Eitem Rhaglen

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, er bod y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2020/21 yn well na'r disgwyl oherwydd setliad dros dro uwch gan Lywodraeth Cymru, mae'r amgylchiadau ariannol yn parhau i fod yn heriol. Nid yw’r setliad, mewn termau real, ond yn cymharu â lefel darpariaeth Llywodraeth Cymru yn 2012/13. Adroddodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn tybio y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn codi’r Dreth Gyngor 7.1% er mwyn cydbwyso’u cyllidebau er bod setliad gwell wedi'i roi. Mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng oherwydd fe’u defnyddiwyd i gwrdd â phwysau ariannol mewn gwasanaethau statudol lle mae’r galw’n parhau i gynyddu, megis y Gwasanaethau Oedolion ac Addysg. Roedd yr Aelod Portffolio o'r farn y gallai bod angen adolygu cyllideb sylfaenol y gwasanaethau hyn. Dywedodd ymhellach ei fod wedi cynghori’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd yn y bore, a’i fod yn dymuno dweud yn yr un modd wrth y Pwyllgor Gwaith, fod angen cymryd agwedd ddarbodus o ran gwneud argymhellion mewn perthynas â Chyllideb Refeniw 2020/21.

Cafodd y Pwyllgor amlinelliad manwl gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 o’r rhannau yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud â’r gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2020/21. Amlygwyd ac adroddwyd ar y materion canlynol: -

 

  • Paratoir y gyllideb ar sail y rhagdybiaethau a nodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2019. Mae'r rhain wedi'u hystyried wrth gyfrifo'r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21;
  • Nodwyd y newidiadau yr ymrwymwyd iddynt a'r addasiadau a wnaed i'r gyllideb ym mharagraffau 3.1 i 3.10 o'r adroddiad;
  • Mae nifer o gyllidebau wrth gefn wedi'u hadeiladu i mewn i’r gyllideb i dalu costau tymor penodol a nodir y risgiau posib y gallai bod angen cyllid ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn ym mharagraff 4.1 (Tabl 1). Mae'r sefyllfa ariannol well yn 2020/21 yn caniatáu i'r Cyngor leihau'r Gyllideb Wrth Gefn ar gyfer Cyflogau a Graddfeydd gan na ddisgwylir y bydd angen gwneud gostyngiadau sylweddol yn nifer y staff yn 2020/21;
  • Costau staff - mae ansicrwydd o ran y dyfarniad tâl i Athrawon sy'n cychwyn ym mis Medi 2020 a hefyd ynghylch y dyfarniad tâl o Ebrill 2020 ar gyfer staff nad ydynt yn athrawon - mae hyn yn risg i gyllideb y Cyngor gyda phob cynnydd o 1% yn y dyfarniad tâl i staff nad ydynt yn athrawon yn gyfwerth â baich cyllidebol ychwanegol o £450k;
  • Galw cynyddol am Ofal Cymdeithasol i Oedolion, gyda niferoedd cynyddol o gleientiaid ar draws pob maes gwasanaeth. Ar gyfer 2019/20 disgwylir i'r Gwasanaeth wario £1.21m yn uwch na’r gyllideb. Mae’r gorwariant net a amcangyfrifwyd ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ar ôl caniatáu ar gyfer 2 grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn £980k ac mae'r swm hwn wedi'i nodi fel yr isafswm sydd raid wrtho i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gyllideb. Fodd bynnag, dim ond 1 grant (Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a Chynaliadwyedd) sydd wedi'i gadarnhau ar gyfer 2020/21 ac ni chadarnhawyd hyd yma a fydd y Cyngor yn derbyn y Grant Pwysau’r Gaeaf unwaith eto yn 2020/21;
  • Mae costau cludiant ysgol wedi bod yn uwch na’r gyllideb a neilltuwyd ers nifer o flynyddoedd oherwydd cynnydd yn y galw ac mae costau'n dal i fod £250k yn uwch na’r gyllideb ac oni chywirir y gyllideb yn 2020/21 bydd y gyllideb hon yn gorwario;
  • Cynlluniwyd gostyngiad o £800k yn y gyllideb a ddirprwyir i’r ysgolion ond gohiriwyd y gostyngiad am flwyddyn a defnyddiwyd arian o'r Grant Cyflog Athrawon ychwanegol a 50% o'r Grant Pensiwn Athrawon. Mae'r grantiau hyn bellach wedi'u trosglwyddo i'r setliad a byddent yn caniatáu i'r Pwyllgor Gwaith wrthdroi'r penderfyniad i leihau’r gyllideb os yw'n dewis gwneud hynny;
  • Yn seiliedig ar yr holl addasiadau a rhagdybiaethau, mae'r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21 yn £142.203m, sef cynnydd o £6.993m ar gyllideb derfynol 2019/20. Mae'r setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019 yn dangos cynnydd o £237m yn lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer Cymru sy'n gyfwerth â chynnydd o 5.6% mewn termau arian parod. Fodd bynnag, mae £53.2m yn ymwneud â grantiau a drosglwyddwyd i mewn a phan fydd effaith y newidiadau hyn yn cael ei haddasu ar gyfer ffigwr gwirioneddol,  mae'n dangos cynnydd o £183.8m yn y cyllid, sef cynnydd o 4.3%;
  • Mae Tabl 4 yn yr adroddiad yn dangos effaith gwahanol lefelau o godiadau yn y Dreth Gyngor ar Dreth Gyngor Band D. Byddai angen cynnydd o 4.64% yn y Band Treth Gyngor i gwrdd â’r gofynion cyllidebol ar gyfer 2020/21;
  • Mae'r sefyllfa ariannol ar gyfer 2021/22 yn dal i fod yn ansicr ac efallai y gwelir y cyfnod llymder yn dychwelyd a fydd yn golygu y bydd angen arbedion pellach. Mae arbedion o £343k wedi'u nodi fel rhai y gellid eu gweithredu o Ebrill 2020 heb gael fawr o effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau'r Cyngor. Pe bai'r arbedion yn cael eu gweithredu a'r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gynyddu lefel y balansau cyffredinol neu i ariannu gwariant cyfalaf yn 2020/21, yna byddai hyn yn gadael y Cyngor mewn sefyllfa ariannol well yn 2021/22 gan nad yw gweithredu'r naill neu'r llall o'r opsiynau hyn yn cynyddu’r gyllideb refeniw yn barhaol nac yn lleihau'r cyllid sydd ar gael.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y trafodaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 13 Ionawr, 2020 lle cyflwynwyd y Gyllideb Refeniw Ddrafft ar gyfer 2020/21. Dywedodd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
wedi argymell i'r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn: -

 

·         na ddylid gweithredu'r gostyngiad o £800k yn y gyllideb a ddirprwyir i’r ysgolion ac a ohiriwyd o 2019/20;

·         peidio â chodi ffioedd parcio yn yr ardaloedd trefol i'r lefel a gynigiwyd;

·         na ddylai'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 fod yn fwy na 5%.

 

Dywedodd ymhellach nad oedd yr adroddiad i'r Pwyllgor Sgriwtini yn cynnwys unrhyw wybodaeth am gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid nad yw gwybodaeth am gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar y cynigion cyllidebol cychwynnol ond bod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried adroddiad llawn ar Gronfeydd Wrth Gefn a Balansau cyn iddo argymell y cynigion  terfynol ar gyfer y gyllideb.

 

Wrth nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd iddo, roedd y Pwyllgor Gwaith yn dymuno diolch i'r staff am eu gwaith yn paratoi'r cynigion cyllidebol cychwynnol. Soniwyd am yr  ansicrwydd o ran y dyfarniad cyflog i athrawon a'r pwysau y mae hynny'n ei roi ar gynigion cyllidebol awdurdodau lleol. Dywedodd yr Arweinydd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn trafodaethau â chynrychiolwyr yr Undeb perthnasol a Llywodraeth Cymru a nododd ei bod yn ystyried nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid digonol o fewn y setliad i gwrdd â’r dyfarniad cyflog ar gyfer athrawon.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y gallai Llywodraeth Cymru roi grant ychwanegol, fel y rhoddwyd y llynedd, i gwrdd â’r diffyg yn y setliad er mwyn cwrdd â’r dyfarniad cyflog i athrawon. Fodd bynnag, dywedodd  fod ansicrwydd ar hyn o bryd a roddir grant o'r fath.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cymeradwyo'r addasiadau i'r Gyllideb a gynhwyswyd yn y Gyllideb Ddigyfnewid fel y nodir ym mharagraffau 3 i 7 o'r adroddiad yn Atodiad 1;

 

·      Cymeradwyo'r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21, sef  £142.203m, a dylai hyn fod yn sail i gyllideb refeniw 2020/21;

·      Ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar gynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 o rhwng 4.5% a 5%;

 

·      Ar ôl y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor a gweithredu’r arbedion, os oes unrhyw arian dros ben ar gael, dylai'r Pwyllgor Gwaith benderfynu sut i ddefnyddio’r gwarged hwnnw (fel y nodwyd ym mharagraff 10.5);

 

5              Y dylai’r Pwyllgor Gwaith ymofyn barn y cyhoedd ar y strategaeth gyllidebol arfaethedig.

 

 

Dogfennau ategol: