Eitem Rhaglen

Anableddau Dysgu - Trawsnewid Cyfleon Dydd

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn ymgorffori Papur Cynnig ar ddyfodol Cyfleoedd Dydd yn y maes Anabledd Dysgu yn Ynys Môn. ‘Roedd yr adroddiad yn gofyn am ganiatâd gan y Pwyllgor Gwaith i ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i “ddatblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anabledd dysgu, ymestyn y ddarpariaeth yn Gors Felen a chau’r gwasanaethau ym Morswyn, Blaen y Coed a Gerddi Heulfre.”

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod angen  ail-lunio a moderneiddio'r gwasanaethau cyfleoedd dydd er mwyn -

 

           datblygu cyfleoedd cynaliadwy i unigolion;

           gwella’r ddarpariaeth gwasanaeth ymhellach yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol;

           ymateb i atborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd ynghylch sut fath o gyfleoedd dydd yr hoffent eu cael yn y dyfodol;

           diwallu anghenion y bobl y mae'r Awdurdod yn eu cefnogi ar hyn o bryd ac i’r dyfodol;

           cwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Amlygodd mai'r bobl bwysicaf mewn ymgynghoriad yw'r rheini sy’n cael eu heffeithio ganddo, ynghyd â’u teuluoedd a'u gofalwyr a phwysleisiodd, pe bai'r Pwyllgor Gwaith yn penderfynu bwrw ymlaen ag ymgynghoriad, ei bod hi'n awyddus iddo fod ar sail y gyrwyr canlynol –

 

           ffocws ar ddull sy'n seiliedig ar ganlyniadau h.y. symud i ffwrdd o dalu am weithgareddau rhagnodedig o fewn amserlen benodol i dalu am ganlyniadau neu ddeilliannau sy'n cynyddu sgiliau, lles a hyder yr unigolyn;

           sicrhau'r un safonau darparu gwasanaeth ar draws yr holl wasanaethau, gyda'r gwasanaethau mewnol ac allanol fel ei gilydd yn canolbwyntio ar sicrhau cynnydd yr unigolyn a chyflawni canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth unigol;

           sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n deg gyda'r un meini prawf asesu a mynediad ar gyfer gwasanaethau mewnol ac allanol;

           sicrhau bod prisiau teg am wasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion gwahanol yr unigolion sy'n mynychu e.e. gall fod yn briodol talu cyfradd premiwm i gefnogi unigolyn ag anableddau dysgu mwy dwys neu luosog neu anghenion cymorth cymhleth;

           bydd gan ddarparwyr fwy o ryddid a hyblygrwydd i weithio gyda'r bobl y maent yn eu cefnogi i ddylunio a chydgynhyrchu’r gweithgareddau a fydd yn cyflawni'r canlyniadau hynny. Gellir cyflwyno rhai o'r gweithgareddau hyn mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau cymunedol eraill;

           annog darparwyr gwasanaeth, mewnol ac yn allanol, i ddatblygu, addasu a newid mewn ymateb i'r ffordd newydd hon o weithio;

           annog grwpiau yn y gymuned i gynnig lleoliadau â chymorth yn rheolaidd a all ychwanegu at sgiliau unigolyn a sicrhau cynnydd yr unigolyn.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr achos dros newid yn seiliedig ar y gred bod angen diwygio natur y ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn darparu gwell canlyniadau i'r unigolion hynny yn eu cymunedau lleol ac i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n parhau i fod yn gynaliadwy ac yn effeithiol i'r dyfodol. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor nifer o gyfleoedd dydd gwahanol ar gael i bobl ag anableddau dysgu. Mae rhai ohonynt yn cael eu darparu'n fewnol gan y Cyngor ei hun a rhai ohonynt yn cael eu comisiynu'n allanol. O dan gyfarwyddyd y Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau i Oedolion, trefnwyd cyfres o ymweliadau â gwahanol ganolfannau dydd ar yr Ynys ar gyfer Aelodau Etholedig ym mis Gorffennaf 2019 a helpodd i ddarparu dealltwriaeth gliriach o’r gwasanaethau a ddarperir gan y canolfannau; ar ben hynny, mae Strategaeth newydd ar gyfer Cyfleoedd Dydd i Bobl ag Anabledd Dysgu wedi cael ei  mabwysiadu ar ôl ymgysylltu'n ddwys â defnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr hyn yr hoffent ei weld ar ffurf cefnogaeth a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a chynnydd. Mae'r papur cynnig yn ymhelaethu ar yr elfennau hyn a hefyd yn nodi'r heriau allweddol sy'n wynebu'r canolfannau dydd mewnol cyfredol ym Morswyn, Caergybi; Blaen y Coed, Llangoed; Gerddi Heulfre, Llangoed a Gors Felen, Llangefni. Dywedodd y Swyddog mai'r bwriad fel rhan o'r ymgynghoriad yw rhoi cyfeiriad clir ynghylch yr ymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau dros gyfnod o amser, boed hynny yn y sectorau annibynnol neu wirfoddol neu'n fewnol yn y Cyngor er mwyn ymestyn y cyfleoedd i unigolion o fewn eu cymunedau. I'r rheini a chanddynt anghenion mwy dwys a chymhleth, ystyrir bod angen un ganolfan sy’n fwy arbenigol a byddai hynny’n rhan o'r ymgynghoriad - rhagwelir y gallai Gors Felen gyflawni'r pwrpas hwn. Mae'r cynnig hefyd yn rhagweld y bydd y ddarpariaeth cyfleoedd dydd yn y maes anabledd dysgu yn cael ei chynnig fwy yn y gymuned yn y tymor hir yn hytrach nag mewn canolfan. Y gobaith yw y bydd y cynnig yn darparu mwy o hyblygrwydd a chyfleoedd gwell a mwy amrywiol i unigolion yn eu cymunedau lleol.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd G O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i gyflwyno persbectif y Pwyllgor ar y mater wedi iddo graffu ar y papur cynnig yn ei gyfarfod ar 21 Ionawr, 2020. Er bod y Pwyllgor yn gwbl gefnogol i'r bwriad o foderneiddio gwasanaethau cyfleoedd dydd i bobl ag anableddau dysgu, dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor yn pryderu am y cyfeiriad a wneir at gau tair canolfan gan ei fod yn ystyried ei fod yn gynamserol ar hyn o bryd. Wrth wneud y pwynt y dylai'r broses ymgynghori ganolbwyntio ar gael deialog gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd a rhanddeiliaid eraill er mwyn creu'r amodau lle gallent ddylanwadu ar y model cyflawni ar gyfer y dyfodol, penderfynodd y Pwyllgor argymell i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cefnogi, mewn egwyddor, y bwriad i ymgynghori ar y cynnig i ddatblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anabledd dysgu a’i fod yn awdurdodi Swyddogion i gynnal ymgynghoriad ffurfiol arno.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Lewis Davies ac Alun Roberts fel Aelodau Lleol am eu siom ynghylch y cyfeiriad yn y cynnig at gau tair canolfan ddydd, gan nad oeddent yn teimlo ei fod yn  sail ar gyfer ymgynghori adeiladol lle gallai unigolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr roi eu barn ar yr hyn sy'n bwysig iddynt a thrwy hynny helpu i lunio ffurf a chyfeiriad y gwasanaeth i’r  dyfodol. Er mwyn cael trafodaeth gadarnhaol gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd a'u cymunedau, anogodd yr Aelodau Lleol y Pwyllgor Gwaith i ddileu'r cyfeiriad at gau canolfannau o'r cynnig a chanolbwyntio’n hytrach yn y lle cyntaf ar gael sgwrs gyda rhanddeiliaid am yr hyn yr hoffent ei gael o'r gwasanaeth cyfleoedd dydd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor Gwaith sylw i’r papur cynnig, yr atborth gan y Pwyllgor Sgriwtini a sylwadau’r Aelodau Lleol ac er ei fod yn derbyn y gosodiad canolog ynghylch yr angen i foderneiddio'r ffordd y darperir cyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu, mynegodd amheuon ynghylch y cynnig fel yr oedd wedi ei lunio ar hyn o bryd oherwydd ei fod o’r farn na fyddai  efallai’n sicrhau bod y broses yn bwrw ymlaen mewn ffordd mor gadarnhaol ag y gobeithiwyd nac yn annog trafodaeth sydd mor eang â phosib. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd, gan ei bod yn bwysig bod rhanddeiliaid a'u teuluoedd yn deall yr hyn y mae moderneiddio'r gwasanaethau cyfleoedd dydd yn ei olygu a'r hyn sy'n cael ei gynnig, fod  angen fersiwn hwylusach a haws ei deall o'r papur cynnig / ymgynghori.

 

Yng ngoleuni'r drafodaeth, cyflwynodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig diwygiedig a gefnogwyd gan y Pwyllgor Gwaith - sef cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y canlynol -

 

           Datblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anabledd dysgu.

           Sefydlu a oes manteision i ymestyn canolfan ddydd i gwrdd ag anghenion mwy dwys.

           Adolygu'r ddarpariaeth gwasanaeth dydd gyfredol yn y maes anabledd dysgu. 

 

Penderfynwyd awdurdodi Swyddogion i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y canlynol –

 

           Datblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anableddau dysgu.

           Sefydlu a oes budd o ehangu canolfan ddydd i gwrdd ag anghenion mwy dwys

           Adolygu’r ddarpariaeth gwasanaeth dydd anabledd dysgu presennol

Dogfennau ategol: