Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn).
Cofnodion:
Cyflwynwyd – yr Adroddiad Blynyddol ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn
Adroddodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol bod gofyn i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i'r pwyllgor hwn bob blwyddyn. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau 19 a 20, Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006.
Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol, yn unol â Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998, a'r diwygiadau dilynol i weithio mewn partneriaeth gyda'r Heddlu, y gwasanaeth Iechyd, y gwasanaeth Prawf a'r gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i'r agenda diogelwch cymunedol yn lleol. Mae gan y Bartneriaeth ddyletswydd i ymdrin â –
· Trosedd ac Anhrefn
· Camddefnyddio Sylweddau
· Lleihau Aildroseddu
· Cyflwyno asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau (gwaith sydd bellach yn cael ei wneud yn rhanbarthol)
· Rhoi cynlluniau ar waith i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)
Nodwyd fod y bartneriaeth yn gweithio'n unol â chynllun blynyddol, sy'n seiliedig ar gynllun rhanbarthol tair blynedd. Roedd adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn 2017/18 a chynllun 2018/19 wedi eu hatodi gydag adroddiadau’r Pwyllgor hwn. Mae saith blaenoriaeth yn denu sylw'r Bartneriaeth. Dyma'r blaenoriaethau ar gyfer
2017/18 a 2018/19 –
· Lleihau troseddu sy’n seiliedig ar ddioddefwyr (troseddau meddiangar yn unig)
· Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
· Cefnogi Pobl fregus i’w hatal rhag bod yn ddioddefwyr trosedd
· Cynyddu hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig
· Cynyddu hyder i adrodd am gam-drin rhywiol
· Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal
· Lleihau Aildroseddu
Roedd y prif negeseuon a oedd yn codi o weithgareddau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2017/18 wedi eu cynnwys ar dudalen 3 a 4 o’r adroddiad.
Nododd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol y cynyddodd troseddu sy’n seiliedig ar ddioddefwyr ar Ynys Môn 24% yn 2017/18. Ar ôl dadansoddi hyn gwelir fod tystiolaeth mai gwelliant o ran effeithiolrwydd y modd yr adroddir am droseddau yn hytrach na chynnydd mewn troseddu sydd yma; mae'r newidiadau hyn wedi cael effaith arbennig ar nifer yr achosion o Drais a Throseddau Rhywiol a gofnodwyd. Profodd Ynys Môn ostyngiad o 10% mewn Troseddu Meddiangar, gan gynnwys byrgleriaeth preswyl. Mae'r Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gaiff ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru yn arbennig o dymhorol gyda nifer sylweddol uwch o ddigwyddiadau yn cael eu hadrodd yn ystod misoedd yr haf o'i gymharu â'r gaeaf. Mae Troseddau Casineb ar Ynys Môn wedi cynyddu'n sylweddol yn y misoedd diwethaf a throseddau a achosir gan hiliaeth yw'r math mwyaf cyffredin, er bod y niferoedd yn fychan iawn. Parhaodd lefelau Trais Rhywiol Risg Uchel a gofnodwyd i fod yn gymharol sefydlog, er bod cynnydd weithiau y gellir ei briodoli i adrodd hanesyddol.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y materion canlynol:-
· Gofynnwyd am gadarnhad o ran problemau yn ymwneud â chyffuriau ac a oes problemau gyda gangiau yn cario cyffuriau i’r Ynys. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol fod yr heddlu yn cydweithio’n agos â phartneriaethau o fewn y ‘Grŵp Troseddau Trefnedig’ yn Ynys Môn a Gwynedd er mwyn rhannu gwybodaeth a mynd i’r afael â throseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau. Nododd ymhellach y gall trais hefyd fod yn broblem o ran troseddau cysylltiedig â chyffuriau a bod y troseddau hyn ar gynnydd yn lleol ac yn genedlaethol.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod nifer y swyddogion heddlu wedi gostwng dros y blynyddoedd. Holwyd a yw’n broblem o ran diffyg swyddogion heddlu yn cerdded y strydoedd ac nad ydynt ar gael i siarad â phobl leol a chael gwybodaeth am faterion posibl yn ymwneud â throseddau. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol nad oedd modd dweud os oedd nifer y swyddogion heddlu sy’n patrolio’r strydoedd o reidrwydd wedi effeithio ar niferoedd y troseddau; nododd fod yr Heddlu wedi datblygu nifer o unedau arbenigol ynghyd â thimau lleol. Awgrymodd Aelodau y dylid anfon llythyr gan y Pwyllgor hwn ar y Swyddfa Gartref yn mynegi pryder am y gostyngiad yn niferoedd y swyddogion heddlu ac y dylid ystyried cynyddu cyllid yr heddlu er mwyn eu galluogi i recriwtio swyddogion heddlu ychwanegol;
· Holwyd am y cynnydd mewn troseddau casineb yn lleol. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol, o ganlyniad i’r cynnydd mewn troseddau casineb bod adolygiad wedi’i ymgymryd ag ef a ddangosodd bod materion yn ymwneud â dadleuon rhwng yr heddlu a ‘galw enwau’ a gododd o’r dadleuon hynny. Nododd nad oedd unrhyw batrwm penodol wedi codi gyda materion troseddau casineb ym Môn a Gwynedd ac yn gyffredinol bod niferoedd yn isel.
· Cyfeiriwyd at gwynion diweddar am oedi/dim ymateb wrth geisio ffonio’r rhif di-frys 101. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol bod yr Heddlu yn ailstrwythuro gweithdrefnau’r rhif di-frys gan fod pryderon wedi eu codi am yr amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau. Nododd ymhellach fod modd ffonio Crimestoppers er mwyn eu hysbysu am faterion trosedd cymunedol; rhaid i’r Heddlu ymateb i ymholiadau o’r fath drwy Crimestoppers.
· Gofynnwyd am gadarnhad a oedd troseddau seiber yn fater i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Ymatebodd y Rheolwr Darparu Diogelwch Cymunedol bod angen ymchwilio yn arbenigol i droseddau seiber a bod yr Heddlu wedi buddsoddi yn hynny. Nododd fod gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gyllideb gyfyngedig a bod yn rhaid blaenoriaethu;
· Cyfeiriwyd at bwysigrwydd addysg plant o fewn ysgolion lleol mewn perthynas â materion trosedd a chyffuriau a'r canlyniadau a oedd yn codi o faterion o’r fath. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol fod Swyddogion Cyswllt Ysgolion yn mynychu ysgolion lleol ond mae’n debyg y bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben yn y dyfodol agos. Nododd fod Llywodraeth Cymru yn sefydlu ‘Cwricwlwm Ysgolion’ a fydd yn cynnwys materion yn ymwneud â throsedd yn cael eu haddysgu drwy’r holl bynciau yn yr ysgol.
PENDERFYNWYD:-
GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: