Eitem Rhaglen

Cyllideb Cyfalaf 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gynnig
cyllideb gyfalaf ar gyfer 2019/20 a fydd wedyn yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2020. Roedd yr adroddiad yn nodi'r brif raglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2020/21.

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn fanwl i'r Pwyllgor am y prif bwyntiau yn yr adroddiad, ac amlygwyd ac adroddwyd ar y materion a ganlyn: -

 

  • Mae'r Strategaeth Gyfalaf gyfredol yn nodi'r egwyddorion i'r Cyngor eu dilyn wrth bennu ei raglen gyfalaf, a dyrennir cyllid cyfalaf bob blwyddyn i sicrhau bod y Cyngor yn buddsoddi yn ei asedau cyfredol h.y. adeiladau'r Cyngor, cerbydau, offer TG, priffyrdd a ffyrdd;
  • Cyfeiriwyd at y cyllid cyfalaf (fel y dangosir yn Nhabl 1 yr adroddiad) a oedd yn dangos y cyllid cyfalaf y disgwylir iddo fod ar gael ar gyfer 2020/21 a bod y ffigyrau ar gyfer y setliad cychwynnol i lywodraeth leol yn cyfeirio at y Grant Cyfalaf Cyffredinol a Benthyca â Chymorth. Mae lefel y cyllid o dan y ddau bennawd hyn wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd ac ni ragwelir y byddant yn newid yn sylweddol rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol;
  • Amlinellwyd y sefyllfa o ran rhaglen gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif i'r Pwyllgor;
  • Mae cyllid y CRT wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau CRT yn unig. Mae'r cynllun yn caniatáu ar gyfer defnyddio £5.24m o gronfeydd wrth gefn y CRT yn 2020/21;
  • Cyfeiriwyd at y cynlluniau yr ymrwymwyd iddynt yn 2019/20 fel y dangosir yn Nhabl 2 yr adroddiad, a fydd yn cario drosodd i 2020/21 ond bydd angen cyllid cyfatebol ychwanegol o £75k mewn perthynas â Chynllun Adfywio Caergybi (Rhan II y Fenter Treftadaeth Treflun) ac argymhellir y dylid cynnwys y cynllun hwn yn rhaglen gyfalaf 2020/21;
  • Adnewyddu / Amnewid Asedau Cyfredol (fel y dangosir yn Nhabl 3 yr adroddiad). Mae lefel y cyllid yn parhau yn 2021/22 a thu hwnt a bydd rhaglen gyfalaf y Cyngor yn gyfyngedig i adnewyddu ac amnewid asedau cyfredol;
  • Cyfeiriwyd at brosiectau cyfalaf ‘Unwaith ac am Byth’ i’w hariannu yn 2020/21 (fel y dangosir yn Nhabl 4 yr adroddiad) a oedd yn werth cyfanswm o £ 2,174m;
  • ‘Roedd paragraff 5.4 yr adroddiad yn dwyn sylw at nifer o brosiectau nad oes angen cyllid arnynt yn 2020/21 ond a allai fod angen eu hariannu yn 2021/22 neu wedi hynny.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar drafodaethau cyfarfod y Pwyllgor hwnnw ar 13 Ionawr, 2020 lle cyflwynwyd y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21.  Dywedodd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi argymell cefnogi'r Rhaglen Gyfalaf o £36.903m ar gyfer 2020/21.

 

Roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i'r Panel Sgriwtini Cyllid am ei waith mewn perthynas â'r Gyllideb Gyfalaf a'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21.

 

Wrth nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd, ‘roedd y Pwyllgor Gwaith yn dymuno cofnodi bod gan y Cyngor bellach strategaeth ar gyfer cynnal asedau'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·       Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2020/21 i'r Cyngor llawn: -

 

 

                                                                           £ ’m

      Cynlluniau 2019/20 a Ddygwyd Ymlaen      3,294

Adnewyddu / Amnewid Asedau                    5,158

Prosiectau Cyfalaf Un tro Newydd               2,174

Mân-ddaliadau wedi'u hariannu o

      dderbyniadau cyfalaf                                        100

Ysgolion yr 21ain Ganrif                                9,039

Cyfrif Refeniw Tai                                          17,138

 

             Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf a

argymhellir ar gyfer 2020/21                         36,903

 

Wedi ei ariannu gan:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                               2,165

Benthyca â Chymorth                                     2,364

Derbyniadau Cyfalaf                                          245

Cronfa Gyfalaf                                                    500

             Benthyca â Chymorth -

Ysgolion yr 21ain Ganrif                                 2,680

Benthyca Digymorth –

Ysgolion yr 21ain Ganrif                                 3,679

Gwarged CRT a Gwarged yn y Flwyddyn    14,228

Benthyca Digymorth CRT                                  250

Grantiau Allanol                                               7,572

Cyllid 2019/20 a Ddygwyd Ymlaen                  3,219

 

Cyfanswm Cyfalaf Cyllid 2020/21                  36,903

 

 

·           Bod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried defnyddio'r gronfa wrth gefn TAW Hamdden ac unrhyw dderbyniadau cyfalaf posib o werthiant arfaethedig y cwrs golff pan gyflwynir fersiwn ddrafft y Cynllun Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol i'r Pwyllgor Gwaith. Bod y £32k sy'n weddill yn cael ei ddwyn ymlaen fel cyllid i'w ddefnyddio yn 2021/22;

 

·           Nodi’r gofynion cyllido posib yn y dyfodol ar gyfer 2021/22 ymlaen (fel y nodwyd yn Atodiad 1, Tabl 3 a pharagraff 5.5).

 

 

 

Dogfennau ategol: