Eitem Rhaglen

Ysgogiad Economaidd Llywodraeth Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi cynigion i ddefnyddio arian ysgogiad economaidd Llywodraeth Cymru.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £491,330 i’r Cyngor Sir mewn llythyr dyddiedig Awst 2019, ar yr amod bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau cyfalaf i yrru newidiadau pwysig yn ein cymunedau; i ariannu ystod o brosiectau y gellir eu cyflawni yn ystod y flwyddyn i ddarparu buddiannau economaidd sydd wedi eu halinio â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac ar yr amod hefyd bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn modd sy’n ystyried sut y gellir cael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd. Mae’n holl bwysig bod yr arian yn cael ei wario a’i hawlio cyn 31 Mawrth, 2020. Rhoddwyd ystyriaeth i nifer o brosiectau posib fyddai’n gallu elwa o’r arian hwn ac roedd yr amser byr ar gyfer eu cyflawni yn ffactor hanfodol wrth ystyried dichonoldeb y prosiectau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cefnogi dau brosiect – (1) ailddatblygu tir tu ôl i Peboc (a amlinellir yn Atodiad A) a (2) symud ymlaen i ddymchwel hen Ysgol y Parc a’r llyfrgell yng Nghaergybi (a amlinellir yn Atodiad B). Cydnabyddir, er bod yr arian a dderbyniwyd yn sylweddol, nad yw’r swm yn ddigon i ganiatáu i’r Cyngor gwblhau’r ddau weithgaredd felly bydd y Cyngor yn rhoi arian cyfatebol tuag at y grant i sicrhau fod y ddau brosiect yn cael eu cyflawni, gan fanteisio i’r eithaf ar y canlyniadau. Os na chyflawnir y ddau gynllun blaenoriaeth, yna byddai’r Cyngor yn ceisio prynu tir mewn lleoliadau strategol o gwmpas yr Ynys y gellid ei ddatblygu yn y dyfodol, neu ddatblygu prosiectau eraill a fyddai’n cyfrannu at amcanion datblygu economaidd. Byddai gan y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Deilydd Portffolio ddisgresiwn ynghylch yr opsiynau amgen hyn.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod adnoddau presennol wedi cael eu defnyddio i wneud gwaith paratoi ymlaen llaw ar y prosiectau er mwyn sicrhau eu bod yn barod i gychwyn pan fydd arian ar gael, ac mae hynny wedi creu gwaith ychwanegol i'r Tîm Adfywio Economaidd. Er bod y Cyngor yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am yr arian ychwanegol, y mae croeso iddo bob amser ac y byddwn yn gwneud y defnydd gorau ohono - y gobaith yw y bydd arian sy’n cael ei wario yn y modd hwn yn denu datblygiad gan y sector preifat neu grantiau pellach i adeiladu ar y tir dan sylw. Er bod nifer o brosiectau teilwng eraill a oedd yn cyfiawnhau’r gwariant, roedd y cyfyngiad amser yn ffactor allweddol ac felly roedd y ffaith y gellid cyflawni’r ddau brosiect yn elfen bwysig o blaid eu cymeradwyo.

 

Er bod y Pwyllgor Gwaith yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y grant, nododd y byddai’n fuddiol petai mwy o rybudd am yr arian wedi’i roi ymlaen llaw a mwy o amser i gyflawni’r prosiectau. Byddai hynny hefyd wedi caniatáu i’r Cyngor feddwl yn fwy strategol am gynlluniau cymwys posib ac i sicrhau’r defnydd gorau posib o arian. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith a wnaed gan y Tîm Adfywio Economaidd i gael y prosiectau’n barod mewn cyfnod byr o amser a gyda chapasiti cyfyngedig.

 

Mewn ymateb i’r ymholiad ynghylch a roddwyd ystyriaeth i gynnwys safle gorsaf yr Heddlu gerllaw yn y cynllun ar gyfer safle hen Ysgol y Parc a’r Llyfrgell yng Nghaergybi, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod yr Awdurdod wedi cysylltu â’r Heddlu er mwyn sicrhau fod cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt a chymaint o gyd-gynllunio â phosib yn digwydd; er bod gan Heddlu Gogledd Cymru ei raglen gyfalaf a thargedau gwariant ei hun, mae’n gwneud synnwyr i edrych ar y safle yn ei gyfanrwydd fel safle ym mherchnogaeth gyhoeddus.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r cynnig o £491,330 o arian cyfalaf ar gyfer 2019/20.

           Cymeradwyo prosiectau ar y tir ger Peboc a hen Ysgol y Parc fel cynlluniau blaenoriaeth.

           Os bydd rhaid defnyddio cyfran neu’r cyfan o’r grant fel rhan o’r cyllid ar gyfer dymchwel hen Ysgol y Parc a Llyfrgell Caergybi, yna gellir defnyddio swm cyfatebol o dderbyniad cyfalaf yn 2020/21 i gwblhau’r gwaith o ail-ddatblygu’r tir tu cefn i Peboc (os yw’r cynllun hwnnw wedi cychwyn yn 2019/20).

           Dirprwyo’r awdurdod i’r Dirprwy Brif Weithredwr a’r Deilydd Portffolio perthnasol i ddatblygu’r ddau brosiect i’r cyfnod gweithredu a chytuno i gyflawni cynlluniau cyfalaf cymwys eraill os na ddefnyddir yr arian i gyd ar y ddau brosiect blaenoriaeth.

 

Dogfennau ategol: