Eitem Rhaglen

Canllaw Cynllunio Atodol : Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy (drafft ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus)

Derbyn adroddiad gan y Prif Swyddog Cynllunio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio – Uned  Polisi Cynllunio ar y Cyd (Gwynedd a Môn) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ym mis Gorffennaf 2017 a’i fod yn weithredol am y cyfnod hyd at 2026. Er bod y Cynllun Datblygu’n cynnwys polisïau sy’n caniatáu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau cyson a thryloyw ar geisiadau datblygu, nid yw’n gallu darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar Swyddogion a darpar ymgeiswyr i lywio cynigion yn lleol. Er mwyn darparu’r wybodaeth fanwl hon, mae’r Cynghorau’n paratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i gefnogi’r Cynllun a darparu canllawiau manylach ar amrywiaeth o bynciau a materion er mwyn cynorthwyo i ddehongli a gweithredu polisïau a chynigion y Cynllun. Rhoddodd Aelodau’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (sydd yn cynnwys nifer cyfartal o aelodau o Wynedd ac Ynys Môn) ystyriaeth i’r drafft cychwynnol ac, yn dilyn ymgynghori ar y CCA, bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn penderfynu a yw’r canllaw yn addas i’w fabwysiadau yn ei gyfarfod ar 23 Mai, 2019.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai pwrpas yr adroddiad yw codi ymwybyddiaeth aelodau’r Panel Sgriwtini am ddatblygiad y Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy er mwyn sicrhau y creffir arno cyn i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd benderfynu a yw’n addas i’w fabwysiadu yn ei gyfarfod ar 23 Mai, 2019. Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Cymunedau (Cyngor Gwynedd) wedi trafod yr adroddiad ar 4 Ebrill, 2019. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo, bydd y canllaw yn ystyriaeth cynllunio perthnasol wrth ddelio gyda cheisiadau cynllunio a bydd rhaid i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ddilyn y canllawiau o fewn y CCA. Yn ogystal bydd Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi pwys i Ganllawiau Cynllunio Atodol sy’n gyson â chynlluniau datblygu lleol.

 

Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol yn ceisio sicrhau fod y Polisïau canlynol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy yn cael eu hymgorffori yn y broses ddatblygu:-

 

·      PS1 – Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig;

·      PS5 -  Datblygu Cynaliadwy

·      PS6 – Lliniaru effeithiau Newid Hinsawdd

 

Pwrpas y CCA a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn yn darparu canllawiau manwl ar bolisïau penodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn gyson ar draws ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ni all canllawiau newid polisïau neu gynigion a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ac ni ellir cyflwyno polisïau newydd trwy Ganllawiau Cynllunio Atodol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod Atodiad 1 yr adroddiad yn cyfeirio at yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â’r CCA rhwng 3 Rhagfyr 2018 a 31 Ionawr 2019. Nodwyd y derbyniwyd 88 o sylwadau gan 8 o gynrychiolwyr/sefydliadau; cafodd y rhan fwyaf o’r sylwadau eu derbyn heblaw am y materion a gyflwynwyd a oedd yn golygu newid polisïau cynllunio neu a oedd yn cyfeirio at faterion yr oedd y CCA yn mynd i’r afael â nhw’n barod. Mae Atodiad 2 ynghlwm i’r adroddiad yn gopi drafft o’r CCA. Fodd bynnag, mae angen golygu’r adroddiad er mwyn cynnwys yr holl newidiadau a argymhellwyd.

 

Rhennir y Canllaw yn dair Adran. Mae Adran 1 yn darparu canllawiau ar bolisïau o fewn y Cynllun sydd yn caniatáu datblygiadau sy’n hanfodol i greu lleoedd nodedig a chynaliadwy. Mae Adran 2 (a’r rhan fwyaf o Atodiadau’r Canllaw) yn ymdrin yn benodol â sut i gymhwyso Polisi PS1, Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig. Mae Atodiad 6 yn rhoi enghreifftiau o gamau/gweithgareddau y gellir eu hymgorffori mewn datblygiadau a/neu ofyn amdanynt er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol (mewn perthynas â chynllunio defnydd tir). Mae Atodiadau 7 ac 8 yn darparu methodoleg ar gyfer cynnal asesiadau effaith perthnasol. Mae Adran 3 yn nodi arolygon a dogfennau y mae’n rhaid eu cyflwyno gyda’r cais cynllunio, yn ddibynnol ar natur, graddfa a lleoliad y datblygiadau arfaethedig.

 

Amlinellodd y Swyddog y camau nesaf a’r amserlen mewn perthynas â’r CCA a nododd y bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, yn ei gyfarfod ar 23 Mai 2019, yn ystyried y sylwadau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio; yr adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus; copi drafft terfynol o’r Canllaw Cynllunio Atodol er mwyn penderfynu a yw’r Canllaw’n addas i’w fabwysiadu (ac, o ganlyniad, gymryd lle’r Canllaw Cynllunio Atodol presennol sy’n rhoi sylw i’r pwnc hwn).

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith y derbyniwyd 88 o sylwadau ar y CCA. Gofynnwyd a oedd y gwasanaeth yn siomedig â nifer y sylwadau a dderbyniwyd a nodwyd na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Gynghorau Cymuned ar Ynys Môn. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr holl Gynghorau Cymuned wedi cael cyfle i ymateb ond ei bod yn bwysig nodi mai sylwedd y sylwadau sy’n bwysig o safbwynt y CCA; mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi bod yn rhai adeiladol;

·      Gofynnwyd a fyddai’r CCA yn arwain at newid polisïau cynllunio mewn amser. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cynllun yn cael ei fonitro’n barhaus ac y defnyddir dangosyddion perfformiad fel rhan o’r broses honno ac y gallai hynny arwain at newid polisïau cynllunio.

·      Gofynnwyd a yw’r broses o fewn y broses gynllunio yn ddigon cadarn i ddiogelu’r Iaith Gymraeg a’r diwylliant mewn cymunedau gwledig pan gyflwynir cais cynllunio mawr. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio nad yw’r CCA presennol a ddefnyddir ar hyn o bryd (a fabwysiadwyd o dan y cynllun datblygu blaenorol) yn darparu’r canllawiau mwyaf diweddar o ran methodoleg yn ymwneud ag asesiadau iaith. Bydd y CCA drafft a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn yn darparu canllawiau i ddatblygwyr ynglŷn â phrosesau angenrheidiol ac yn sicrhau fod gwybodaeth graidd ynglŷn â’r Iaith Gymraeg a diwylliant yn cael ei gyflwyno gyda cheisiadau cynllunio ac yn caniatáu i datblygwyr ddiffinio gofynion y CCA o fewn y cyd-destun hwn;

·      Cyfeiriwyd at y ffaith y gallai penderfyniadau a wneir gan y ddau Bwyllgor Cynllunio gael eu herio a bod modd cyflwyno apêl i Lywodraeth Cymru. Cwestiynwyd a yw’r CCA a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn yn ddigon cadarn i fedru herio penderfyniadau apêl. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod Llywodraeth Cymru yn rhoi pwys sylweddol ar Ganllawiau Cynllunio Atodol sy’n gyson â’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd;

·      Nodwyd y gallai datblygiadau mawr posib ar yr Ynys, h.y. datblygiadau Bluestone a Thraeth Newry, gael effaith ar yr Iaith Gymraeg. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mai pwrpas y canllawiau o fewn y CCA yw diogelu a chryfhau’r Iaith Gymraeg. Bu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn trafod y canllaw ers mis Medi 2017;

·      Nodwyd y gallai datblygiad bach yn unig gael effaith ar ethos yr Iaith Gymraeg mewn ardal wledig. Cwestiynwyd sut y gallai’r CCA ddiogelu datblygiad o’r fath mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y CCA yn rhoi sylw i ddatblygiadau mewn trefi mawr o fewn y ddau awdurdod lleol a phan gyflwynir ceisiadau cynllunio am 10 neu fwy o anheddau, rhaid cyflwyno asesiad o’r effaith ar yr Iaith Gymraeg gyda’r cais. Fodd bynnag, os yw ardal wledig wedi ei dynodi yn ardal ddatblygu a bod cais yn cael ei gyflwyno sydd yn ychwanegol i’r lleiafswm a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, yna byddai rhaid cynnal asesiad o’r effaith ar yr Iaith Gymraeg. Bydd rhaid i ddatblygwyr ddefnyddio unigolion proffesiynol i gynhyrchu asesiad effaith ar yr Iaith Gymraeg a Diwylliant.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: Hysbysu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy.

 

 

Dogfennau ategol: