Eitem Rhaglen

Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol - Cynghorau Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhanbarthol y Gwasanaeth Cynllunio ac Argyfwng Rhanbarthol.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Neil Culff, Rheolwr Rhanbarthol, Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru a Mr Gwyn Hughes, Swyddog Cynllunio Argyfwng i'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mai pwrpas yr adroddiad yw darparu diweddariad ynglŷn â blaenoriaethau rhanbarthol a Rhaglen Waith y Cyngor.

 

Rhoes Mr Neil Culff, y Rheolwr Rhanbarthol, gyflwyniad ar Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS) i'r Pwyllgor yn nodi gofynion deddfwriaethol, strwythur y gwasanaethau rhanbarthol a'r trefniadau llywodraethu.   Dywedodd fod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau ar gyfer cynllunio argyfwng ac ymateb brys dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd ar gyfer Argyfwng a Gwybodaeth Gyhoeddus) 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Mae'r Cyngor yn cwrdd â'i rwymedigaethau trwy gydweithio ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru trwy Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru, y mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol amdano.   Nododd fod NWC-REPS yn adrodd i Fwrdd Gweithredol, ac arno Swyddog sy'n cynrychioli pob un o awdurdodau lleol Gogledd Cymru sy'n bartneriaid yn y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth hwn wedi bod yn ei le ers 2014 ac mae NWC-REPS yn darparu cyswllt sylfaenol rhwng y Cyngor a Fforwm Gwydnwch Lleol Gogledd Cymru ac mae cyfraniadau staff y gwasanaeth yn hollbwysig mewn grwpiau, digwyddiadau, prosesau a chynlluniau aml-asiantaethol.  O fewn y Cyngor, rhennir cyfrifoldebau am gynllunio ac ymateb i argyfwng ar draws y gwasanaethau a chynrychiolwyr gwasanaeth enwebedig. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rhanbarthol ar ffrydiau gwaith yr ymgymerir â nhw gan y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng: -

 

·      Ffliw Pandemig - gwneir gwaith ar draws y rhanbarth gyda’r Gwasanaeth Iechyd ac Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol o ran y trefniadau mewn perthynas â pharatoi ar gyfer ffliw pandemig sydd wedi'i gategoreiddio fel 'uchel iawn' ar y Cofrestrau Risg Cenedlaethol a Chymunedol;

·      Adroddiad Kerslake - cynhyrchwyd yr adroddiad yn dilyn adolygiad o Arena Manceinion y ym mis Mai 2017 ac mae'r NWC-REPS wedi llunio Dadansoddiad Bwlch ar yr argymhellion sydd â goblygiadau i bob un Cyngor. Bydd rhaglen Dysgu a Datblygu NWC-REPS yn cynnwys hyfforddiant i aelodau etholedig ar ddelio â digwyddiadau mawr;

·      Strategaeth Gwydnwch Cymunedol - gweithredu Strategaeth Gwydnwch Cymunedol ar gyfer 2017-2020 ar gyfer delio ag argyfyngau lleol a sicrhau fod cymunedau’n fwy gwydn. Bydd y manylion yn cael eu hadrodd i'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned maes o law;

·      Rhannu data - gweithio'n agos gyda gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol i adnabod pobl sy'n agored i niwed os ceir digwyddiadau megis llifogydd pan fydd angen gwacáu ardaloedd;

·      Dysgu a Datblygu - mae Swyddog dynodedig yn arwain ar hyfforddiant ac ymarfer o fewn y Tîm Gwasanaeth Brys. Mae’n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi unigolion sydd â rôl mewn perthynas ag ymateb mewn argyfwng a sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant effeithiol i ddelio gydag argyfyngau a nodi anghenion hyfforddiant.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bu'n bosib cynyddu gwydnwch a chefnogaeth arbenigol i awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru trwy sefydlu trefniant rhanbarthol ar gyfer cynllunio argyfwng.  Nododd fod y gwasanaeth argyfwng, fel swyddogaeth gwasanaeth, yn rhan o Fusnes y Cyngor a bod grŵp mewnol o Swyddogion o bob adran yn cwrdd bob chwarter i fynd i'r afael â materion Cynllunio Argyfwng ac yn rhannu’r wybodaeth gyda’r Uwch Grŵp Arweinyddiaeth / y Penaethiaid. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd at agweddau o’r rhaglen waith bresennol gan gynnwys cynlluniau parhad busnes, a bod trefniadau'n cael eu cynllunio gyda Chyngor Sir y Fflint ym mis Ebrill 2019 i gynnal ymarfer ar y cyd i brofi cynlluniau ac i rannu arferion da. Cyfeiriwyd at agweddau eraill o'r gwaith a wneir sef: -

 

·           Cynllun ar gyfer Uwchgyfeirio Bygythiadau - pa mor barod yw awdurdodau lleol ar gyfer ymateb i ofynion Diogelwch Cenedlaethol a rhoi sylw i weithredoedd dilyn-i-fyny;

·           Ymarferiad MônCefni - ymarferiad a gynhaliwyd ym mis Medi 2017 gyda'r nod o roi cyfle i staff y Cyngor ymarfer sefydlu a rhedeg canolfan orffwys a rhoi prawf ar elfennau o ddogfen 'Canllawiau Canolfannau Gorffwys' y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae'r Gwasanaeth Rhanbarthol wrthi’n paratoi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol i annog gwirfoddolwyr i gynorthwyo mewn canolfannau gorffwys;

·           Damwain Marina Caergybi (Mawrth 2018) - rhoddwyd cefnogaeth gan NWC-REPS i sefydlu grŵp tasg yng Nghaergybi i gydlynu gweithredoedd ar sail aml-asiantaethol.

·      Safle Wylfa - mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Cynllun Argyfwng Oddi ar y Safle. Cynhaliwyd 'ymarfer' ym 2016 i brofi’r trefniadau a rhagwelir y bydd angen trefnu 'ymarfer' arall ym mis Medi 2019.

Bydd NWC-REPS yn rhoi mewnbwn i Is-Grŵp Adeiladu Wylfa Newydd sydd wedi'i sefydlu i gydlynu materion cynllunio brys yn ystod cyfnod adeiladu prosiect Wylfa Newydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Cynllunio Brys am eu cyflwyniad. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd ac fe wnaed y pwyntiau canlynol: -

 

·           Cyfeiriwyd at y ffaith bod cyfraniad ariannol yr awdurdod hwn tuag at NWC-REPS wedi gweld gostyngiad blynyddol o 2% ers ei sefydlu yn 2014.  Codwyd cwestiynau ynghylch effaith hyn ar y gwasanaeth yn gyffredinol. Nododd y Rheolwr Rhanbarthol bod strwythurau staffio wedi'u hadolygu i leihau costau ac y gellid adennill rhai costau megis y rhai sy’n gysylltiedig â pharatoi rhai cynlluniau allweddol. 

·           Gofynnwyd am eglurhad a yw'r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng wedi paratoi ar gyfer y posibilrwydd na fydd modd taro bargen mewn perthynas â Brexit a thagfeydd traffig ym mhorthladd Caergybi.   Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod trefniadau wrth gefn ar waith i ddelio â materion rheoli traffig sy'n effeithio ar y pontydd ac ar y Porthladd.  Nododd Rheolwr NWREPS hefyd fod y goblygiadau ar gyfer Porthladdoedd wrthi’n cael ei ystyried ar lefel genedlaethol.   

 

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad yn y dyfodol fel rhan o’i Raglen Waith ar gyfer 2019/20.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: