Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn ei bod yn ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol, yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a diwygiadau wedi hynny i Ddeddfau’r Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i’r rhaglen  diogelwch cymunedol lleol. Mae'n ddyletswydd ar y Bartneriaeth i ddelio â: -

 

  • Trosedd ac Anhrefn
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Lleihau aildroseddu
  • Cyflwyno asesiad strategol i nodi blaenoriaethau (gwaith sy'n cael ei wneud yn rhanbarthol bellach)
  • Rhoi cynlluniau ar waith i ddelio â'r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol).

 

Nodwyd bod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gweithio i gynllun blynyddol sy'n seiliedig ar gynllun rhanbarthol tair blynedd (‘roedd adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn 2018/19 a chynllun 2019/20 ynghlwm wrth yr adroddiad). Nodwyd y saith blaenoriaeth ganlynol gan y Bartneriaeth sy'n seiliedig ar asesiad strategol rhanbarthol, cynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a chynllun y Bwrdd Cymunedau Diogel rhanbarthol: -

 

  • Lleihau troseddau a chanddynt ddioddefwyr (troseddau meddiangar yn unig)
  • Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Cefnogi pobl fregus i’w hatal rhag bod yn ddioddefwyr trosedd
  • Codi hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig
  • Codi hyder i adrodd am gam-drin rhywiol
  • Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal
  • Lleihau Aildroseddu

 

Cafodd y prif negeseuon sy'n deillio o weithgareddau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2018 eu cynnwys yn yr adroddiad.

Cyfeiriodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn at ystadegau troseddu yn yr adroddiad. Nododd fod y Swyddfa Gartref yn cymharu'r troseddau mewn ardaloedd sy'n debyg; edrychir ar ystadegau troseddau Ynys Môn a’u cymharu â saith ardal debyg yn y DU. Bu newid yn ystod y flwyddyn hon yn arferion cofnodi’r Heddlu oherwydd y gall un digwyddiad arwain at gofnodi mwy nag un trosedd erbyn hyn. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau bod achosion o dorri i mewn i annedd, adeiladau allanol neu sied bellach yn cael eu categoreiddio fel byrgleriaeth ddomestig yn ystadegau'r Heddlu. Dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn fod digwyddiadau byrgleriaeth yn isel ar Ynys Môn.

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a'r cwestiynau sgriwtini yn yr adroddiad a chododd y materion a ganlyn:

 

·      Gofynnwyd a oes adnoddau digonol yn y Tîm Diogelwch Cymunedol i gyflawni'r gwaith y mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi'i nodi. Ymatebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud mai dim ond un Swyddog sydd yn gweithio o fewn y Tîm Diogelwch Cymunedol ar hyn o bryd ond mae trafodaethau yn parhau o ran disodli'r rôl prosiect a monitro yn y tîm yn dilyn ymadawiad deilydd y swydd ym mis Rhagfyr 2018. Holodd y Cadeirydd pwy fydd yn penderfynu a fydd y rôl prosiect a monitro yn cael ei disodli. Ymatebodd y Prif Weithredwr mai Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar y Tîm Diogelwch Cymunedol ond mae Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd yn gwneud cyfraniad ariannol tuag at y Tîm; fodd bynnag, rhaid i'r awdurdod hwn sicrhau gwerth am arian. Dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn fod y Tîm Diogelwch Cymunedol wedi cael ei leihau o 7 aelod yn 2014 ac er y croesewid adnoddau ychwanegol  tuag at y Tîm Diogelwch Cymunedol, nodwyd bod peth o'r gwaith wedi'i drosglwyddo i’r strwythurau rhanbarthol;

·      Gofynnwyd a oedd gan yr holl sefydliadau partner yr un blaenoriaethau yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol fod y sefydliad partner wedi cytuno i gynllun gwaith a blaenoriaethau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Gofynnwyd a oes gan y sefydliadau partner yr adnoddau eu hunain i gyflawni blaenoriaethau'r Bartneriaeth. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol fod y sefydliadau partner yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cydweithio'n agos i gyflawni blaenoriaethau'r Bartneriaeth a bod y lefelau presenoldeb yn uchel gan yr holl sefydliadau partner;

·      Cyfeiriwyd at y ffaith ei bod yn ymddangos bod yr ystadegau ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gymharol isel yn yr adroddiad; ystyriwyd bod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cynyddu mewn cymunedau. Nododd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol y bu gostyngiad nodedig mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, yn enwedig Ymddygiad Gwrthgymdeithasol personol dros y deng mlynedd diwethaf, a bod y fframwaith amlasiantaethol ar gyfer ymateb i Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi hen sefydlu, a bod hynny wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer yr digwyddiadau. Fodd bynnag, nodwyd hefyd y dylid rhoi gwybod i'r Heddlu am unrhyw ddigwyddiad. Esgorodd hyn ar drafodaeth ar effeithiolrwydd y system 101 ac awgrymwyd y gallai hynny fod yn fater i'w drafod gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd;

·      Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam oedd casglu gwybodaeth wedi’i nodi fel ‘dangosydd coch’ yn yr adroddiad. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol fod y ‘dangosydd coch’ yn cyfeirio at weithred na chafodd ei chwblhau o fewn y flwyddyn, a oedd yn ymwneud â Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus. Mae'r weithred hon wedi'i dwyn ymlaen i’r flwyddyn hon ac mae'n mynd rhagddi;

·      Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn teimlo, fel cynrychiolydd ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a sefydliadau eraill, nad oes gweithdrefn iddo fedru adrodd yn ôl i Bwyllgor ar drafodaethau a blaenoriaethau’r partneriaethau hyn.  Ymatebodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Pwyllgor hwn wedi cytuno i wahodd Aelodau Etholedig perthnasol sy’n cynrychioli’r Cyngor ar sefydliadau partner i annerch y cyfarfod hwn maes o law. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a'r dogfennau atodedig a chefnogi blaenoriaethau a chyfeiriadau gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i’r dyfodol.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

 

Dogfennau ategol: