Eitem Rhaglen

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn darparu canllawiau strategol i’r holl bartneriaid sydd yn cefnogi unigolion i gynnal eu hiechyd a’u llesiant o fewn cymunedau sy’n gwbl gyson â nod y Cyngor i gefnogi oedolion bregus a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel, yn iach ac yn annibynnol. Nododd fod Rhan 9 y Ddeddf  Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth yng Nghymru sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i oruchwylio Partneriaethau ac  Integreiddiad Gwasanaethau. Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2016. Mae’r Ddeddf yn nodi bod angen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac i sicrhau fod gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol mewn lle i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol yn y ffordd orau.  Mae aelodaeth y bwrdd hefyd wedi’i phennu gan ddeddfwriaeth ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd a’r Awdurdodau Lleol yn ogystal â chynrychiolwyr y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae’r Bwrdd wedi cyfethol aelodau o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a Thai ar y Bwrdd. Rhaid i’r Bwrdd hefyd gael cynrychiolydd ar gyfer Gofalwyr a Defnyddwyr Gwasanaeth. Dywedwyd bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i gefnogi gan y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol a’r Tîm Cydweithio Rhanbarthol sy’n cael ei letya gan Nghyngor Sir Ddinbych. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd fewnwelediad i’r llwyddiannau hyd yma fel y nodwyd yn yr adroddiad, sef:-

 

·      Strategaeth Anabledd Dysgu

·      Strategaeth Gofalwyr

·      Gwaith Integreiddio (Cyllidebau Cyfun a Gwaith y Gronfa Gofal Integredig)

·      Atebolrwydd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’u llwyddiannau hyd yma

·      Ymateb Gogledd Cymru i ‘Gymru Iachach’

·      Dylanwad y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn lleol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr arweiniad statudol mewn perthynas â gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 angen i awdurdodau lleol wneud trefniadau er mwyn hyrwyddo cydweithrediad â’r partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Mae Rhan 9 o'r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau. O dan y Ddeddf, mae angen i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn rheoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac er mwyn sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth effeithiol yn ei le er mwyn gallu bodloni anghenion eu poblogaethau perthnasol. Adroddodd bod gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cryfhau dros amser ac mae bod yn rhan o’r Bwrdd yn galluogi’r holl awdurdodau lleol i gael mynediad i gyllid grant sydd ar gae; gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu gwella darpariaethau.     

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y pwyntiau canlynol:-

 

·      Codwyd cwestiynau o ran a oes yna gydweithio rhwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r prif wahaniaethau rhwng y Byrddau. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol – Cefnogaeth Rheoli Busnes, bod Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a bod pynciau sy’n berthnasol i’r ddau fwrdd yn cael eu rhannu. Nododd ei bod yn hanfodol nad yw’r gwaith a wneir gan y ddau Fwrdd yn gorgyffwrdd gan fod Llywodraeth Cymru yn anffodus wedi gosod disgwyliadau ar y ddau Fwrdd mewn perthynas â Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol. Rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw ffurfioli fframweithiau a strategaethau rhanbarthol;   

·      Cyfeiriwyd at y ffaith i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gynhyrchu Asesiad Anghenion Poblogaeth yn 2017 a oedd yn asesu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yng Ngogledd Cymru. Mae ystadegau yn dangos bod materion Iechyd Meddwl ar gynnydd a bod nifer uwch o bobl yn cyflawni hunanladdiad; cododd cwestiynau o ran a yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gallu mynd i’r afael â’r mater hwn. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cyflwyno cais gwerth £2.3 miliwn i Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gwelliannau gofal Iechyd Meddwl ac er mwyn gallu cyfeirio pobl at y gwasanaethau angenrheidiol yn gyflym. Mae gwaith yn cael ei ymgymryd ag ef er mwyn gallu hyfforddi gweithwyr Ambiwlans rheng flaen i allu adnabod pobl sydd mewn argyfwng ac sydd ag anghenion Iechyd Meddwl. Bydd caffis argyfyngau yn cael eu datblygu er mwyn galluogi pobl i gael mynediad i gyfleusterau ac i gael cymorth pan fyddant yn wynebu problemau iechyd meddwl. Mynegodd Arweinydd y Cyngor bod cael yr holl asiantaethau yn rhan o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn fanteisiol er mwyn gallu tynnu sylw at faterion sy’n achosi pryder ac yn enwedig materion iechyd meddwl. Dywedodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol – Rheoli Cymorth Busnes bod y trydydd sector yn hanfodol gan eu bod yn gallu helpu i roi cymorth a chyngor  lleol i bobl sydd angen cymorth. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas ag Iechyd Meddwl ac nid o angenrheidrwydd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Nododd fod gwaith yn cael ei wneud yn lleol drwy’r Tîm Gweithredu Lleol a drwy’r Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl; awgrymodd y dylid cyflwyno adroddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn amlinellu’r  gwaith sydd wedi’i wneud mewn perthynas ag Iechyd Meddwl;          

·      Cyfeiriwyd at ddylanwad y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn lleol ac yn enwedig ar y gwasanaethau a oedd wedi eu hadnabod yn yr adroddiad o ran y cynlluniau Cronfeydd Gofal Integredig. Holwyd a oedd yr holl gynlluniau o fewn yr adroddiad wedi eu darparu. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y rhan fwyaf o wasanaethau bellach wedi’u sefydlu megis Nightowls, Capasiti Camu Ymlaen / Camu i Lawr mewn Cartrefi Gofal a Gofal Ychwanegol, Parafeddyg yn cefnogi Gofal Uwch Môn, Datblygu 4 o fflatiau yn Llawr y Dref i gefnogi cleientiaid ag anableddau, Gwelyau Hosbis wedi eu Cynllunio yn Ysbyty Penrhos Stanley,  Rheolwr Prosiect ar gyfer Ymarfer Tendro Gofal Cartref, Buddsoddiad yn y Prosiect Tai Grŵp Bach ar gyfer y Gwasanaethau Plant;

·      Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at y gorwariant yn y Gwasanaethau Plant a holodd a yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynorthwyo’r Awdurdod Lleol. Ymatebodd yr Arweinydd bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cyflwyno ceisiadau fel rhan o Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru er mwyn ymateb i’w pwyslais ar y rhaglen ‘Cymru Iachach’ ac mae’r Gwasanaethau Plant yn rhan o’r ceisiadau hyn. Cyfanswm y ceisiadau yw £3 miliwn dros ddwy flynedd ar draws y rhanbarth er mwyn galluogi ymyrraeth gynnar. Nododd yr Arweinydd ymhellach fod yr Awdurdod hwn wedi sefydlu tîm ‘trothwy gofal’ a bod y profiad a gafwyd yn lleol wedi cynorthwyo’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wrth greu’r broses o wneud cais;    

·      Holwyd am yr heriau y mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn eu hwynebu. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi bod yn her i gael pobl o’r sefydliadau statudol i fynychu’r cyfarfod ond bod ymrwymiad i’r Bwrdd wedi gwella yn ddiweddar. Nododd y cynhelir y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol bob mis a fel y Deilydd Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Arweinydd yw cynrychiolydd yr Awdurdod hwn ynghyd â’r cynrychiolydd ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

Nododd y Prif Weithredwr ei fod wedi bod yn her i geisio sefydlu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r swyddogaethau amrywiol mae’n eu cynnwys. Mae rhai o swyddogaethau’r Bwrdd yn cynnwys:- 

 

  • Sicrhau Ymateb Rhanbarthol i’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
  • Hyrwyddo Cronfeydd Cyfun lle bo hynny’n briodol a lle bod awdurdod i wneud hynny.
  • Blaenoriaethu integreiddio mewn gwasanaethau penodol, sef: Gwasanaethau Pobl Hŷn, Gwasanaethau Anableddau Dysgu, Gofalwyr, Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a Phlant ag Anghenion Cymhleth.
  • Sicrhau fod gwybodaeth, cyngor a chymorth priodol ar gael i’r boblogaeth leol.

 

Nododd fod y Cyngor wedi cydweithio â’r Heddlu er mwyn mynd i’r afael â phrofiadau ACE (Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod).

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Derbyn yr adroddiad fel diweddariad mewn perthynas â rôl a phwrpas y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

·      Y dylid cyflwyno adroddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio yn amlinellu’r gwaith a gafodd ei wneud mewn perthynas ag Iechyd Meddwl a’r gwaith a gafodd ei wneud gan y Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl.

 

GWEITHRED: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: