drwy gyfuniad o gyllid gan Fwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, clystyrau Meddygon Teulu a’r Gronfa Gofal Integredig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac fe godwyd y prif faterion canlynol:-  

 

·           Gofynnwyd am gadarnhad o ran y cyllid ychwanegol a dderbynnir gan Medrwn Môn i gyflogi staff er mwyn cyflawni prosiectau penodol. Ymatebodd y Prif Swyddog fod gan Medrwn Môn 9 aelod o staff parhaol a bydd 5 Cydlynydd Asedau Lleol yn cael eu cyflogi am gyfnod o 2 flynedd. Dywedodd hefyd fod cyllid wedi’i dderbyn drwy’r prosiect ‘Plant Mewn Angen’ er mwyn ariannu’r Cyngor Ieuenctid gyda gweithiwr ar secondiad yn cyflawni’r rôl fel Cydlynydd Prosiect am gyfnod o 3 blynedd;   

·           Gofynnwyd am gadarnhad ar y cyllid y mae Medrwn Môn yn ei dderbyn. Ymatebodd y Prif Swyddog bod Medrwn Môn yn 2018/19 yn derbyn £36,000 drwy’r Gronfa Gofal Integredig (ICF) tuag at waith Cyswllt Cymunedol Môn a £74,000 drwy’r Gronfa Gofal Integredig tuag at waith y Cydlynwyr Asedau lleol – mae’r ddau brosiect hwn yn rhan o brosiect ehangach ar Presgribsiynu Cymdeithasol mewn partneriaeth â’r Clystyrau meddygon Teulu a Betsi Cadwaladr. Derbyniodd Medrwn Môn £8,500 pellach tuag at gyllid craidd. Holodd y Pwyllgor ymhellach a yw’r Cyngor Sir yn derbyn Datganiad Cyfrifon Medrwn Môn. Dywedodd, gan fod Medrwn môn yn gwmni elusennol cofrestredig bod y cyfrifon yn cael eu cyflwyno i ‘Dŷ’r Cwmnïau’ a’u bod ar gael ar-lein i’r cyhoedd. Cytunodd y gellid cyflwyno copi o  Ddatganiad Cyfrifon Medrwn Môn i’r Pwyllgor Sgriwtini;  

·           Cyfeiriwyd at fodel ‘Cynghrair Seiriol’ a holwyd a fydd prosiectau tebyg yn cael eu hymestyn i ardaloedd eraill ar yr Ynys. Ymatebodd y Prif Swyddog y rhagwelir y bydd prosiectau megis yr un yn ardal Seiriol yn cael eu hymestyn i ardaloedd eraill a chyfeiriodd at y strategaeth ‘Cynllunio lle’ sy’n cael ei arwain gan yr Awdurdod lleol. Dywedodd hefyd fod ‘Cynghrair Seiriol’ wedi cymryd amser i ddatblygu ond bod gwersi wedi eu dysgu ac mai’r gobaith yw y byddai cynlluniau tebyg yn datblygu’n gynt; 

·           Gofynnwyd am gadarnhad a fydd hybiau cymunedol eraill ar gael mewn lleoliadau eraill ar yr Ynys gan fod gwasanaethau statudol yn dod yn fwy dibynnol ar gyrff gwirfoddol. Ymatebodd y Prif Swyddog bod potensial i ddatblygu hybiau pellach o fewn cymunedau lleol a cyfeiriodd at y cyfleusterau yn y Tŷ Coffi, Llanfaethlu, Siop Mechell, Llanfechell a chynllun ‘Tro Da’ ym Menllech a nododd bod yna hefyd hybiau swyddogol sydd wedi’u mabwysiadu o fewn trefniadau’r Cyngor Sir sy’n hyrwyddo cymunedau i ddod ynghyd er mwyn sicrhau gwell cyfleusterau o fewn eu hardaloedd;  

·           Gofynnwyd am gadarnhad o ran a oes diffyg gwirfoddolwyr mewn rhai cymunedau. Ymatebodd y Prif Swyddog ei bod yn ymddangos mai’r un bobl sy’n gwirfoddoli yn y gymuned leol. Ychwanegodd fod Medrwn Môn wedi bod yn targedu pobl y tu allan i ysgolion a chanolfannau hamdden er mwyn hyrwyddo gweithgareddau cymunedol/prosiectau o fewn eu hardaloedd ac er mwyn annog mwy o bobl i wirfoddoli yn eu cymunedau. Holodd Aelodau a oedd modd i Medrwn Môn gefnogi Cynghorau Cymuned i hyrwyddo gweithgareddau lleol. Ymatebodd y Prif Swyddog gan ddweud nad oes modd i Medrwn Môn weithio’n uniongyrchol â Chynghorau Cymuned oherwydd strwythur y llywodraeth sy’n atal gwasanaethau cyhoeddus rhag cael eu cefnogi gan gorff o’r fath. Fodd bynnag, dywedodd y gall Medrwn Môn roi arweiniad o ran ffynonellau cyllido. Nododd ymhellach fod cynrychiolydd o Medrwn Môn yn aelod o’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned;

·           Gwnaed sylwadau fod gwefan Medrwn Môn wedi dyddio a bod angen ei ddiweddaru. Ymatebodd y Prif Swyddog ei bod yn gwerthfawrogi’r sylwadau a nododd y bydd gwefan Medrwn Môn yn cael ei diweddaru dros y misoedd nesaf;     

·           Gofynnwyd am gadarnhad ar sut mae Medrwn Môn yn cymharu â chyrff gwirfoddol tebyg eraill o fewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ymatebodd y Prif Swyddog gan ddweud, o ganlyniad i’r gwaith partneriaeth da â’r Cyngor Sir, bod model Medrwn Môn yn unigryw ac yn uchel ei barch ymysg awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • Nodi’r adroddiad a gofyn i Medrwn Môn fynychu'r Pwyllgor yn flynyddol er mwyn adrodd ar eu gwaith ar yr Ynys fel y gellir craffu’r bartneriaeth gyda’r cyngor.
  • Bod y Datganiad Cyfrifon yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol gan Medrwn Môn.

 

Dogfennau ategol: