Derbyn cyflwyniad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mr Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd a Môn) - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r cyfarfod.
Rhoddodd Mr Gwyn Jones gyflwyniad i'r Pwyllgor ar swyddogaethau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â diogelwch tân, ymladd tân, mynychu damweiniau ac argyfyngau ar y ffyrdd (achub / llifogydd dŵr) yn unol â Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Dywedodd fod yr ystadegau ddeng mlynedd yn ôl yn dangos bod gan Ogledd Cymru y gyfran uchaf fesul poblogaeth o farwolaethau o danau damweiniol mewn anheddau yng Nghymru a Lloegr ac ystyriwyd bod hynny yn annerbyniol. Sefydlwyd Grŵp Tasg y Prif Swyddog Tân i archwilio strategaeth a pholisïau'r Gwasanaeth ar gyfer atal marwolaethau damweiniol oherwydd tanau mewn cartrefi ynghyd ag adolygu proses ar gyfer rheoli perfformiad a phroffilio dioddefwyr a digwyddiadau. Nododd fod un person hyd yn hyn wedi marw eleni oherwydd tân damweiniol yn y cartref. Dywedodd Mr Jones fod ffactorau penodol yn cyfrannu at farwolaethau damweiniol oherwydd tanau; megis pobl yn byw ar eu pennau eu hunain, oed (roedd dros hanner yn 60+); bod ag anabledd, rhentio llety, rhyngweithio tân (ysmygu, coginio bwyd a’i adael yn ddi-oruchwyliaeth); alcohol a chyffuriau a bod heb larwm mwg sy'n gweithio. Dywedodd bod proffil y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael ei adolygu drwy weithio ar y cyd â gwasanaethau mewn awdurdodau lleol, yr heddlu ac asiantaethau lleol eraill i rannu gwybodaeth a nodi pobl fregus er mwyn osgoi’r tanau damweiniol posibl.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) am ei gyflwyniad. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd ac fe wnaed y pwyntiau canlynol: -
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a yw'r Gwasanaeth Tân yn parhau i osod larymau tân yn rhad ac am ddim mewn anheddau preswyl. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd a Môn) bod Llywodraeth Cymru yn derbyn grant sy'n galluogi'r Gwasanaeth Tân i brynu'r offer ond y Gwasanaeth Tân sy'n talu am osod y larymau tân mewn anheddau. Dywedodd ymhellach fod Swyddogion Tân yn gallu rhoi cyngor i drigolion pan maent yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i drafod diogelwch tân ac atal tanau. Nododd y gall y Gwasanaeth Tân, drwy weithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill, dargedu'r bobl fwyaf bregus yn y cymunedau lleol i atal tanau posib yn y cartref;
· Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a yw'r Gwasanaeth Tân yn parhau i fynychu digwyddiadau lleol a Sioeau Amaethyddol i hyrwyddo'r gwasanaeth a gynigir i breswylwyr o ran atal tân. Ymatebodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) fod y Gwasanaeth Tân yn mynychu digwyddiadau o'r fath ond yn ymdrechu i rannu cyfleusterau gyda gwasanaethau brys eraill fel y gellir gwneud arbedion ariannol;
· Mynegwyd pryderon fod priffyrdd lleol wedi cael eu cau oherwydd llifogydd / damweiniau / cau pontydd yn ddiweddar ac effaith hynny o ran tagfeydd traffig a’r oedi y gall achosi i’r gwasanaethau brys. Dywedodd aelodau'r Pwyllgor nad yw cymunedau lleol yn cael gwybod am ffyrdd sydd ar gau ac o’r farn y dylid hysbysu Cynghorau Tref / Cymunedau am unrhyw achosion o gau ffyrdd / digwyddiadau yn lleol. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) bod yr Awdurdod Priffyrdd ynghyd ag UK Highways yn delio â gweithdrefnau o'r fath mewn perthynas â materion cau ffyrdd. Nododd y byddai'n trafod y mater a godwyd gydag Adran Briffyrdd yr Awdurdod hwn;
· Cyfeiriwyd at faterion yn ymwneud â thanau eithin, gyda'r mwyafrif o’r rhain yn cael eu cynnal fwriadol ac yn defnyddio adnoddau gwerthfawr y gwasanaethau brys. Ymatebodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd a Môn) fod gan y Gwasanaeth Tân Dîm Lleihau Llosgi Bwriadol sy'n gweithio'n agos ag Awdurdod yr Heddlu ac mai prif nod y tîm hwnnw yw helpu i ddelio gyda’r broblem o gynnau tanau yn fwriadol er mwyn sicrhau nad oes risg i bobl, cymunedau, busnesau, yr amgylchedd a threftadaeth yr ardal. Mae atal tanau bwriadol trwy gydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a chymunedau i ymyrryd yn gynnar pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dechrau yn hollbwysig. Nododd fod gan yr Awdurdod Tân ac Achub gerbyd addysgol i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â llosgi bwriadol ac atal tanau;
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oes problemau recriwtio yn y Gwasanaeth Tân ac Achub. Ymatebodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd a Môn) mai'r her wrth recriwtio pobl fel diffoddwyr tân rhan-amser yw bod angen i berson fod o fewn pum munud i'r orsaf ac yn addas i ymgymryd â’r hyn sy’n ofynnol o ddiffoddwyr tân.
· Holwyd a oedd cydweithio rhwng y Gwasanaeth Tân a Gwasanaeth Ymladdwyr Tân Llu Awyr Brenhinol Y Fali. Ymatebodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) fod y Gwasanaeth Tân yn defnyddio'r cyfleusterau yn LlAB Y Fali ar gyfer profion LGV a bod swyddogion ymladd tân LlAB Y Fali hefyd yn derbyn hyfforddiant ymladd tân; mae rhai o swyddogion ymladd tân LlAB Y Fali hefyd yn ddiffoddwyr tân rhan-amser gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffith (a wahoddwyd i’r cyfarfod mewn perthynas ag Eitem 3 fel cynrychiolydd y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru) y gwnaed awgrymiad yn ystod y cyfnod ymgynghori diwethaf ar gyllideb y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y dylid gwneud i ffwrdd ag un o'r ddwy injan dân yn Wrecsam ond oherwydd barn gyhoeddus gref yn ardal Wrecsam, wnaeth hynny ddim digwydd. Dywedodd fod y cynnydd cynyddol yn y praesept ar awdurdodau lleol yn peri pryder a bod trigolion yn gorfod wynebu cynnydd yn eu biliau Treth Gyngor.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd a Môn) am fynychu'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD gofyn i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru fynychu'r cyfarfod bob blwyddyn.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.