Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd : Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion ac Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion a’r Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod cynrychiolwyr y Pwyllgor wedi bod yn cysgodi gweithgareddau GwE yn ddiweddar yn Ysgol y Borth, Porthaethwy; wedi mynychu Cynhadledd ar gyfer Penaethiaid Ysgolion Gogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno gyda Shirley Clarke, yr arbenigwraig addysg, yn annerch y Gynhadledd; a sesiwn hyfforddiant gan GwE ar Gwricwlwm Cymru. Nododd y Cadeirydd y bydd yr Aelodau yn adrodd i’r Pwyllgor hwn maes o law ar y gweithgareddau a drefnwyd gan GwE.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant fod yr adroddiad yn crynhoi gwaith y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion yn ystod y cyfnod 7 Tachwedd, 2018 i 2 Ebrill, 2019. Mae’r Panel wedi cyfarfod â Phenaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Llywodraethwyr ac wedi trafod trefniadau i gysgodi swyddogion GwE mewn nifer o weithgareddau.

 

Cyfarfu’r Panel fel a ganlyn:-

 

·           22 Tachwedd, 2018 – Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd Henblas;

·           13 Rhagfyr, 2018 – Ysgol Uwchradd David Hughes a monitro Cynllun Gweithredu’r Gwasanaeth Dysgu;

·           24 Ionawr, 2019 – Ysgol Gynradd Bodedern

·           15 Chwefror, 2019 – Ysgol Gynradd Llanfairpwll ac Ysgol Gynradd Santes Fair;

·           22 Mawrth, 2019 – Ystyried trefniadau cysgodi swyddogion GwE a hunan arfarniad.

 

Dywedodd y Swyddog fod y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi meithrin gwell dealltwriaeth o’r broses gydweithio rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE ac wedi cryfhau atebolrwydd o fewn ysgolion Ynys Môn. Nodwyd nad oes yr un ysgol yn Ynys Môn yn y categori coch ac mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion yn y categori melyn yn nhablau perfformiad newydd Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·           Ystyriwyd y dylid rhoi cyfle i bob Aelod o’r Cyngor dderbyn gwybodaeth am y cwricwlwm addysg newydd a’r gwasanaethau a ddarperir gan GwE. Adroddodd y Prif Weithredwr fod trefniadau wedi’u gwneud i gynrychiolwyr o GwE fynychu cyfarfod Briffio Aelodau yn y dyfodol agos i gyflwyno gwybodaeth am y cwricwlwm addysg ac i drafod y ddeddf anghenion dysgu ychwanegol newydd;

·           Cyfeiriwyd at doriadau ariannol o fewn ysgolion yn gyffredinol ac effaith bosib hynny ar safonau addysgol. Gofynnwyd a yw’r Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi trafod y mater hwn. Dywedodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant y bydd y sefyllfa ariannol yn heriol i ysgolion yn y dyfodol. Nododd y bydd rhaid i ysgolion ganfod ffyrdd mwy effeithiol o ddarparu’r addysg orau i ddisgyblion.

 

Diolchodd yr Aelod Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant i’r Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion am eu gwaith a dywedodd fod gwaith y Panel wedi cyfrannu at welliannau o fewn ysgolion ar Ynys Môn a’r cydweithio gyda GwE i godi safonau.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Cytuno fod y Panel yn herio perfformiad ysgolion unigol yn gadarn;

·           Nodi fod y Panel yn canolbwyntio ar ddatblygu trefniadau cysgodi gyda GwE er mwyn caniatáu i Aelodau fynychu amryw o ddigwyddiadau monitro, cefnogi a hyfforddi mewn ysgolion;

·           Nodi y bydd y Panel yn parhau i fonitro gweithrediad Cynllun Monitro’r Gwasanaeth Dysgu;

·           Nad yw’r Panel yn ymwybodol o unrhyw negeseuon allweddol y mae angen eu cyfeirio at y Pwyllgor Gwaith ar hyn o bryd.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: