Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol Gogledd Cymru 2017/18.
Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) ei bod yn ofyniad dan Ran 9 Deddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn paratoi, yn cyhoeddi ac yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (roedd copi o’r adroddiad wedi’i atodi fel Atodiad 1).
Nododd mai diben Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yw gwella canlyniadau a llesiant pobl yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran darpariaeth gwasanaethau. Amcanion allweddol cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio yw:
· Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth
· Gwella canlyniadau ac iechyd a lles.
· Darparu gofal a chymorth cydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
· Gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau, sgiliau ac arbenigedd.
Mae’r Bwrdd yn parhau i gyfarfod yn fisol ar hyn o bryd ac ynghyd â chyfarfodydd busnes mae gweithdai a sesiynau datblygu wedi eu cynnal. Mae cynrychiolwyr o’r holl sefydliadau angenrheidiol a amlinellir yn y Ddeddf yn gwasanaethu ar y Bwrdd ynghyd ag aelodau cyfetholedig o’r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’r Bwrdd hefyd wedi cytuno i gynyddu nifer y cynrychiolwyr unigol a gofalwyr i ddau ac maent ar hyn o bryd yn gweithio drwy’r broses mynegiannau o ddiddordeb. Roedd aelodaeth y Pwyllgor wedi’i amlygu yn yr adroddiad.
Nododd y Prif Weithredwr Cynorthwyol hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r Adolygiad Seneddol o ofal ac iechyd cymdeithasol ac yn dilyn hynny fe gyhoeddwyd dogfen o’r enw ‘Cymru Iachach’. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnig grantiau sylweddol tuag at y Gwasanaeth Iechyd, Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Trydydd Sector er mwyn annog cydweithio rhwng y sectorau.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod meysydd blaenoriaeth wedi eu nodi o fewn yr adroddiad o ran Oedolion Hŷn ag anghenion cymhleth, Anableddau Dysgu, Anghenion Acíwt a Gwasanaethau Integredig ar gyfer Anghenion Teuluoedd a Gofalwyr.
Mae gan y Bwrdd Rhanbarthol drosolwg o’r Gronfa Gofal Integredig ac mae hefyd yn gyfrifol am symud tuag at drefniadau cyllidebau ar y cyd o fewn y gwasanaethau hyn.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y materion canlynol:-
· Cyfeiriwyd at lwyddiant y gwaith partneriaeth gydag Ysbyty Alltwen yn Nhremadog a holwyd os oedd enghraifft debyg o waith partneriaeth yn bodoli ar Ynys Môn. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion drwy ddweud fod y model Alltwen yn un priodol ar gyfer ardal arbennig. Mae gan y Cyngor hwn brosiectau cydweithio gyda’n partneriaid yn y gwasanaeth iechyd sy’n cynnwys allanoli gwasanaethau Gofal Cartref a datblygiad y cyfleuster Dementia yn Garreglwyd, Caergybi.
· Gofynnwyd am gadarnhad o ran sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cydweithio. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) mai rôl Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yw mynd i’r afael ag anghenion cymhleth pobl mewn perthynas â gofal a materion iechyd. Mae rôl y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ehangach o ran trosolwg ac yn canolbwyntio ar lesiant cymunedau lleol yn gyffredinol. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymchwilio i sut y gellir delio â gwasanaethau ar lefel leol ac mae nifer o is-grwpiau wedi eu sefydlu er mwyn trafod gwasanaethau’n cydweithio er lles pobl leol. Nododd bod Grŵp Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig Gorllewin Cymru wedi’i sefydlu rhwng Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn gwneud yn siŵr bod anghenion gwasanaeth pobl leol yn cael eu cyflawni yn effeithiol ar draws y ddwy sir.
· Cyfeiriodd Aelod at waith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae rhai pryderon wedi cael eu codi o fewn yr adroddiad. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) bod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Fwrdd eithaf newydd a bod gan y Bwrdd gylch gwaith eithaf penodol o fewn y ddeddfwriaeth i ddod ag iechyd a gofal yn agosach at ei gilydd. Mae ardal Gogledd Cymru wedi cydweithio’n dda yn hanesyddol, fel y mae is-ardal Môn a Gwynedd. Nododd ei bod yn her dod â’r holl sefydliadau at ei gilydd a nododd y gall fod yn anodd i’r trydydd sector a phobl sy’n gofalu am unigolion ddeall a chyfrannu at y trafodaethau sydd eu hangen dan y Ddeddf. Ystyriodd y Pwyllgor y byddai enghreifftiau o arfer dda o ddarpariaeth gofal iechyd o fantais i aelodau er mwyn ystyried effeithlonrwydd y Bwrdd yn y dyfodol.
· Cyfeiriwyd at y ffaith, tra’n derbyn bod yn rhaid i wasanaethau iechyd gydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, codwyd cwestiynau am y budd ymarferol a ddaw i drigolion yr Ynys o ganlyniad i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ac i wneud siŵr nad yw’n troi yn siop siarad arall. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y Bwrdd Rhanbarthol yn rhoi lefel o lywodraethiant ac yn ceisio sicrhau bod darpariaeth iechyd cyfartal ar gael i bobl Gogledd Cymru.
· Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at y problemau a allai godi o ganlyniad i Brexit ac mae angen i’r Bwrdd fod yn ymwybodol o hyn. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol gan ddweud fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar effeithiau Brexit ar recriwtio staff yn enwedig o fewn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
PENDERFYNWYD:-
GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: