Eitem Rhaglen

Monitro’r Gyllideb Refeniw – Chwarter 2, 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Yn seiliedig ar y wybodaeth ar ddiwedd Chwarter 2, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcenir ar gyfer 2019/20 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor yw gorwariant o £1.935m sy’n cyfateb i 1.43% o gyllideb net  y Cyngor ar gyfer 2019/20. Mae pwyntiau penodol i’w nodi’n cynnwys yr isod

 

           Mae’r ffigyrau ar gyfer Chwarter 2 yn nodi pwysau sylweddol o ran y galw am wasanaethau yn ystod 2 chwarter cyntaf y flwyddyn yn y Gwasanaeth Oedolion (manylion ym mharagraffau 3.2.2 a 3.2.3 yr adroddiad). Roedd gorwariant o £963k yn y gwasanaeth ar gyfer y cyfnod gyda rhagamcan y byddai  £1,214k (4.82%) o orwariant ar gyfer y flwyddyn a hynny’n bennaf oherwydd 20 o achosion newydd gyda 7 yn unig o’r rheiny’n golygu gwariant ychwanegol oddeutu £700k gyda chyfanswm y costau ychwanegol oddeutu £960k. Mae’n bwysig felly nodi sut y gall cynnydd cyflym yn nifer yr achosion ynghyd â’r math o ddarpariaeth ddwys a chymhleth sydd yn aml yn gysylltiedig â’r achosion hyn gael effaith ar sefyllfa ariannol y Gwasanaethau Oedolion ac ar sefyllfa gyllidebol y Cyngor yn gyffredinol.

           Dygwyd sylw at y ffaith fod ymrwymiad ar y Cyngor i dalu tâl gwyliau i staff llanw a hynny’n seiliedig ar yr amser y maent wedi ei weithio’n ôl-ddyddiedig i 2015. Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio £94k ynghyd ag ar-gostau. Oherwydd y byddai hynny’n rhoi cyllidebau’r ysgolion dan bwysau pellach, argymhellir y gellid, gyda chaniatâd y Pwyllgor Gwaith, ariannu’r costau hyn o’r Gronfa Gyffredinol sydd wedi cynyddu £479k oherwydd bod 50% o’r gyllideb graidd o ysgolion yr oedd y Cyngor eisoes yn ei ddarparu ar gyfer costau cynyddol pensiynau athrawon wedi cael ei ddychwelyd oherwydd bod Llywodraeth Cymru bellach yn rhoi grant i’r Cyngor i gwrdd â’r costau hyn. Mae 50% o’r gwarged yn cael ei gadw gan yr ysgolion a 50% yn cael ei ddychwelyd i’r Gronfa Gyffredinol sy’n golygu bod mwy o gapasiti yn y Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol i ariannu’r costau hyn sy’n gysylltiedig ag ysgolion.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 at gasglu’r Dreth Gyngor ac effaith y cynnydd yn y premiwm ar dai gwag tymor hir a nifer y tai gwag ar yr Ynys sydd, yn ei dro, wedi arwain at ostyngiad yn yr incwm y mae’r Cyngor yn ei gael o bremiwm y Dreth Gyngor fel yr adlewyrchir hynny ym mharagraff 5.1 yr adroddiad oherwydd bod perchenogion tai gwag yn cymryd camau i wneud i ffwrdd â’u hymrwymiad drwy gael gwared ar eu heiddo. Mae’r effaith yn cael ei hesbonio’n gliriach yn yr adroddiad dan eitem 9 sy’n ymwneud â Sylfaen y Dreth Gyngor am 2020/21.

 

Wrth nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd, nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd, serch y ffaith y gall nifer gostyngol o dai gwag / ail gartrefi olygu llai o incwm i’r Cyngor, mae premiwm uwch y Dreth Gyngor ar ail gartrefi a thai sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir yn diwallu ei brif bwrpas, sef dod â mwy o dai gwag yn ôl i ddefnydd. Mewn perthynas â’r gorwariant rhagamcanedig ar Gyllideb Refeniw 2019/20, nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach y bydd angen i’r pwysau ariannol yn y Gwasanaethau Oedolion gael eu monitro’n agos.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.

           Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH.

           Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2019/20 yn Atodiad D.

           Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2019/20 yn Atodiadau DD, E ac F.

           Cymeradwyo’r defnydd o Gronfa Wrth Gefn Pensiynau Ysgolion i gyllido’r tâl gwyliau sy’n ddyledus i staff llanw ysgolion ac sy’n dyddio’n ôl i Ragfyr, 2015 ar gost amcangyfrifiedig o £94k ar hyn o bryd ynghyd ag argostau, sef cyfanswm oddeutu £110k yn fras.    

Dogfennau ategol: