Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni: Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Raglen Moderneiddion Ysgolion y Cyngor Sir mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori papur cynnig ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, mewn perthynas ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i “adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle arall i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.”

 

Gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater hwn gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y mater.

 

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnig i foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, ac a oedd yn ymwneud yn benodol ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Cyfeiriodd at y penderfyniad a wnaed ym mis Mai 2019, a oedd yn benderfyniad o eiddo’r Cyngor yn unig, drwy’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Gwaith, i ddiddymu’r penderfyniadau gwreiddiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni a gofyn i swyddogion edrych o’r newydd ar y materion amrywiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2018, ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r papur cynnig yn rhan o’r broses hon ac yn asesiad mewnol cychwynnol y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo fel sail i ymgynghoriad statudol. Conglfaen y weledigaeth ar gyfer moderneiddio ysgolion yw dyfodol plant yr Ynys a phrif amcan y rhaglen yw creu’r amgylchedd addysgol orau bosib i ganiatáu  i athrawon a disgyblion lwyddo, a thrwy hynny hyrwyddo safonau uchel. Gall newid fod yn anodd, a hyd yma mae gweithredu’r rhaglen moderneiddio ysgolion wedi bod yn heriol ar brydiau, ac er ei fod wedi golygu cau rhai ysgolion cynradd ar y naill law, ar y llaw arall mae wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol o £22m mewn addysg ar yr Ynys drwy greu tair ysgol newydd ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Wrth amlinellu’r broses a’r amserlen i’w dilyn ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus pe cymeradwyid y papur cynnig, anogodd yr Aelod Portffolio yr holl randdeiliaid a phawb sydd â diddordeb i gymryd rhan ac i gyflwyno eu safbwyntiau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad mor ystyrlon â phosib.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y papur cynnig i’r Pwyllgor Gwaith, gan amlinellu ei gynnwys, a chadarnhaodd y derbyniwyd cyngor cyfreithiol arno, mewn perthynas â’r broses a disgwyliadau’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018. Amlinellodd yrwyr allweddol ar gyfer newid y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion a’r meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni pan gymhwysir y gyrwyr hynny i’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni. Dywedodd y rhoddwyd ystyriaeth i un ar ddeg opsiwn/opsiwn amgen rhesymol ar gyfer ardal Llangefni, sydd yn cynnwys Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Daeth dadansoddiad manwl o’r holl opsiynau amgen rhesymol i’r casgliad nad oes yr un datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan (mae adran 5 y papur cynnig yn cyfeirio at hyn). O’r herwydd, ac oherwydd eu hagosrwydd daearyddol, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiad posib ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, a dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn (rhoddir sylw manwl i hyn dan eitem 3 ar y rhaglen).

 

Rhoddodd y Swyddog grynodeb o’r broses ers mis Mehefin 2019, a oedd wedi golygu nodi’r meini prawf ar gyfer y ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni ac ystyried opsiynau amgen ar gyfer ardal Llangefni gyfan. Gan nad oes unrhyw ddatrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan, mae’r strategaeth foderneiddio wedi arwain at ganolbwyntio ar nodi datrysiadau’n seiliedig ar ddalgylchoedd Ysgol Bodffordd/Ysgol Corn Hir ac Ysgol y Graig/Ysgol Talwrn, gan gadw mewn cof yr heriau yn yr ysgolion hynny a’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018, a’r angen oherwydd hynny i archwilio’r holl opsiynau amgen rhesymol heblaw cau Ysgol Bodffordd ac Ysgol Talwrn (er, yn wahanol i Ysgol Bodffordd, ni ddynodwyd Ysgol Talwrn yn ysgol wledig dan y côd). Ystyriwyd tair ar ddeg o opsiynau amgen (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Bodffordd a deg opsiwn amgen (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Talwrn; nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn bodloni’r gyrwyr ar gyfer ardal Llangefni ac nid oeddent yn hyfyw mewn perthynas â darpariaeth addysg yn yr ysgolion yn y tymor hir.

 

Amlinellodd y Swyddog yr heriau penodol y mae Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir yn eu hwynebu (adran 6 yn y papur cynnig). Ystyriwyd a dadansoddwyd tair ar ddeg o opsiynau amgen rhesymol (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Bodffordd ac un ar ddeg o opsiynau amgen (gan gynnwys y cynnig) ar gyfer Ysgol Corn Hir yn erbyn y gyrwyr allweddol ar gyfer moderneiddio ysgolion a’r meini prawf ar gyfer y ddarpariaeth addysgol yn ardal Llangefni (adrannau 7 a 9 yn y papur cynnig). Aseswyd pob opsiwn amgen ar gyfer Ysgol Bodffordd o safbwynt yr effaith debygol ar safonau, y gymuned a threfniadau teithio disgyblion (adran 8). Mae adran 5 y papur yn amlinellu’r opsiynau amgen rhesymol ar gyfer ardal Llangefni a gellir eu crynhoi fel a ganlyn -

 

           Parhau â'r trefniadau presennol - Gadael Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn fel y maent;

           ffedereiddio Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn gydag Ysgol Gyfun Llangefni (Ysgol Uwchradd);

           ffedereiddio Ysgol Y Graig ac Ysgol Corn Hir (symud Ysgol Corn Hir i ysgol newydd a chynyddu capasiti Ysgol Corn Hir). Ehangu’r ffederasiwn ymhellach ymlaen i gynnwys Ysgol Bodffordd, Ysgol Talwrn ac Ysgol Gyfun Llangefni dan un corff llywodraethu;

           un ysgol gynradd newydd yn Ardal Llangefni ar gyfer disgyblion Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn;

           ysgol Pob Oed newydd yn Llangefni ar gyfer Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn;

           cynnal gwaith ôl-groniad cynnal a chadw ar yr holl ysgolion;

           ehangu’r holl ysgolion cynradd;

           clystyru, cydweithrediad rhwng ysgolion yn ardal Llangefni;

           defnyddio’r ysgolion fel hybiau cymunedol i letya/cefnogi gwasanaethau cymuned e.e. Iechyd, cyfleusterau gofal plant, dysgu i deuluoedd ac oedolion, addysg i’r gymuned, chwaraeon, hamdden, gweithgareddau cymdeithasol;

           cydleoli gwasanaethau lleol mewn ysgolion;

           sefydlu ysgolion aml-safle : (CA1 – ar un safle) (CA2 – ar safle arall).

 

Cadarnhaodd bod yr asesiad wedi dangos bod y cynnig a gyflwynwyd yn cael effaith gadarnhaol ar safonau, effaith niwtral ar y gymuned ac effaith negyddol ar drefniadau teithio rhai disgyblion. Daeth i’r casgliad hefyd y byddai’n rhaid i’r Cyngor liniaru effaith y posibilrwydd o gau Ysgol Bodffordd drwy weithio gyda’r gymuned i sicrhau hyfywedd tymor hir y ganolfan gymuned bresennol a darparu gwasanaeth bws o’r pentref i safle newydd Ysgol Corn Hir ar gyfer disgyblion cymwys, yn unol â pholisi cludiant ysgol yr Awdurdod. Ar ôl ystyried yn ofalus yr opsiynau amgen ar gyfer Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, a’r effaith debygol ar ansawdd a safonau addysg, y gymuned a threfniadau teithio disgyblion ar gyfer Ysgol Bodffordd, y cynnig a ffafrir gan yr Awdurdod er mwyn cynnal ymgynghoriad statudol arno yw “adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle arall i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.” Byddai’r cynnig yn golygu adleoli Ysgol Corn Hir i safle newydd, gyda’r ysgol yn parhau i weithredu yn y dyfodol; byddai corff llywodraethu Ysgol Corn Hir yn llywodraethu’r ysgol newydd. Byddai’r Awdurdod yn ceisio sicrhau bod cynrychiolaeth o Ysgol Bodffordd ar y corff llywodraethu a byddai Ysgol Bodffordd yn cau.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i gyflwyno safbwynt y Pwyllgor ar y mater ar ôl i’r Pwyllgor hwnnw ystyried y cynnig yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr, 2020. Adroddodd y Cynghorydd Jones bod nifer dda o gynrychiolwyr o Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno eu safbwyntiau. Ar gychwyn y cyfarfod, cyflwynwyd trosolwg o’r sefyllfa yn Llangefni i’r Pwyllgor ac ar ôl ystyried yr achos dros y cynnig a ffafrir ar gyfer Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd, fel yr amlinellir yn y papur cynnig, roedd y Pwyllgor yn cytuno bod angen ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir, ond mynegwyd rhai pryderon ynghylch y posibilrwydd o gau Ysgol Bodffordd. Er y gwnaed cynnig amgen i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a chadw Ysgol Bodffordd ar agor, a’i ffedereiddio gydag ysgol arall, ni dderbyniodd y cynnig ddigon o gefnogaeth a phenderfynodd y Pwyllgor yn ffurfiol, gyda chefnogaeth mwyafrif yr aelodau, i argymell y cynnig i “adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle gwahanol i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir” i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Wrth ddiolch i Sgriwtini am ei gyfraniad, dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Dylan Rees, yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiad arall ar ran y Cyngor, a’i fod wedi cyflwyno sylwadau ar y mater drwy e-bost. Darllenodd y Cadeirydd yr e-bost, a oedd hefyd yn cynnwys copi o gyflwyniad Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Bodffordd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr. Mae’r Cynghorydd Rees yn amlygu’r pwynt a wnaed yn y cyflwyniad am annhegwch y cynnig, a fyddai’n golygu adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir ond a fyddai’n golygu hefyd y byddai Ysgol Bodffordd yn cael ei chau a’i llyncu gan yr Ysgol Corn Hir ac roedd yn teimlo bod hynny’n anghyfartal ac yn anghywir o safbwynt moesol a’i fod, o bosib, yn codi cwestiynau ynghylch cydraddoldeb. Roedd y cynllun gwreiddiol wedi argymell adeiladu ysgol newydd ar y cyd ar gyfer Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd ac roedd hynny’n ateb tecach. Roedd yn credu mai’r opsiwn gorau oedd y cynnig amgen a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, er na ddenodd gefnogaeth mwyafrif yr aelodau, sef ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a chadw ysgol Bodffordd, a’i ffedereiddio gydag ysgol arall, a gofynnodd i’r Pwyllgor Gwaith ei ailystyried.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith y papur cynnig, gan ystyried sylwadau ac argymhelliad Sgriwtini ynghylch y cynnig a ffafrir, ac roedd yn awyddus i bwysleisio bod y cynnig yn cael ei gyflwyno i bwrpas cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn caniatáu i safbwyntiau rhanddeiliaid gael eu casglu a’i bod, o’r herwydd, yn holl bwysig bod pawb sydd â diddordeb yn y mater yn ymateb i’r ymgynghoriad. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gall ad-drefnu ysgolion fod yn fater anodd, a phwysleisiwyd nad yw rhesymeg sylfaenol y rhaglen foderneiddio ysgolion wedi newid, sef sicrhau’r ddarpariaeth addysg orau bosib ar gyfer plant yr Ynys a gwella effeithiolrwydd ysgolion ym mhob un o ysgolion yr Ynys.

 

Wrth grynhoi, cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at gasgliadau’r papur cynnig, sy’n datgan mai’r cynnig yw’r ateb mwyaf effeithiol ym marn y Cyngor, a’i fod yn mynd i’r afael â’r prif yrwyr ar gyfer ardal Llangefni a’r heriau allweddol y mae Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir yn eu hwynebu, ac ategodd bwysigrwydd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Cynigiodd yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig i “adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle arall i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir”, ac awdurdodi swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig.

Dogfennau ategol: