Eitem Rhaglen

Adroddiad Safonau Ysgolion (Haf 2018)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ar y safonau yn Ysgolion Ynys Môn (Haf 2018).

 

Adroddodd Mr Elfyn Jones – Uwch Arweinydd Uwchradd – GwE fod cynnwys yr adroddiad yn wahanol i’r blynyddoedd a fu oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i’r modd y caiff mesurau perfformiad eu hadrodd. Yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyhoeddi asesiadau athrawon yn y dyfodol, nid ydynt bellach yn cyhoeddi data cymharol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a 3 ar lefel ysgolion, awdurdod lleol a chonsortia ac felly ar wahân i gymhariaeth gyda chyfartaleddau cenedlaethol, nid oes unrhyw wybodaeth gymharol na meincnodi ar gael. Ym mis Hydref 2014 cafodd y Meysydd Dysgu (MD) Cyfnod Sylfaen ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol eu diwygio fel eu bod yn cyd-fynd â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) ac i’w gwneud yn fwy heriol yn ogystal. Yn unol â hyn cafodd y deilliannau Cyfnod Sylfaen eu hail-raddnodi fel eu bod yn cyd-fynd â disgwyliadau cynyddol y Meysydd Dysgu diwygiedig. Cafodd y MD diwygiedig eu cyflwyno yn statudol o fis Medi 2015. Golyga hyn mai’r garfan o blant a ddechreuodd yn y Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2015 oedd y plant cyntaf i gael eu hasesu’n ffurfiol yn erbyn y deilliannau newydd ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn haf 2018. Felly, dylid osgoi cymharu deilliannau Cyfnod Sylfaen gyda’r blynyddoedd cynt ar lefel ysgol, gan nad ydynt yn cael eu mesur ar sail gymaradwy. Nodwyd o ran cymharu canlyniadau blynyddol yn y dyfodol, na fydd awdurdodau lleol yn cymharu canlyniadau yn erbyn ei gilydd ac na fydd cymhariaeth rhwng ysgolion chwaith, ond yn hytrach bydd yr amrywiaeth o ran yr hyn a gyflawnir mewn pwnc penodol o fewn ysgol neu Gyfnod Allweddol yn cael ei graffu.

 

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Rhys Williams, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) a Mrs Sharon Vaughan, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) i’r cyfarfod. 

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ddadansoddiad manwl o’r data perfformiad i’r Pwyllgor.

 

Cyfnod Sylfaen

 

·      Mae’r canlyniadau eleni yn y Cyfnod Sylfaen yn dangos gostyngiad cenedlaethol o gymharu â’r blynyddoedd cynt. Mae nifer o athrawon o dan yr argraff fod disgwyliadau uwch i gyflawni Deilliant ac mae hyn yn un ffactor sydd wedi arwain at lai yn cyflawni Deilliant 5; 

·      Mae nifer o ysgolion yn adrodd ar Cymraeg iaith gyntaf yn 2018 yn hytrach nag ail iaith yn 2017. Ac eithrio Cymraeg mae’r bwlch DCS rhwng perfformiad 2017 a 2018 yn fwy yn genedlaethol nac ar Ynys Môn, a hynny ar y deilliannau disgwyliedig a’r deilliannau uwch;

·      Mae gan yr Awdurdod gynllun penodol i yrru gwelliannau yn y Cyfnod Sylfaen. Mae yna Grŵp Llywio eisoes gyda chynrychiolaeth o Brifathrawon o bob dalgylch. Mae GwE yn hwyluso, yn cefnogi ac yn sicrhau ansawdd gwaith y Grŵp Llywio a bydd Ymgynghorwyr Gwella Cefnogol hefyd yn gweithio mewn dalgylchoedd i adnabod anghenion pob ysgol. Mae’r cynllun gweithredu hwn mewn ymateb penodol i Gymraeg, Asesiad Gwaelodlin, y Blynyddoedd Cynnar a gwella systemau tracio a thargedu;

·      Mae’r canlyniadau ar gyfer Deilliannau uwch 6+ yn ysgolion Môn yn dal i fod yn gymharol dda. Er bod disgwyliadau uwch eleni i gyflawni’r Deilliant hwn, mae ysgolion wedi codi lefel yr her er mwyn cwrdd â’r gofynion newydd.

 

Cyfnod Allweddol 2

 

·      Mae perfformiad ysgolion ar Ynys Môn yn dal yn gryf ar y cyfan. Mae’r perfformiad yn mhob pwnc ar y Lefel 4 disgwyliedig yn debyg i’r canlyniadau cenedlaethol, ac eithrio Cymraeg sy’n is. Mae perfformiad ar y lefelau 5+ uwch eto’n gryf ar y cyfan;

·      Y meysydd i’w gwella yw gweithredu argymhellion perthnasol yn y cynllun gweithredu cytunedig fel yn y Cyfnod Sylfaen.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·      Ceisiwyd eglurhad ynglŷn â’r gwaith y mae’r Grŵp Llywio a sefydlwyd wedi’i wneud ym mhob dalgylch mewn ymateb i anghenion Cyfnod Sylfaen. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu fod angen cyfoethogi’r data a gasglwyd yn flaenorol o fewn y Cyfnod Sylfaen. Dywedodd fod Grŵp Llywio gyda chynrychiolaeth o Brifathrawon wedi cael ei sefydlu a bod cynrychiolydd o bob dalgylch wedi’i adnabod i hyrwyddo arfer dda o fewn eu dalgylch penodol nhw.  Mae bas data nawr ar gael i adnabod cryfderau a gwendidau o fewn y Cyfnod Sylfaen ac mae cyfleuster i alluogi Prifathrawon i rannu arfer dda a chydweithio o fewn y sector;

·      Cwestiynodd yr Is-gadeirydd a yw GwE yn cynnig gwerth am arian yn ei rôl o gefnogi ysgolion ac a oes mesurau mewn lle fesur rôl GwE. Dywedodd yr Uwch Arweinydd Uwchradd – GwE ei fod yn fater o beth mae Prifathrawon, Athrawon a Swyddogion Addysg yr Awdurdod yn ei ystyried yw mantais GwE o fewn ysgolion yr ynys. Nododd fod Swyddog GwE yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Addysg mewn perthynas â safonau yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd. Gellir hefyd mesur y fantais o’r Awdurdod yn gweithio gyda GwE yng nghyd-destun y proffil categoreiddio h.y. ysgolion sydd wedi derbyn y categori gwyrdd yng nghyswllt Arweinyddiaeth a Dysgu yn yr ysgolion. Dywedodd ymhellach fod GwE yn darparu monitro statudol ar yr ysgolion i’r Awdurdod a bod pethau wedi symud ymlaen yn ddiweddar gyda GwE yn darparu cefnogaeth broffesiynol yn yr ysgolion er mwyn codi’r safonau angenrheidiol. Mae GwE hefyd wedi darparu rhaglen i ddenu Prifathrawon posib yn yr ysgolion o blith athrawon cymwys.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) ddadansoddiad manwl o’r data perfformiad:-

 

Cyfnod Allweddol 3

 

·      Mae perfformiad y Dangosydd Pwnc Craidd (DPC) ar Ynys Môn wedi codi ac mae’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Gwelwyd cynnydd yn y ganran o ddysgwyr prydau ysgol am ddim a gyflawnodd y dangosydd DPC; 

·      Cymraeg – mae perfformiad ar y lefel ddisgwyliedig wedi codi mymryn eto eleni, ac mae wedi codi dros gyfnod o 3 blynedd dreigl. Mae perfformiad yn Ynys Môn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol eleni;

Saesneg – mae perfformiad ar y lefel ddisgwyliedig mewn Saesneg wedi aros yn gyson eleni ac mae’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol; 

Mathemateg – mae perfformiad ar y lefel ddisgwyliedig mewn Mathemateg wedi codi eto eleni ac mae’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o fewn y cyfnod treigl 3 blynedd. Gwelwyd gostyngiad bach yn y perfformiad ar un lefel uwchlaw y lefel ddisgwyliedig ac mae’r perfformiad fymryn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol;

Gwyddoniaeth – gostyngiad bach yn y perfformiad ar y lefel ddisgwyliedig, ond mae dal yn uchel ac mae’n uwch na’r canran cenedlaethol. Mae’r perfformiad ar un lefel uwchlaw y lefel ddisgwyliedig wedi gostwng mymryn eleni ac mae fymryn yn is na’r canran cenedlaethol; 

·      Mae perfformiad Ynys Môn yng nghyfnod allweddol 3 yn dal yn uchel ac mae’n uwch yn bron i bob un o’r dangosyddion o’u cymharu â’r perfformiad cenedlaethol;

·      Mae angen perfformiad uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth ar un lefel uwchlaw y lefel ddisgwyliedig.

 

Cyfnod Allweddol 4

 

·      Yn dilyn y newidiadau i arholiadau yn 2016-2017, mae deilliannau TGAU yn dal i fod yn anwadal iawn. Mae newidiadau sylweddol i batrwm a nifer y disgyblion a oedd yn sefyll arholiadau yn haf 2018 wedi cael effaith ar ganlyniadau fel y gwelir yn y gyfran o raddau ar draws yr holl bynciau yn yr ystod A* i C yng Nghymru yn disgyn 1.2pp i 61.6%;

·      Mae TGAU yn cael eu diwygio a chafwyd arholiadau mewn 15 o bynciau diweddaredig yr haf hwn am y tro cyntaf. Cafodd y TGAU newydd o gymwysterau mewn Gwyddoniaeth ei arholi am y tro cyntaf yn 2018 ac mae’n cyd-ddigwydd â’r newidiadau i’r dangosyddion perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4;

·      Mae newidiadau sylweddol i drothwyon graddau wedi digwydd ers haf 2017 a Tachwedd 2017 o gymharu â Haf 2018, yn arbennig ar gyfer gradd C mewn Saesneg a Mathemateg. Mae hyn wedi’i gwneud yn anodd i ysgolion i sicrhau rhagamcanion a gosod targedau manwl-gywir;

·      Bu cynnydd ym mherfformiad tair o’r pum ysgol uwchradd ar yr ynys;

·      Mae ffigurau cychwynnol yn dangos bod disgyblion prydau ysgol am ddim wedi perfformio’n well;

·      Mae GwE yn cynnig rhaglen hyfforddiant mewn perthynas â rhaglenni addysgol penodol ac mae pob un o’r pum Ysgol Uwchradd yn cymryd mantais o’r cynllun hyfforddiant;

·      Mae Grŵp ‘Camu’ wedi’i sefydlu ar Ynys Môn gyda chynrychiolaeth o’r pum ysgol uwchradd a GwE. Caiff cynlluniau datblygu ac anghenion unigol pob ysgol eu trafod. Mae Is-grwpiau wedi eu sefydlu hefyd i roi sylw penodol i wella perfformiad ysgolion h.y. gwella perfformiad disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, addysgu a dysgu, gwelliannau arweinyddiaeth a rhannu arfer dda. Nododd fod un ysgol uwchradd ar Ynys Môn wedi derbyn arolwg Estyn yn ddiweddar ac roedd yr Arolygiaeth wedi canmol blaengaredd yr Awdurdod a GwE wrth sefydlu fframwaith o’r fath;

·      O fewn Cyfnod Allweddol 4 mae wedi dod i’r amlwg bod bechgyn yn Ysgolion Môn yn wannach yn y pynciau iaith Cymraeg a Saesneg (mae GwE wedi cymharu data ar berfformiad bechgyn mewn ieithoedd gydag ystadegau cenedlaethol ar gyfer bechgyn yng Nghymru). Bydd GwE a’r pum ysgol uwchradd ar Ynys Môn nawr yn canolbwyntio ar wella perfformiad bechgyn yn y pynciau ieithoedd yn yr ysgolion.

 

Roedd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) yn dymuno nodi ei gwerthfawrogiad i’r berthynas weithio lwyddiannus a’r cydweithio rhwng GwE ac ysgolion Ynys Môn. 

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at drothwy gradd C yr arholiad TGAU Iaith Saesneg eleni. Ymatebodd yr Aelod Portffolio – Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod y trothwy ar gyfer ennill Gradd C mewn TGAU Iaith Saesneg wedi bod yn uwch i ddisgyblion yn 2018 nac yn 2017. I ennill Gradd C yn 2017, roedd rhaid cael marc o 200 ond yn 2018 roedd rhaid cael marc o 220. Nododd fod y chwe Aelod Portffolio yng ngogledd Cymru sydd â chyfrifoldeb am Addysg wedi cwyno wrth Lywodraeth Cymru am yr annhegwch i ddisgyblion yng nghyswllt y mater hwn;

·      Mynegwyd pryderon fod newidiadau anferth yn digwydd yn y system addysg a bod hyn yn cael effaith ar athrawon a disgyblion. Dywedodd yr Uwch Arweinydd Uwchradd GwE y bydd y system addysg yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod Addysg ac ysgolion lunio ei gwricwlwm ei hun. Mynegodd y bydd hyn yn gyfle i Ynys Môn allu llunio ei gwricwlwm lleol ei hun a fydd yn gallu tynnu ar brofiadau gwahanol fusnesau a chymunedau;

·      Holwyd cwestiynau ynglŷn â’r problemau gyda denu athrawon Gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd. Dywedodd yr Uwch Arweinydd Uwchradd GwE fod GwE mewn trafodaethau gyda Phrifysgolion i hyrwyddo’r proffesiwn dysgu; mae denu athrawon pynciau STEM yn mynd yn bryder. Mynegodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad ei bod yn hollbwysig bod y proffesiwn addysg yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion fel y gellir denu pobl ifanc i fod yn Athrawon yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: